´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Yr Ail Bleidlais

Vaughan Roderick | 09:14, Dydd Mawrth, 19 Ebrill 2011

Un o'r pethau y bydd Dewi, Dicw a finnau'n gwylio amdano ar noson Fai'r 5ed (a phrynhawn y 6ed os nad yw Mr Mehmet yn newid ei feddwl) yw perfformiad y pleidiau llai. Yn benodol byddwn yn cadw llygad ar berfformiad UKIP yn y Gogledd a rhanbarthau'r De-ddwyrain a'r Gwyrddion yn rhanbarth Canol De Cymru.

Mae'n ddigon posib y bydd o leiaf un o'r ddwy blaid yn ennill cynrychiolaeth yn y Cynulliad y tro hwn - er wrth gwrs y bydd llawer yn dibynnu ar ddidoliad y seddi etholaeth. Mae'r posibilrwydd hwnnw'n codi oherwydd bod y pleidiau llai wedi dechrau deall sut mae chwarae'r gêm o safbwynt yr ail bleidlais - a bod pleidleiswyr yn ei deall yn well hefyd.

Dyna'r rheswm y mae'r ddwy blaid wedi penderfynnu peidio enwebu ymgeiswyr etholaethol gan arddel y sloganau "Ail Bleidlais - Gwyrdd" a "Give UKIP your 2nd Vote".

Nid dyna yw'r unig ffordd o geisio sicrhau mantais o'r system ddwy bleidlais. Mae tactegau'r SNP yn yr Alban yn yr etholiad hwn yn hynod ddiddorol ac os ydy'r arolygon barn yn gywir yn profi'n effeithiol.

Mae'r Blaid yn cynghori'r etholwyr i ddefnyddio'r "bleidlais gyntaf" (sef yr un ranbarthol!) i ddewis rhwng Alex Salmond ac Iain Gray fel Prif Weinidog a'r ail bleidlais i gefnogi eu plaid. " "Scottish National Party (SNP) - Alex Salmond for First Minister" yw disgrifiad y blaid ar y papur pleidleisio.

Clyfar? Cyfrwys? Anonest? Cewch chi farnu.

Nawr yn yr amgylchiadau presennol mae'n annhebyg y byddai tacteg yr SNP yn gweithio i un o'r pleidiau Cymreig ond yn etholiadau'r dyfodol mae'r system yn caniatáu posibiliadau eraill.

Cymerwch un enghraifft. Beth pe bai dwy blaid yn cytuno i glymbleidio cyn i etholiad gael i alw?

Does dim gorfodaeth ar unrhyw blaid i enwebu ymgeisydd ym mhob etholaeth a phob rhanbarth. Fe fydda'i gwbl ddilys i un blaid beidio enwebu ymgeiswyr rhanbarthol ac i'r blaid arall gadw draw o'r rasus etholaethol.

Meddyliwch beth allai ddigwydd pe bai Llafur a'r Gwyrddion, er enghraifft, yn cyrraedd cytundeb felly.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:42 ar 19 Ebrill 2011, ysgrifennodd BoiCymraeg:

    Oes na unrhyw syniad be fydd goblygiadau'r newidiadau yn ffinau etholaethol San Steffan ar etholiadau'r cynulliad? Ar hyn o bryd, mae'r ffinau i fod yr un fath. Pan eiff Cymru o 40 i 30 etholaeth yn San Steffan, be fydd yn digwydd yn y Cynulliad? 30 etholaeth, wedyn 30 aelod rhanbarth wedi'u rhannu i 5 rhanbarth 6 aelod?

    Pe bai'r rhestri rhanbarthol yn fwy, byddai'n haws i bleidiau bach cael eu hethol (ee yn yr Alban, lle mae yna 7 aelod i bob rhestr, enillwyd seddi gan y Gwyrddion, y Sosialwyr, ac hyd yn oed y Senior Citizens!).

    Hefyd, byddai'n haws i blaid sy'n dominyddu ar lefel etholaeth ennill aelodau rhestr, a fyddai'n gwneud tacteg fel da'ch chi'n ei awgrymu yn llai o fantais i'r blaid dominyddol.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.