´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Bang Bang Bangor

Vaughan Roderick | 09:43, Dydd Gwener, 28 Ionawr 2011

Mae gen i stori i ddweud wrthoch chi - un sy'n ymwneud a Rheon Thomas, Leighton Andrews a finnau. Nid stori ynghylch Cadeirydd Gweithredol S4C, y Gweinidog Addysg a Golygydd Materion Cymreig y ´óÏó´«Ã½ yw hon on un ynghylch tri myfyriwr ifanc yng ngholeg Bangor nol y saithdegau.

Doedd gan benaethiaid y Coleg fawr o amser nac amynedd i'r Gymraeg ar y pryd ac o ganlyniad penderfynodd Cymdeithas yr Iaith gychwyn ymgyrch yn eu herbyn. Doedd e'n fawr o beth, mewn gwirionedd. Paentiwyd ambell i slogan ar furiau'r hen goleg a chynhyrchwyd ambell i daflen a phoster.

Fe ddangosodd y penaethiaid ddyfnder eu cydymdeimlad a'r Gymraeg a'u deallusrwydd o fywyd Cymraeg y Coleg trwy ddiarddel pedwar myfyriwr. Roedd Rheon yn un ohonyn nhw.

Nid bod Rheon yn rhyw benboethyn eithafol. Gan ddangos dyfnder eu gwybodaeth roedd y coleg wedi anwybyddu swyddogion Cymdeithas yr Iaith gan ddiarddel yn eu lle swyddogion Cymdeithas y Cymric - cymdeithas oedd yn fwy enwog am drefnu disgos a helfeydd trysor nac am brotestiadau.

Os oedd y Cymric yn anwleidyddol cyn hynny fe newidiodd pethau'n ddigon sydyn ac fe feddiannodd y Gymdeithas adeiladau'r hen goleg. Mewn protest gyfochrog meddiannodd Leighton a chriw o fyfyrwyr Di-Gymraeg a thramor y twr màths. Fi oedd y swyddog cyswllt rhwng y ddwy brotest. Os mynnwch chi fy nyletswydd i oedd 'pontio' rhwng y ddwy garfan.

Mae hynny'n dod a ni'n ddigon taclus at '' - y cynllun gwerth £37miliwn i godi canolfan gelfyddydau newydd fydd yn cymryd lle Theatr Gwynedd ac Undeb y Myfyrwyr.

Wrth i Carwyn Jones gychwyn y gwaith ar y prosiect y wythnos hon roedd criw o aelodau Cymdeithas yr Iaith wrth law iyn erbyn agwedd y ganolfan a'r coleg tuag at y Gymraeg. Dyw rhai pethau ddim yn newid!

Penodi ymgeiswyr Di-Gymraeg i fod yn bennaeth ac yn swyddog cymunedol 'Pontio' oedd wedi ysbarduno'r brotest ond mae'r peth yn mynd yn ddyfnach na hynny. Mae 'na deimladau cryf ymhlith rhai o staff a myfyrwyr Cymraeg y Coleg bod y sefydliad wedi dad-Gymreigio'n ddifrifol yn ystod y blynyddoedd diwethaf gyda thîm rheoli sydd bron yn gyfan gwbwl Di-Gymraeg a phenodiadau pwysig wedi ei wneud ar sail argymhellion cwmnïau recriwtio o Loegr.

Mae'n ymddangos bod y Prifathro newydd, John Hughes, sy'n Wyddel, yn ymwybodol o'r teimladau hyn ac fe benodwyd y cerddor Wyn Thomas yn is-brifathro (gofal y Gymraeg). Yn ôl ffynonellau o fewn y Coleg mae ganddo dipyn o dasg o'i flaen.

Cwestiwn sy'n ofyn gan rai yw hwn. Os ydy'r honiadau ynghylch dad-Gymreigio yn gywir pam na wnaeth y prifathro ar y pryd, Merfyn Jones, rywbeth ynghylch y peth?

Yn eironig ddigon mae Merfyn newydd ei benodi'n bennaeth ar y Coleg Cymraeg Cenedlaethol... gan Leighton!

Diawl, mae Cymru'n wlad fach!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:22 ar 28 Ionawr 2011, ysgrifennodd Dewi:

    Sori- raid i fi ddeud, ond dyma stori o "crachach" gymreig (a fina'n meddwl eich bod chi'n annibynnol!!).

    Allan o ddiddordeb, lle mae'r/oedd y Maths Tower ym Mangor (diom yn bwnc dim mwy, er ei fod yn ysgol go dda). Ydio dal yn y ddinas ta wedi gael ei dynnu lawr?.

    Beth oedd Leighton yn protestio yn ei erbyn?
    Dwi hefyd wedi clwad ryw stori am chi a fo or blaen?- natho chi ddim trio i fod yn Arlywydd yr Undeb? neu rhywbeth tebyg?
    Hefyd, a oes reswm pam roedd Bangor yn fwy "Seisnig" ar y pryd i gymharu a Aber? a pam bod Aber dal i chwyfio banner o gael fwy o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg na Bangor- er bod Bangor hefo ffigwr go uchel o bobol "lleol" sydd yn mynychu yno?

    Rheswm hanesyddol, traddodiadol, yntau oherwydd yr arweinyddiaeth sydd wedi digwydd ym Mangor?

  • 2. Am 17:35 ar 28 Ionawr 2011, ysgrifennodd Richard:

    Mae Homer yn hepian fan hyn, rwy'n credu. Y Cymric a wnaeth drefnu'r brotest, nid Cymdeithas yr Iaith. Glyn Tomos oedd y Cadeirydd, ac fe'i diarddelwyd o a thri swyddog arall o'r Cymric, gan gynnwys Rheon Thomas, o'r Coleg am gyfnod. Fyddwn i ddim yn cytuno chwaith nad oedd yr ymgyrch yn 'fawr o beth'. Meddiannwyd y Swyddfa Academaidd am ddiwrnod ac fe beintiwyd sloganau anferth ar y Coleg y tu mewn a'r tu allan. Dyna achosoddd y diarddel (fe ellid yn wastad ddibynnu ar Charles Evans i orymateb) a hynny yn ei dro yn arwain at
    wythnosau o feddiannu a chythrwfl yn ystod Tachwedd-Rhagfyr 1976. Diolch, Vaughan, am ddwyn hyn i gof.

    Llongyfarchiadau mawr hefyd i Gymdeithas yr Iaith am drefnu protest effeithiol yr wythnos ddiwethaf yn erbyn yr oruchwyliaeth bresennol ym Mangor sydd mor drahaus o ddi-hid o Gymreictod.

  • 3. Am 18:01 ar 28 Ionawr 2011, ysgrifennodd Simon Brooks:

    Maddeua imi os ydi fy ngafael ar wleidyddiaeth iaith yr 70au yn diffygio, ond on'd oeddet ti ynghlwm wrth rai o brotestiadau S4C hefyd?

  • 4. Am 16:52 ar 29 Ionawr 2011, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Simon, nac oeddwn.

  • 5. Am 23:59 ar 29 Ionawr 2011, ysgrifennodd Josgin:

    Fe arweiniodd y helynt at sefydlu undeb arwahan i'r undeb swyddogol (NUS) ,
    sef UMCB . Bu'r undeb yma yn ddraenen cyson yn ystlys Syr Charles a'i gynffonwyr am 10 mlynedd , tan i gynffonwyr iau ei danseilio o oddi fewn .
    Mae'r 'Twr maths' yno o hyd - ond dim ond y tri llawr uchaf oedd yn fathemateg ( Gwnaeth fy mrawd ei radd yno) . Labordai oedd y gweddill. Nid wyf yn sicr beth yw ei ddefnydd, ond mae'n sefyll rhwng 'Morrisons' a Ffordd Deiniol, yr adeilad uchaf yn Gwynedd , o bosibl ?
    Ydw i'n iawn i ddweud fod perthynas agos i Leighton Andrews yn un o'r rhai oedd yn erbyn sefydlu UMCB ?

  • 6. Am 21:07 ar 30 Ionawr 2011, ysgrifennodd Gwion Owain:

    Mae na elfen i'r bogbost yma sydd yn atgoffa dyn o raglenni dogfen Adam Curtis!!!

  • 7. Am 23:02 ar 31 Ionawr 2011, ysgrifennodd Siôn Aled:

    A mi gaethon ni lwyth o fyfyrwyr o Aber (gan gynnwys nifer helaeth o rai di-Gymraeg) i fyny ar gyfer gorymdaith drwy Fangor, On'd oedden nhw'n ddyddiau da ...

  • 8. Am 08:44 ar 1 Chwefror 2011, ysgrifennodd Geraint:

    Dwi'm yn cofio gweld ti'n slochian yn y Globe, Vaughan?

  • 9. Am 22:16 ar 1 Chwefror 2011, ysgrifennodd Josgin:

    I ateb y cwestiwn a ofynnwch - y rheswm na wnaeth Merfyn Jones unrhywbeth yw ei fod yntau yr un mor ddifater am y Gymraeg ac unrhyw gwmni recriwtio o Loegr. Etifedd teilwng tu hwnt i Syr Charles. Mae ganddo wyneb eithriadol yn cymeryd gofal am y Coleg Federal Cymraeg .

  • 10. Am 13:41 ar 2 Chwefror 2011, ysgrifennodd D. Enw:

    # 3. Am 18:01 ar 28 Ionawr 2011, ysgrifennodd Simon Brooks:

    Maddeua imi os ydi fy ngafael ar wleidyddiaeth iaith yr 70au yn diffygio, ond on'd oeddet ti ynghlwm wrth rai o brotestiadau S4C hefyd?

    Cwyno am y sylw hwn
    # 4. Am 16:52 ar 29 Ionawr 2011, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Simon, nac oeddwn.


    ... pam Vaughan?! Wedi fy siomi.

  • 11. Am 15:29 ar 2 Chwefror 2011, ysgrifennodd Menna:

    Fel myfyriwr ym Mangor ar hyn o bryd, mae'n gywilyddus i weld sut mae'r Brifysgol yn trin y Gymraeg. Caiff y Cynllun Iaith ei dorri ar bob lefel, does dim gwasanaeth Cymraeg sylfaenol i gael yn y banc rhyngwladol - sydd yn y llyfrgell!! Problem fawr yw'r penodiadau. Mae'n well gan y Brifysgol benodi rhyw enw 'mawr' sy'n ceisio dringo'r ysgol o fewn gweinyddiaeth prifysgolion, ac yn symud o brifysgol i brifysgol, ac sydd eisiau rhoi pwyslais ar fod yn 'rhyngwladol' beth bynnag mae hynny'n ei olygu. Mae nifer o fyfyrwyr wedi cael trafferthion o ran y Gymraeg mewn adrannau lle bu nifer fawr o staff yn addysgu'n Gymraeg, ond nid oes staff iaith Gymraeg wedi cymryd eu lle.

    Gellir ond disgrifio agwedd Fergus Lowe sy'n arwain Pontio fel agwedd 'colonial' ar y gorau! Mae'r rhan fwyaf sydd wedi eu hapwyntio gan Pontio yn methu siarad Cymraeg, mae'r swyddog cyswllt sydd wedi ei bwyntio i 'bontio' a'r gymuned ddim yn siarad Cymraeg hyd yn oed a dim ond yn byw yn yr ardal ers dechrau'n y Brifysgol. Edrychwch ar y wefan hon i gael gweld y meddylfryd:
    Mae'r swydd sy'n cael ei hysbysebu yma wedi ei apwyntio fisoedd yn ôl, a na, nid i rywun â sgiliau Cymraeg!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.