Ac wedi elwch
Oce mae'n hanner tymor yn y Cynulliad ond mae 'na refferendwm wythnos nesaf ac etholiad ar y gorwel. Pam felly y mae pethau mor rhyfeddol o dawel o safbwynt gweithgaredd a straeon - cymaint felly nes i un arweinydd plaid ddiflannu o'r wlad am hoe fach?
Efallai mai diffyg ymgyrchoedd swyddogol sy'n gyfrifol am y diffyg cyffro ynghylch y refferendwm. Mae'r ´óÏó´«Ã½ wedi darlledu digonedd o eitemau yn ei gylch ond eitemau esboniadol a chefndir yw'r rhan fwyaf o'r rheiny. Ychydig iawn sydd wedi digwydd oedd yn haeddu sylw fel eitem newyddion.
Yr ail ffactor, dybiwn i yw bod y rhan fwyaf o bobol ym mybl Bae Caerdydd yn credu y bydd yr ochor 'Ie' yn sicrhau buddugoliaeth gymharol hawdd wythnos nesaf. Roedd hyd yn oed Syr Eric Howells a Bill Hughes yn darogan hynny ar "Pawb a'i Farn" neithiwr.
Mae dadl y rheiny sy'n credu hynny'n weddol syml. O gymryd mai oddeutu hanner miliwn o bobol fydd yn bwrw eu pleidlais, rhyw 250,000 o bleidleisiau sydd angen ar yr ochor 'Ie' i gario'r dydd. O gofio bod Plaid Cymru wedi ennill 219,000 o bleidleisiau yn etholiad 2007 ac mae ei chefnogwyr hi yw'r mwyaf tebygol i droi allan mae'n anodd gweld unrhyw ffordd na fydd y trothwy yn cael ei gyrraedd.
Does 'na ddim arwydd chwaith bod unrhyw beth wedi digwydd yn ystod yr ymgyrch i newid y patrwm cyson sydd wedi bod yn amlwg ym mhob un arolwg barn ers tro byd.Yn y saith arolwg i'w cynnal ers Medi llynedd (a rheiny gan dri gwahanol gwmni) mae mwyafrif yr 'Ie' wedi amrywio rhwng 19% a 33%. Mae hynny'n gythraul o fynydd ac ychydig iawn o amser sydd ar ôl i'r ymgyrch 'Na' ei ddringo.
Ydy'r gêm ar ben felly? Fe gawn ni wybod hyd sicrwydd wythnos nesaf ond efallai nad yw'n syndod bod llygaid y pleidiau'n troi at etholiad Mis Mai.
SylwadauAnfon sylw
Syniad gwael iawn ar y naw ydi ymlacio a llaesu dwylo wythnos cyn y 'dydd mawr' yn fy marn bach I. Synnwn I ddim petai TrueWales yn barod i neidio i'r bwlch a honni bod yr ymgyrch 'Ia' wedi rhoi'r ffidil yn y to am eu bod wedi methu a darbwyllo'r boblogaeth i gefnogi'r bleidlais! Be sy' ganddynt i golli?!
Mi fydd na ddipyn mwy na elwch yn mynd ymlaen petai'r ymgyrch yn cael ei cholli oherwydd diffyg ymroddiad yn y dyddiau olau dybiwn I!
Mae Prof John Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor wedi bod ar daith gwerthu arfau i'r dwyrian Canol gyda David Cameron.
Mae amseri'r taith yn embares mawr gyda newyddion dyddiol o bobl y dwyrian canol yn cael eu saethu gan eu llywodraethau gormesol. Mae Prydain wedi gerthu arfau control dorf i Libya a Barhrain.
Mae Prifysgol Bangor yn awyddus i gael cysylltiadau busnes ac ymchwil ar gyfer eu canolfan 'Arloesi" Pontio a fydd hefyd yn ganolfan ceflyddydau sydd yn costi £28 miliwn o arian cyheoddus.
- - - - - -
Arms dealers on tour with David Cameron
Tory prime minister David Cameron is touring the Middle East with a group of companies, including arms dealers. It is notable that as well as arms manufacturers he is accompanied by representatives of Cambridge, UCL, Imperial College and Bangor universities.
More than 80 British firms are represented at the ongoing International Defence Exhibition and Conference (IDEX) in Abu Dhabi, including BAE, Thales UK and Motorola UK. The firms are offering everything from weapons and communications equipment to parachutes and uniforms.
Below we print the list of companies, including arms manufacturers, construction companies and others that have accompanied Cameron on his tour of the Middle East.
Samir Brikho, CEO, AMEC
Steve Marshall, Chairman, Balfour Beatty
Graham Cartledge, Chairman, Benoy
Mouzan Majidi, CEO, Foster & Partners
Ben Gordon, CEO, Mothercare
Keith Howells, Chairman, Mott MacDonald
Chris Hyman, CEO, Serco
John Stanion, Chairman & CEO, Taylor Woodrow
Professor Malcolm Grant, President/Provost, UCL
Paul Skinner, CEO, Infrastructure UK
Bob Fryar, Executive Vice President for Production, BP
Ian Gray, Non-Exec Chairman of Vodafone Egypt
Philip Dilley, Chairman, Arup
Stuart Laing, Deputy Vice Chancellor, Cambridge University
Peter Gammie, CEO, Halcrow
Lord Darzi, Imperial College
Malcolm Brinded, Exec VP, Shell
John Peace, Chairman, Standard Chartered
Ian Conn, MD & CE, BP
Richard Barrett, Regional Director, Atkins
Rob Watson, Regional Director, Rolls Royce
Victor Chavez, Thales UK
Ian King, CEO, BAe Systems
Prof John Hughes, Vice Chancellor, Bangor University
Dean Webster, EO, Cyril Sweett
Michiel Soeting, Global Head of ENR/Oil & Gas, KPMG
Rob King, Development Director ME, the Edge
Shaun Carter, Regional Director, Carillion
Sam Laidlaw, CEO, Centrica
Charles Hughes, VP Marketing, Cobham Group
Dr Rajan Jethwa, CEO, Virgin Healthbank
Sir Frank Williams, Team Principal, Williams F1
Alastair Bisset, Group International Director, QinetlQ
Andy Pearson, MD, Babcock International Group
Elizabeth Reid, CEO, SSA Trust
Douglas Caster, CEO, Ultra Electronics