Jac yr Undeb
Gwna i ddim ychwanegu halen at friw Alum Ffred Jones yn fan hyn. Mae gen i ambell i bwlpit arall lle gallaf wneud hynny! Rhywbeth arall sydd wedi denu fy sylw sef araith gan Gweinidog Addysg y Deyrnas Unedig, Michael Gove, yn cyhoeddi newidiadau i'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn Lloegr. Wrth gyfeirio at y ffordd mae hanes yn cael ei dysgu dywedodd hyn:
Children are growing up ignorant of one of the most inspiring stories I know - the history of our United Kingdom. Our history has moments of pride, and shame, but unless we fully understand the struggles of the past we will not properly value the liberties of the present... Well, this trashing of our past has to stop. I am delighted to announce today that Professor Simon Schama has agreed to advise us on how we can put British history at the heart of a revived national curriculum.
Fe fydd darllenwyr treiddgar a chraff y blog hwn yn sylwi ar y broblem yn syth. Dyw pwerau Michael Gove ddim yn ymestyn llawer y tu hwn i Glawdd Offa na Mur Hadrian. Dim ond rhai o blant yr ynysoedd hyn fydd yn cael dysgu "our island story" felly. Fe fydd plantos Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, heb son am rhai'r Weriniaeth, yn dysgu fersiynau gwahanol o'r hanes hwnnw.
Nawr, mae Michael Gove yn gwybod hynny'n iawn. Dewisodd beidio dynnu sylw at y ffaith yn ei araith gan synhwyro efallai nad oedd union natur y setliad cyfansoddiadol y berthnasol wrth iddo daflu darn o gig amrwd gwleidyddol i gyfeiriad y selogion.
Mae rôl Simon Schama yn y broses, yn lle David Starkey, dyweder, yn sicrhau na fydd y gwledydd Celtaidd y cael eu diystyru fel "feeble little countries" yn y Cwricwlwm Seisnig ac y bydd yr hanes sy'n cael ei ddysgu yn ysgolion Lloegr yn feddylgar a chytbwys.
Serch hynny mae'n anodd osgoi'r teimlad bod Michael Gove yn ceisio cau drws y stabl ar ôl i'r ceffylau Celtaidd adael trwy ail-ddyrchafu Prydeindod wrth galon Cwricwlwm Lloegr.
Rwyf am fentro yn ôl i'r llyfrau hanes fy hun yn fan hyn trwy deithio yn ôl i'r 1970au a dadleuon Neil Kinnock yn y refferendwm datganoli cyntaf. Dadl fawr Neil oedd y byddai sefydlu Cynulliad i Gymru yn creu "llwybr llithrig i annibyniaeth". Mae'n swnio hyd yn oed yn well yn Saesneg. Mae "the slippery slope to separation" yn agos iawn at fod yn rhyw fath o gynghanedd!
Doedd y ddadl ddim yn gwbwl disylwedd. Mewn gwirionedd y cyfan oedd Neil yn gwneud oedd adleisio hen bregeth Gwynfor Evans y byddai datganoli'n arwain at gynnydd mewn "Cymreictod" ar draul "Prydeindod". Y gwahaniaeth oedd bod hynny'n beth drwg ym marn aelod Bedwellte.
Nid fy mod yn credu bod yna unrhyw fath o gynllwyn ar waith ond y ffaith syml yw bod Ysgolion Cymrum, boed yn gyfrwng Cymraeg neu gyfrwng Saesneg bellach yn dyrchafu a dathlu Cymreictod yn eu gwersi a'u digwyddiadau. Dydw i ddim yn cofio y tro diwethaf i mi weld jac yr undeb neu lun o ryw frenin neu frenhines ar wal ysgol yng Nghymru. Mae'r dreigiau cochion ar y llaw arall ym mhobman a doe na fawr ddim y gall Michael Gove wneud ynghylch hynny.
SylwadauAnfon sylw
"Nid fy mod yn credu bod yna unrhyw fath o gynllwyn ar waith ond y ffaith syml yw bod Ysgolion Cymrum, boed yn gyfrwng Cymraeg neu gyfrwng Saesneg bellach yn dyrchafu a dathlu Cymreictod yn eu gwersi a'u digwyddiadau."
Mae'n amlwg felly nad wyt ti'n gyfarwydd a rhai o ysgolion cefn gwlad Cymru lle mae na mewnlifiad mawr wedi digwydd o ddinasoedd Lloegr gan fwyaf. Mi sylwodd cynghorydd o Sir Gar, nad oedd unrhyw arwydd fod ysgol CN Emlyn yng Nhymru, pan ymwelodd a'r ysgol.
Rhaid dweud mai bach iawn o hanes Cymru mae plant yn dysgu o dan y Cwricwlwm Cenedlaethol Cymreig.
A yw ein system addysg yn rhywbeth i ddathlu ar hyn o bryd, tybed ?
Ai ni ynte'r Saeson sydd gyda'r blaenoriaethau gorau ar gyfer addysg dda ?
Ofnaf mai ty ar y tywod go iawn yw addysg Gymraeg, o weld safon y Gymraeg ysgrifenedig sy'n cael ei gynhyrchu gan ein disgyblion (a'n athrawon ifanc, o ran hynny). Eifion Lloyd Jones, John Albert Evans, Iolo Dafydd.
A yw'r 3 yn anghywir ?
Rydych chi Vaughan yn gyfarwydd ag ysgolion gwahanol iawn i fi!
Victoria, Victoria a rhagor o Victoria gafodd y ferch pan oedd hi yn yr ysgol gynradd [Gymraeg] yn Hwlffordd.
A Hitler, Hitler a rhagor o Hitler oedd yr arlwy ym maes llafur TGAU y mab yn ysgol y Preseli yr un pryd.