Mwy o Afu
Fe wnes i ysgrifennu ddoe ynghylch natur anweledig braidd yr ymgyrch etholiadol - y tu allan i Geredigion o leiaf! Serch hynny mae'r ymgyrch etholiadol yn fwrlwm o gyffro o gymharu â'r ymgyrchu ar gyfer pleidlais arall Mai'r 5ed, y refferendwm ynghylch y bleidlais amgen.
Mae 'na ambell i boster o gwmpas - yn swyddfeydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn bennaf ond ar wahân i'r rheiny bach iawn o ymgyrchu sy'n digwydd hyd y gwelaf i.
Dyw hynny ddim yn syndod. Roedd hi'n anorfod y byddai gweithwyr y pleidiau yn blaenoriaethu'r etholiad ond yn ôl un o hen bennau ymgyrch Ie refferendwm Mis Mawrth mae'r ymgyrch Ie wedi ychwanegu at y broblem.
Mae'r ymgyrch Ie swyddogol wedi mabwysiadu polisi o beidio defnyddio gwleidyddion fel llefarwyr. Defnyddio "pobl gyffredin" yw'r polisi er bod defnyddio'r gair "cyffredin" i ddisgrifio Eddie Izzard yn dipyn o strets!
Yr un oedd bwriad ymgyrch Ie mis Mawrth ond, o fewn byr o dro, newidiwyd y polisi ar ôl i'r trefnwyr sylweddoli bod nifer sylweddol o etholwyr yn awchu i gael arweiniad gwleidyddol gan eu pleidiau.
A fydd yr Ymgyrch Ie i Afu yn gorfod gwneud yr un peth? Fe gawn weld ond does dim llawer o amser ar ôl.
Wedi'r cyfan mae'n rhaid i'r ymgyrch Ie ennill y ddadl feddyliol os am ennill y bleidlais. Hau hadau ansicrwydd yw tasg llawer haws yr ymgyrch Na.
SylwadauAnfon sylw
Be ar y ddaear oedd y Referndum Broadcast ar y ´óÏó´«Ã½ heno. O ni'n meddwl fy mod i yn cefnogi AV, on ar ol hwn sgen i'm clem be mae'n ei olygu(!).
O diar O diar O diar…Rwyf newydd weld rhaglen Saesneg am yr etholiad Nos Lun, Betsan Powys o Brifysgol Glyndŵr Wrecsam. Roedd cynrychiolwyr yna ar y panel o’r pedair prif blaid. O diar…roedd safon yr atebion yn isel ofnadwy. I mi roedd yn embaras llwyr. Byddai disgyblion Ysgol llawer gwell na unrhyw un o’r cyfranwyr. Beth sydd yn bod a ni/ Os dyma fydd safon y siarad a’r dadlau yn ein Cynulliad newydd Duw a’n help!. Os bosib nad oes gwell siaradwyr ar gael gan yr holl bleidiau enwedig yn y Saesneg!
Beth yw dy ymateb i'r pôl piniwn gan Brifysgol Aberystwyth, Vaughan, sy'n rhoi'r Blaid yn gyfforddus iawn ar y blaen, a'r LibDemiaid rhyw ychydig bwyntiau yn unig o flaen Llafur yng Ngheredigion?
Mae'r sampl yn fawr ac mae 'trac record' yr adran wleidyddiaeth yn dda. Mae'r holl rhybuddion arferol ynghylch arolygon yn bodoli - ond does na ddim byd yn ymddangos o le ar y fethodoleg.