´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dau Fwystfil

Vaughan Roderick | 10:53, Dydd Mawrth, 15 Chwefror 2011

Rwy'n gobeithio y bydd Dafydd Elis Thomas a Ron Davies yn maddau i mi am eu galw'n fwystfilod ond dyma, am wn i, yw'r cyfieithiad gorau o'r term 'big beast' - y cymeriadau hynny sydd yn gallu bod yn fendith neu'n bla i'w pleidiau.

Does wybod pa blaid neu bleidiau fydd yn ffurfio'r Llywodraeth nesaf ac yn achos Ron wrth gwrs does dim sicrwydd y bydd e'n Aelod Cynulliad ond fe fyddai presenoldeb y ddau yn cynnig cyfleoedd a chreu problemau posib i Blaid Cymru - yn enwedig os oedd hi mewn llywodraeth.

Yn achos Dafydd El mae'n bosib y byddai'r Llywodraeth nesaf yn dymuno ei weld yn parhau fel Llywydd - am gyfnod o leiaf. Fe fyddai na ddadl gref dros hynny os oes 'na bleidlais 'ie' ar Fawrth 3ydd. Ar y llaw arall mae sawl Aelod Cynulliad yn credu nad yw'n beth iach i un person ddal y swydd cyhyd.

Nid beirniadaeth bersonol yw hynnya does na ddim awgrym o gwbwl bod Dafydd ei hun wedi diflasu a'r swydd. Mae'n rhai mynd yn ôl i ddyddiau'r ail ryfel byd i ganfod Llefarydd yn Nhŷ'r Cyffredin yn gwasanaethu am gyfnod mor hir ac mae Dafydd eisoes wedi gwneud ac Alex Ferguson yw trydydd Llywydd Senedd yr Alban.

Ar ben hynny oll mae 'na sibrydion bod Dafydd a'i fryd ar fod yn weinidog. A fyddai ei blaid yn beiddio peidio ildio i'r deheuad hwnnw - yn enwedig o gofio'r drafferth y gallai fe achosi ar y meinciau cefn?

Dyna'n union wnaeth Ron Davies yn ystod y Cynulliad cyntaf. Roedd gwylio Ron yn croesholi (neu groeshoelio) Rhodri Morgan yn y Pwyllgor Datblygu Economaidd yn adloniant penigamp neu'n artaith llwyr gan ddibynnu ar eich chwant.

Roedd Ron wedi cwympo mas a'i blaid ar y pryd, wrth gwrs. Dyw hynny ddim yn wir y tro hwn. Dim eto, o leiaf.

Ar y llaw arall fe fyddai 'pensaer datganoli' yn disgwyl rhywbeth. Go brin y byddai Llafur yn orawyddus i'w weld yn y cabinet a dweud y lleiaf.

A fyddent yn fodlon ei oddef fel Llywydd? Dim ond gofyn.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 20:12 ar 15 Chwefror 2011, ysgrifennodd Dewi:

    Fe wnes i sylwi llun ar blog Betsan o llwyfan Comisiwn Etholidadol o fewn y Senedd.

    Felly ai fama fydd y canlyniadau yn cael ei darllen o ar Mawrth 4ydd?
    Ac ni fydd yna 'National Counting Centre' fel oedd yna yn 1998?.

    Hefyd sut fydden ni fel pobol Cymru yn cael gwel y canlyniadau? oherwydd bod on cael ei cyfri yn y dydd, a fydd y ´óÏó´«Ã½ yn newid amserlen bore nhw i ddangos y canlyniadau (fel fysa na 'Election Special')?
    Ac hefyd beth yw'r sefyllfa hefo ITV? alla i ddim gweld nhw yn canslo This Morning, am wynebau poenus gwleidyddol?!

  • 2. Am 13:19 ar 16 Chwefror 2011, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Ie, y Senedd yw'r ganolfan gyfri. Fe fydd 'na raglenni byw ar S4C, ´óÏó´«Ã½1, Radio Cymru a Radio Wales i gyd o'r Bae.

  • 3. Am 09:29 ar 17 Chwefror 2011, ysgrifennodd Tredwyn:

    Yn Saesneg nid yw 'beast' a 'big beast' yr un peth o gwbwl. Mae beast yn sarhad ond 'big beast' yn ganmoliaeth. Felly yn Gymraeg efallai bod bwystfilod mawrion yn addas.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.