O Arglwydd
Rwy'n person ddigon trist weithiau! Rhwng darlledu ar Wales Today a Newyddion neithiwr bues i'n gwylio recordiad o ddadl yr arglwyddi ynghylch y cymalau hynny o'r Mesur Cyrff Cyhoeddus sy'n ymwneud ac S4C.
Mae'r ddadl yn werth ei gwylio yn ei chyfanrwydd ond fe gododd un pwynt hynod ddiddorol. Cyhoeddodd y Farwnes Rawlings ar ran y Llywodraeth y byddai'r Adran Ddiwylliant yn ymgynghori a Llywodraeth y Cynulliad ynghylch ariannu S4C gan wneud hynny ar sail cymal 10 (1) (e) o'r mesur.
Mae'n amlwg nad yw Dafydd Wigley wedi colli dim o'i sgiliau seneddol gan synhwyro arwyddocâd y cymal hwnnw yn syth. Dyma mae'r cymal yn dweud.
"...the Welsh Ministers, if the proposal relates to any matter, so far as applying in or as regards Wales, in relation to which the Welsh Ministers exercise functions".
Nawr mae'r mesur yn effeithio ar hen ddigon o gyrff cyhoeddus sy'n rhan o faes llafur Gweinidogion y Bae ond S4C ddim yn un o'r rheiny. Dyw darlledu ddim wedi datganoli. I'r Adran Ddiwylliant yn Whitehall ac i'r Adran yna'n unig y mae S4C yn atebol.
Oedd y Farwnes wedi gwneud camgymeriad felly? Dyna oedd cwestiwn Dafydd Wigley. Ni chafwyd ateb.
Mae 'na ddau esboniad posib. Mae'n bosib y Farwnes wedi drysu ond mae hi'r un mor bosib bod ei sylwadau yn awgrymu bod Llywodraeth y DU yn ystyried trosglwyddo S4C i wyliadwraeth Gymreig.
Os felly mae 'na gwestiwn arall yn codi. Sut ar y ddaear y gallai S4C fod yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac Ymddiriedolaeth (Prydain gyfan) y ´óÏó´«Ã½ ar yr un pryd?
Gellir gwylio'r ddadl yn .
SylwadauAnfon sylw
Mae'r arglwyddes yn gywir.
Mae'r Bil yn delio a materion datganoledig mewn dwy ffordd.
Yn gyntaf, dan adran 9, os yw'r Gweinidog yn Llundain am weithredu ei bwerau er mwyn gwneud rhywbeth fyddai o fewn gallu'r cynulliad i ddeddfu, yna rhaid cael caniatad Gweinidogion Cymru. Gan fod darlledu wedi ei eithrio o'r gallu deddfu, fydd y cymal wn ddim yn berthnasol i S4C.
Ond dywed y Bil hefyd, dan adran 10, fel y nodaist Vaughan, ei bod yn ofynnol i'r Gweinidog yn Llundain i ymgynghori gyda Gweinidogion Cymru
"if the proposal relates to any matter, so far as
applying in or as regards Wales, in relation to which the Welsh
Ministers exercise functions (and where the consent of the National
Assembly for Wales is not required under section 9)"
Nawr, mae S4C yn rhywbeth sydd yn "relating to" hyrwyddo a diogelu'r iaith Gymraeg, diwylliant yng Nghymru, addysg yng Nghymru ayyb. mae Gweinidogion Cymru yn cyflawni swyddogaethau mewn perthyas a'r materion hyn, felly rhaid i Mr. Hunt ymgynghori a nhw.
'Off-topic' braidd, ond rwy'n sylwi fod Emyr yn cyfeirio at y Bil tra bo Vaughan yn son am y Mesur.
Nawr, Mesur Seneddol oedd Parliamentary Bill ers talwn, cyn i'r fath beth a Mesur Cynulliad ddod i fodolaeth. Ers hynny, rwy'n sylwi fod mwy a mwy yn cyfeirio at Filiau Seneddol, er mwyn osgoi dryswch debyg.
Ar ol 5 Mai, bydd yna Assembly Bills hefyd. Ai Mesurau ynteu Biliau Cynulliad fydd y term Cymraeg am y rhain te? Byddai'n bechod petai'r 4 mlynedd cwta o Rhan 4 DLlC '06 a'i Fesurau yn golygu fod rhaid mabwysiadu cyfieithiad mor hyll a 'Bil' hyd ebergofiant!
Idris, rwyt ti'n darllen fy meddwl!
Efallai y byddai Wil yn fwy naturiol Gymreig.