Rwy'n wrthodedig heno
Mae delio gyda chwynion - swyddogol ac answyddogol yn rhan o'n bara beunyddiol yma yn Uned Wleidyddol y ´óÏó´«Ã½. Mae rhai yn haws delio a nhw nac eraill. Mae'r gwyn ddiweddaraf, un answyddogol diolch byth, yn un y byddai angen cyfreithiwr neu ddiwinydd i'w hateb.
Os ydych chi'n edrych ar y tudalennau newyddion fe wnewch chi weld ein bod yn cyfeirio at Aled Roberts a John Dixon fel 'Aelodau Cynulliad sydd wedi eu diarddel'. Yn ôl yr achwynwr, rhyw un reit uchel yn y Cynulliad, mae hynny'n anghywir. Dyw'r ddau ddim yn Aelodau Cynulliad a dydyn nhw erioed wedi bod yn Aelodau Cynulliad - hynny er eu bod wedi cymryd y llw, wedi derbyn cardiau adnabod ac er bod swyddfeydd wedi clustnodi ar eu cyfer.
Efallai bod hynny'n gyfreithiol neu'n ddiwinyddol gywir. Rwy'n gobeithio y gwnewch chi faddau'r llaw-fer newyddiadurol. Fe fyddai'n drysu pawb be bai ni'n gorfod disgrifio Aled fel cyn-arweinydd Cyngor Wrecsam neu Gadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod!
Ta beth am hynny mae gobeithion Aled a John o fyw trwy'r storm a chymryd seddi yn y Cynulliad yn lleihau a hynny am resymau gwleidyddol yn hytrach na rhai cyfreithiol.
Mae 'na grynodeb trylwyr o'r sefyllfa gyfreithiol draw ar flog Betsan. Ai ddim dros yr un tir eto. Pwynt arall sydd gen i sef hwn. Hyd yn oed os ydy'r cyngor cyfreithiol yn cadarnhau bod gan y Cynulliad yr hawl i ganiatáu i Aled a John fod yn aelodau fe fyddai'n rhaid i'r Democratiaid Rhyddfrydol sicrhau cefnogaeth y pleidiau eraill er mwyn i hynny ddigwydd.
Yn ogystal â'r cwestiynau cyfreithiol mae 'na gwestiwn gwleidyddol hefyd felly a dros y pedair awr ar hugain diweddaraf mae agweddau'r tair plaid arall wedi caledu - a hynny mewn modd anffafriol i'r ddau 'aelod'.
Yn y cyd-destun hwnnw mae'n ddiddorol nodi bod rhai yn y byd gwelidyddol, gan gynnwys rhai yn rhengoedd y Democratiaid Rhyddfrydol, yn dechrau gwahaniaethu rhwng y ddau achos. Yn achos Aled maen nhw'n nodi nad oedd y Tribiwnlys Prisiau ar restr y cyrff oedd wedi eu gwahardd a gyhoeddwyd yn 2006. Y rhestr honno oedd yn ymddangos ar wefan y Cynulliad adeg yr etholiad. Roedd y Tribiwnlys ar restr 2010 - yr un sydd ar wefan y Comisiwn Etholiadol ond mae 'na rhyw faint o "wriggle room" gan Aled. Mae'r Cyngor Gofal, y corff yr oedd John Dixon yn aelod ohono, ar y llaw arall ar y ddwy restr. Yn ogystal dyw aelodau'r Comisiwn Prisiau ddim yn derbyn tal am eu gwaith. Mae aelodau'r cyngor gofal ar y llaw arall yn derbyn £4,752 y flwyddyn.
Beth fydd diwedd y stori hon? Dyn a wyr ond mae'n ddigon posib y bydd y ddau allan, y ddau yn ôl neu hyd yn oed un mas ac un mewn.
SylwadauAnfon sylw
Cawlach y Lib Dems. Nhw sy’n gyfrifol a nhw ddylai ddelio a’r mater.
Does dim hawl gan Kirsty a’i phlaid i lusgo’r Senedd i fewn i fater sy’n deillio o wendidau mewnol yn nhrefniadaeth y Rh Dem. Rhai i Kirsty amddiffyn y ddeddf, a’n Senedd, hyd yn oed os oes raid iddi (a ni) ddygymod a Eleanor Burnham am bum mlynedd arall.
Does dim dewis ond gwared y ddau.