´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Croesi llinell

Vaughan Roderick | 10:32, Dydd Llun, 18 Ebrill 2011

darren millar

"Does dim byd llawer yn digwydd, mewn gwirionedd". Nid fy ngeiriau i ond geiriau cyd-ohebydd wrth bwyso a mesur yr ymgyrch hyd yma.

Mae 'na hen ddigon o bethau yn digwydd wrth gwrs - cyhoeddi maniffestos, cynadleddau newyddion, cyfleoedd ffilmio ac ymgyrchu ar lawr gwlad. Yr hyn sy ddim wedi digwydd yw unrhyw beth a allai gael effaith sylfaenol ar ganlyniad ar yr etholiad

Efallai mai dyna yw'r rheswm bod y pleidiau mewn ambell i fan wedi dechrau defnyddio tactegau braidd yn amrwd. Mae'n fater o farn bersonol p'un ai ydy'r rhain yn enghreifftiau o ymgyrchu clyfar neu o fryntni.

Daw'r "photoshop" o ben Darren Millar ar gorff babi o daflen o'r enw "billion dollar baby" a gynhyrchwyd gan Lafur. Mae'r daflen yn cyhuddo'r Ceidwadwr o wneud gwerth biliwn o doleri o addewidion mewn datganiadau newyddion lleol heb roi unrhyw awgrym o ble y byddai'r yr arian yn dod.

Beth bynnag yw'r gwirionedd am hynny mae'r ddelwedd yn blentynnaidd braidd ym mhob ystyr o'r gair ond mae hi hefyd yn drawiadol. Diddorol yw nodi bod y "daflen" wedi ei chynhyrchu gan bencadlys Llafur Cymru yng Nghaerdydd yn hytrach na'r blaid leol. Ai ar gyfer y wasg yn bennaf yn hytrach na'r etholwyr y cynhyrchwyd hi?

Mae'n ymddangos felly i mi. Fe lyncodd y Western Mail yr abwyd.

Mae'r daflen ar y chwith yn cael ei dosbarthu yn y byd real yng Nghanol Caerdydd - ond gan bwy? Mae'n ymddangos fel taflen Lafur ar yr olwg gyntaf ond a fyddai Llafur yn cynnwys paragraff fel hwn mewn taflen?

"Local residents have been left shocked after it was revealed that Labour's election candidate has a home in a London suburb."

Oes angen dweud pwy sy'n gyfrifol am hon? Fe'i cyhoeddwyd gan "Dominic Hannigan ar ran Nigel Howells". Yn ogystal â bod yn asiant etholiad roedd Dominic yn aelod o staff llawn amser y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad diwethaf.

Dyw'r daflen ddim yn torri unrhyw reol ond mae'n esbonio unwaith yn rhagor pam y mae dirmyg tuag at dactegau etholiadol y Democratiaid Rhyddfrydol yn un peth sy'n uno aelodau'r pleidiau eraill.


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:51 ar 18 Ebrill 2011, ysgrifennodd Harold Street:

    Mae hyn yn gwbl nodweddiadol o Ryddfrydwyr Canol Caerdydd. Dyw 'dauwynebog' ddim yn gwneud cyfiawnder â nhw, achos mae ganddyn nhw fwy o wynebau na hynny.

    Taflenni sy'n ymosod ar y Torïaid y mae'r Rhyddfrydwyr yn eu dosbarthu yn ardal ddeiliog Pen-y-lan, ond ymosodiadau ar Lafur sy'n cael eu dosbarthu yn strydoedd cul Adamsdown.

    Yr unig beth cyson gewch chi gan y Rhyddfrydwyr yw eu parodrwydd nhw i newid eu cân. Meddyliwch am ffioedd prifysgol, er enghraifft.

    Ych a fi.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.