Clymu ei hun i'r mast
Ddeuddydd yn ôl roedd hi'n ymddangos bod 'na dri opsiwn posib o safbwynt y cam nesaf yn y saga.
Yr opsiwn cyntaf oedd awgrym Alun Davies ac eraill yn y Cynulliad y dylai'r awdurdod cyfan gan gynnwys y cadeirydd ymddiswyddo. Yr ail opsiwn oedd yr awgrym gan Geidwadwyr Cymreig San Steffan y dylai John Walter Jones barhau yn ei swydd tra bod gweddill aelodau'r awdurdod allan trwy'r drws. Drychddelwedd o'r cynllun hwnnw oedd awgrym Geraint Talfan Davies y dylai'r cadeirydd fynd a gweddill yr awdurdod aros.
Efallai na ddylwn i synnu at unrhywbeth bellach ond doeddwn i byth bythoedd wedi rhagweld dablygiadau ddoe. O am fod yn bry ar wal yng nghyfarfod nesaf yr awdurdod ar ôl popeth sydd wedi cael ei ddweud yn gyhoeddus ac yn breifat yn ystod yr wythnos ddiwethaf!
Ta beth, mae yn cynnig prawf o un stori yr oeddwn wedi ei chlywed ond yn methu eu chadarnhau wythnos ddiwethaf. Yn ei ddatganiad dywed John Walter hyn;
"Mi fydda i yn 65 ddiwedd Mawrth flwyddyn nesa' a fy mwriad oedd cael ymddeol o fod yn Gadeirydd S4C bryd hynny. Fe ges i a'r Ysgrifennydd Gwladol sgwrs ac roedd o'n deall fy mhenderfyniad. Wnaeth o a fi ddim cytuno pryd y byddwn yn gwneud fy mhenderfyniad yn gyhoeddus. Yn sicr, doeddwn i ddim am i'm penderfyniad ddod yn bwnc trafod, na dylanwadu ar y broses oedd ar waith o ran penodi Prif Weithredwr, felly ddydd Gwener diwethaf wedi amser cau ceisiadau oedd yr amser o'n i wedi bod yn meddwl amdano. Ond ches i ddim cyfle. Fe gamddehonglwyd cynnwys llythyr personol i mi gan Jeremy Hunt, ac fe drawyd S4C unwaith eto gan swnami."
Nid camddehongliad o gynnwys llythyr Jeremy Hunt y mae John Walter yn cyfeirio ato yn fan hyn ond camddehongliad o bwy oedd i fod i dderbyn y llythyr. Trwy gamgymeriad, hap a damwain neu am ryw reswm arall fe gafodd y "llythyr personol" ei gylchredeg i aelodau eraill yr awdurdod. Oni bai am hynny ni fyddai dyfodol y cadeirydd wedi codi yn y cyfarfod lle wnaeth John Walter "ymddiswyddo".
Mae Dewi a Gwylan yn y sylwadau yn cwyno nad ydym eto yn gwybod y stori gyflawn am S4C. Mae 'na bethau na ellir eu dweud am resymau cyfreithiol yn ymwneud a thribiwnlys Iona Jones ond yn y bôn dwi'n meddwl bod stori fewnol S4C yn weddol eglur erbyn hyn.
Y broblem yw bod darnau'r jig-so wedi eu gwasgaru ar draws amryw bost a rhaglen. Fe wnaf i geisio crynhoi'r hyn 'da'n ni'n gwybod felly.
Mae'n ymddangos mae'r drwg yn y caws oedd y gyfundrefn o "arwahanrwydd" a fabwysiadwyd gan S4C yn 2006. Cyfundrefn wedi eu modeli ar system lywodraethu newydd y ´óÏó´«Ã½ oedd hon. Fe fyddai'r Sianel yn cael ei rhedeg gan fwrdd o reolwyr proffesiynol gyda hyd braich rhyngddo a'r awdurdod. Ni fyddai'r awdurdod yn ymyrryd ym mhenderfyniadau dydd i ddydd y rheolwyr. Yn hytrach llunio canllawiau, gosod targedau a mesur perfformiad fyddai rôl yr awdurdod.
Dros gyfnod o amser fe ddechreuodd rhai aelodau o'r awdurdod deimlo fod y rheolwyr yn defnyddio'r gyfundrefn i gau allan yr awdurdod a mynd tu ôl i gefnau'r aelodau.
Comisiynwyd adolygiad gan gwmni Price Waterhouse Coopers oedd yn nodi bod 'na wendidau sylfaenol yn perthyn i 'arwahanrwydd'. Doedd pethau ddim wedi mynd o le eto ond mewn cyfres o feysydd roedd 'na beryg y gallen nhw.
Yn sgil ail adolygiad, y tro hwn gan Emyr Byron Hughes, cytunwyd y dylai'r gyfundrefn ddod i ben. Fe wnaeth Iona Jones awgrymu bod hynny ar fin digwydd wrth ohebydd cyfryngau'r Guardian ar drothwy ei hymadawiad.
Am ryw reswm doedd cydsyniad Iona Jones i'r newid ddim yn ddigon i rai o aelodau'r awdurdod a mynnwyd ei hymadawiad. Roedd John Walter Jones yn gwrthwynebu'r penderfyniad hwnnw a gwrthododd gyflawni'r weithred ei hun.
Byth ers hynny mae'r berthynas rhwng John Walter a gweddill yr awdurdod wedi bod yn anodd ac mae'n debyg ei fod yn ystyried digwyddiadau wythnos ddiwethaf fel ymdrech i "fownsio'r" Cadeirydd yn yr un modd a ddigwyddodd i'r Prif Weithredwr.
Dyna yw'r stori fewnol yn S4C cyn belled ac rwyf yn ei deall. Mae stori wahanol gyfochrog wedi bod yn digwydd yn San Steffan a'r Bae.
Wrth benderfynu p'un ai i glymu ei hun i'r mast ai peidio fe dybiwn i mai'r cwestiwn yma oedd ym mlaen meddwl John Walter.
"Ydy ymddygiad mwyafrif yr awdurdod yn achos Iona Jones ac ers hynny wedi gwanhau neu gryfhau S4C yn y trafodaethau gyda'r DCMS a'r ´óÏó´«Ã½?"
Os oedd John o'r farn bod y mwyafrif wedi ymddwyn yn fyrbwyll ac yn ddifeddwl ac wedi gwanhau llaw S4C mae'n bosib deall pan nad oedd yn fodlontdyfodol y sianel i'w dwylo.
SylwadauAnfon sylw
Diolch Vaughan. Help garw. Ond sut mae cysoni hyn oll hefo'r hanesion sydd hefyd yn frith ynglyn a natur rhai o'r sgyrsiau poeth a lliwgar a gafwyd (medde nhw) rhwng 'John', ar y naill law, a pobl hyn yn y DCMS ar y llaw arall?? Os yw'r rheini'n hanesion cywir, yna mae'r ffaith fod gan 'John' fwy o hygrededd na'r Awdurdod yn llygaid ASau Ceidwadol yn wirioneddol ryfeddol...
Ond beth yw'r stori fewnol yn y ´óÏó´«Ã½? Dyna dwi'n ysu cael clywed. Beth ddigwyddodd yn y cyfarfod rhwng Mark Thompson, Syr Michael Lyons a Jeremy Hunt yn Llundain?
Pam nad yw Syr Michael Lyons yn barod i gael ei gyfweld ynglyn a'r cyfarfod yma? Beth oedd natur y trafodaethau rhwng y ´óÏó´«Ã½ yn Llundain a'r ´óÏó´«Ã½ yng Nghaerdydd cyn, yn ystod ac ar ol y cyfarfod?
I ba raddau mae anghytundeb oddi mewn i rengoedd y ´óÏó´«Ã½ yng Nghymru ynglyn a'r hyn sydd wedi digwydd?
Diolch am drio clirio bob dim fyny, a dwin deall eich bod chi yn gallu bod mewn sefyllfa anodd hefo be y gall, a be gallwch chi ddim ddweud. Tybed ydwi Vaughan, os ydych chin gwybod sut mae staff Parc Ty Glas yn teimlo- ydy nhw ar ochr JWJ yntau yr Awdurdod, yntau ddim un o nhw!?.
Rhag ofn eich bod chin meddwl fod in rhy neis:
Mae'n gyr pen dilyn chwi hefyd Vaughan, pam?
Wel ar Twitter fe wnaethoch chi ddweud "Noisy #FMQs Nick Bourne doubles down on health." [felly es i i edrych arno....]
Ond ar AMPM fe wnaethoch chi ddweud "quite First Ministers Questions"!
Ydy chi wedi cael rywfaint o dips oddi ar JWJ ar sut i wneud datganiad *clir* allan?!?!
Ti wedi dal fi allan yn f'ana Dewi. Mi oedd hi'n dawel - ac eithrio sesiwn Nick Bourne - ond mea culpa. O safbwynt staff S4C (sydd gan fwyaf yn bobol clen ar gyflogau digon cyffredin - mae'n werth cofio hynny) rwy'n deall bod 'na aniddigrwydd ynghylch honniad Rheon Thomas bod y staff i gyd yn cefnogi cynlluniau'r awdurdod.
Simon mae'r cwestiynnau yna'n ddilys a diddorol ond mae'n ymddangos i mi bod y ´óÏó´«Ã½ yn well ar gadw cyfrinachau nac S4C! Mae'n bosib y cawn ni wybod mwy o wrandawiadau'r Pwyllor Dethol.
Tybed a fyddai o gymorth i'r werin datws gael gwybod pwy yw aelodau'r awdurdod. Fe lwyddais i gael y wybodaeth wedi tipyn o gwglio. Ar hyn o bryd mae gennym JWJ v yr Awdurdod. Dwi yn siwr nad oes gan y cyhoedd fawr o syniad pwy yw'r cyfrwy aelodau ac y byddai o gymorth i bobl.
Vaughan.
Diolh am y blog yma mae’n crynhoi y ffeithiau sydd yn wybodus i ni i yn dda iawn. Serch hynny nid dyma’r stori – yn sicr nid yn ei chyfanrwydd.
Byddwn yn awgrymu taw’r gwir ddrwg yn caws oedd nid y construct amwys yma o’r enw ‘arwahanrwydd’ ond y modd yr oedd y Cadeiryd a’r Prif Weithredwr yn ei ddefnyddio er mwyn osgoi eu cyfrifoldebau. Yn achos y Prif Weithredwr i osgoi atebolrwydd i’r Awdurdod ac yn achos y Cadeirydd i osgoi dal y Prif Weithredwr yn atebol.
Cefais i a sawl un arall brofiadau chwerw iawn wrth geisio profi hyd a lled yr ‘arwahanrwydd’ yma nad oedd yna sail statudol iddo. Rwyt wrth gwrs yn gywir i ddweud ei fod wedi ei fodelu ar berthynas y ´óÏó´«Ã½ Trust a rheolwyr y ´óÏó´«Ã½ – ond gyda un gwahaniaeth allwedol. Petai gan unigolyn neu gwmni gwyn yn erbyn rheolaeth y ´óÏó´«Ã½ – yn rbennig felly mewn maes yn ymwneud a methiant i gadw at bolisiau’r ´óÏó´«Ã½ gellid mynd a’r gwyn at y ´óÏó´«Ã½ Trust a fyddai wedyn yn dyfarnnu ac yn rhoi cyfarwyddyd pendant i’r rheolwyr y byddai wedyn rhaid iddynt ei ddilyn.
Wrth gwrs mewn theori dyma’r sefyllfa gyda ‘arwhanrwydd’ o fewn S4C hefyd – ond nid fel hyny bu. Petai gan gwmni, neu unigolyn, neu unrhywun oedd yn delio a swyddogion S4C gwyn y drefn naturiol yma oedd ei gyfeirio at yr Awdurdod drwy unai Ysgrifennydd yr Awdurdod neu y Cadeirydd. Mae sawl engrhaifft ble y gwnaeth unigolion / cwmniau hyn drwy John Walter a gweld y gwyn yn mynd yn syth i’r swyddogion yn hytrach nag i’r Awdurdod – be fyddai yn digwydd wedyn ?
Wedi ei olygu
Dwi hefyd yn rhagweld – os y bydd John Walter yn aros – y bydd rhai o’r unigolion a brofodd hyn yn datgelu eu profiadau i’r wasg dros y dyddiau / wythnosau nesaf. Does gan John Walter ddim hyder NEB ac os bydd yn aros dwi’n ofni y bydd yn difrodi y sianel yn waeth.
Sydd yn dod a ni at y cwestiwn o pam fod aelodau seneddol Ceidwadol Cymru wedi datgan o blaid JWJ ? Wel yn syml iawn ymddengys fod ymgyrch lobio ffyrnig yn mynd rhagddi – gan bwy ?
Wedi ei olygu
Dau gwestiwn i orffen.
1. Wythnos diwethaf pan oedd JWJ allan o gysylltiad dwed iddo dreulio diwrnod gyda rhai o ffigyrau hyn y byd darlledu – pwy yn union ?
2. Ydi’r sibrydion yn wir fod cyn-Gyarfwyddwr Comisiynnu S4C wedi comisiynnu gwerth rhai miliynnau o waith gan un cwmni yn yr wythnosau cyn ymadael ? Pa gwmni ? a phwy yn S4C oedd a’r hawl i arwyddo i ffwrdd ar hyn ?
Ewch ati i ddarganfod y stori Vaughan.
Mi wnes i yr un peth a Wynwnsyn er mwyn dod i wybod pwy yw aelodau Awdurdod S4C. Yr hyn sy’n fy synnu yw nad oes neb wedi enwi aelodau’r Awdurdod mewn un erthygl na blogiad dwi wedi’i ddarllen ers i S4C rwyfo i’r dyfroedd dyfnion. Ydi hyn yn adlewyrchiad o safon newyddiaduraeth tybed?
Mi wyt ti’n cyfeirio at fy sylw o’r wythnos diwethaf, ‘Onid yw'n bryd i newyddiadurwyr ddod o hyd i'r stori'n llawn?’. . . ac yn trio gwneud iawn am hynny yn y blogiad hwn. Ond eto mae’r ffeithiau a’r cefnir braidd yn dennau.
Dwi’n dyfynu o dy flogiad ac yn nodi cwestiynau amlwg sy’n codi, ond heb eu hateb, os ydym i ddeall y sefyllfa’n llawn. Fy sylwadau i sydd mewn cromfachau.
“Dros gyfnod o amser (pryd?) fe ddechreuodd rhai aelodau o'r awdurdod (pa rai?) deimlo fod y rheolwyr yn defnyddio'r gyfundrefn i gau allan yr awdurdod a mynd tu ôl i gefnau'r aelodau. (oes ‘na enghreifftiau?)
Comisiynwyd adolygiad gan gwmni Price Waterhouse Coopers (pwy gomisiynodd yr adroddiad a phryd?) a oedd yn nodi bod 'na wendidau sylfaenol yn perthyn i 'arwahanrwydd'. (beth yn union oedd y gwendidau hynny?)
Yn sgil ail adolygiad, (eto pwy gomisiynnodd yr ail adroddiad a phryd) y tro hwn gan Emyr Byron Hughes, (pwy yw e’ a beth yw ei gymwyster i adolygu a beth ddwedodd e yn ei adroddiad?) cytunwyd y dylai'r gyfundrefn ddod i ben.
Efallai mai nid blog (y ´óÏó´«Ã½) yw’r lle i ddweud y stori i gyd . . . beth amdani Golwg 360