´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ar y Rue Saint Michelle...

Vaughan Roderick | 15:16, Dydd Mercher, 8 Mehefin 2011

Ymddiheuriadau am y diffyg blogio'n ddiweddar. Rwyf wedi bod ar wyliau. Roeddwn i yn ôl ar gyfer y seremonïau agoriadol, wrth reswm. Peth ffôl iawn byddai colli'r rheiny!

Fe ddylai unrhyw un sy'n credu nad yw absenoldeb arweinydd Plaid Cymru o'r ddefod yn cyfri wrando yn ôl ar raglen ffonio i mewn Radio Wales heddiw i ddeall cymaint yw'r dicter ymhlith cyfran, o leiaf, o'r etholwyr. Nid brenhinwyr pybyr neu wrthwynebwyr gwleidyddol Plaid Cymru yw'r bobol hynny i gyd chwaith.

Fe ddysgodd Rhodri Morgan wers boenus adeg coffau glaniad D-Day yn 2004 fod 'na ambell i ddigwyddiad y mae pobol Cymru yn disgwyl i'w harweinwyr cenedlaethol eu mynychu.

Mewn un ystyr mae'r adwaith yn arwydd o bwysigrwydd y Cynulliad a'i arweinwyr gwleidyddol ym meddyliau'r etholwyr erbyn hyn. Efallai dylai Cenedlaetholwyr ymhyfrydu yn y ffaith bod pobol yn poeni am yr agoriad ac absenoldeb Ieuan Wyn Jones i'r fath raddau. Serch hynny am ryw reswm rwy'n amau nad yw deiliaid ail lawr TÅ· Hywel yn slochian siampen nac unrhyw win drudfawr arall o Ffrainc y prynhawn yma.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:13 ar 8 Mehefin 2011, ysgrifennodd Robert:

    Mi wnes i wrando ar y raglen. Roedd llawer wedi cefnogi safiad y pedwar gweriniaethwr. Roedd ansicrwydd ynglyn a rhesymau IWJ. Mi wnes i ceisio gysylltu gyda'r rhaglen i gefnogi safiad y 4 Pleidiwr ond ni wnaeth J Mohammed ddarllen fy neges er i mi ei ail ddanfon. Mi ges i'r argraff fod J Mohammed yn ceisio corddi'r dyfroedd ac yn amlwg nid oedd yn ddiduedd ac yn 'wafio' darnau o bapur o gwmpas y lle pan oedd rhywun yn siarad er mwyn dweud fod pobl wedi gwylltio. Wrth gwrs, roedd llawer o'r rheiny'n gefnogol fel y fi. Ar y panel.....Matt Withers a wnaeth ffitio i mewn sawl gwaith fod IWJ yn aros yn ei 'ail dy' yn Ffrainc a'r Athro (anghofio ei enw) hanes Llafur. :-)) Wrth gwrs, mi gafodd AC Llafur De Clwyd dipyn o'r awyr hefyd i rhoi'r gyllel i mewn.

    Gyda llaw, dwi'n gwrando ar raglen J Mohammed yn aml ac mae'n dda ond mae e....fel cymaint o weithwyr y ´óÏó´«Ã½ yn amlwg yn Frenhiniaethwyr rhonc.....o leia yn gyhoeddus. Ta beth, roeddwn ni'n adnabod llawer o'r lleisiau oedd yn ffonio i mewn fel Sheryl.....a dwi'n gwybod taw Sheryl o Abercraf yw hi. Mae hi wedi byw ei bywyd yn Ne Affrica ac mae hi'n ofnadwy o asgell dde. Nid oedd y rhaglen yma yn draws doriad o gymdeithas felly pam wyt ti'n gallu dweud "Nid brenhinwyr pybyr neu wrthwynebwyr gwleidyddol Plaid Cymru yw'r bobol hynny i gyd chwaith." Mi aeth Sheryl yn eu blaen i ddweud nad oedd dim yng Nghymru gan wfftio annibyniaeth. A'r gwr arall o Abertawe oedd yn dweud fod pobpeth yng Nghymru yn eilradd i Loegr ee y system addysg a taw 'maniana' oedd yn rheoli. Le oedd J Mohammed na fyddai e'n stopio'r rhain rhag mynd ar gyfeiliorn? Rhaglen un-ochrog gyda panel o unoliaethwyr oedd yn freniniaethwyr. Siomedig. A hyn ar y diwrnod oedd Carwyn Jones mor llipa o flaen Cameron i gymharu a phenaethiaid G Iwerddon a'r Alban. Pe bawn ni'n credu mewn 'conspiracies'.....?

  • 2. Am 21:34 ar 8 Mehefin 2011, ysgrifennodd Llyfr Wag:

    Mae IWJ wedi gwneud cam enfawr wrth aros ar wyliau yn Ffainc - beth oedd ar ei ben e? Gall fod wedi dal hediad rhad efo Ryanair o Nice!

    Mae'n nodweddiadol o rhyw strîc ym meddylfryd y chwith meddal o fewn Plaid Cymru sy'n twt-twtio a codi eu ffroenau ar seremoniau o unrhyw fath. Mae Pleidwyr yn gwneud hyn o hyd mewn gorymdeithiau maeryddol neu Sul y Cofio.

    Mae symbolau'n bwysig, mae seremoni yn bwysig. Dysgwch hyn.

    Y drwg i IWJ a Phlaid Cymru nawr yw fod IWJ yn arweinydd cloff iawn. Dim iws dweud fod Carwyn Jones yn araf neu ddigon os oes well gan arweinydd eich plaid aros ar wyliau yn Ffrainc na agor senedd ei wlad. Senedd y bu yntau'n ymgyrchu dros cryfhau ei phwerau cwta 3 mis yn ôl!

    Mae'n un peth boicotio'r agoriad ar sail gweriniaethol. Gall pobl ddeall neu barchu hynny. Ond i fod ar wyliau!?


    Dwi'n gobeithio

  • 3. Am 22:55 ar 8 Mehefin 2011, ysgrifennodd Alun o Gasnewydd:

    Anodd gwybod beth mae dweud yn y fan yma. Rydw i yn genedlaetholwr pybyr a heb fod erioed yn gefnogol i’r Frenhiniaeth. Mae llawer cwestiwn yn codi gydag absenoldeb IWJ yn y seremoni ddoe.
    Yn gyntaf heb os, mae wedi dangos diffyg parch nid jest i HRM ond llawer yn fwy na hynny i’r senedd ei hun fel sefydliad. Y Blaid fwy na neb sydd wedi gwneud yn siŵr bod Senedd ddeddfwriaethol gennym fel gwlad, ac ar adeg fel yma dylai’r arweinydd o bawb fod yn bresennol pan mae yn cael ei agor fel hyn am y tro cyntaf.
    Pwynt arall hoffwn wybod yw hyn. Pan fyddaf fi yn colli diwrnod o waith fel athro heb fod rheswm digonol gennyf fel bod yn sâl byddaf yn colli diwrnod o gyflog. A fydd IWJ yn colli wythnos o gyflog fan yma??
    Mae cefnogwyr cyffredin y Blaid yn cyfrannu yn ariannol ac o’i amser prin i lwyddiant etholiadol y Blaid. Fel gebyst gallwn ni yn awr fynd o amgylch y drysau pan fydd ein harweinydd yn chwarae gem o dwpdra hunanladdiad fel hyn?

  • 4. Am 10:43 ar 9 Mehefin 2011, ysgrifennodd Rhys:

    Un cwestiwn cyflym, a all fod yn sgwarnnog i genwllyn y drafodaeth, Vaughan: a fydd y Frenhines yn rhan o'r drefn ddedfwriaethol yng Nghymru? Rwy'n cymryd mai hi fydd yn cydseinio deddfau'r Cynulliad; a oes y fath gysyniad a'r 'Queen-in-Assembly' yn bodoli? Rwy'di ceisio cael ateb i hwn mewn wahanol leoedd ond heb lwyddiant.

  • 5. Am 11:23 ar 9 Mehefin 2011, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Fe fydd y frenhines yn rhan o'r broses gan gydsynio i ddeddfwriaeth trwy'r "Sêl Gymreig". Mae honno wedi ei chynllunio, mae'n debyg - ond dyw'r cynllun heb ei gyhoeddi. Dydw i ddim wedi clywed Queen na Crown in the Assembly yn cael eu defnyddio fel termau ond maen nhw'n gyfansoddiadol gywir, dybiwn i.

  • 6. Am 12:42 ar 9 Mehefin 2011, ysgrifennodd Dewi:

    Dwnim Vaughan,
    Snam doubt bod Llywodraeth Cymru yn gwneud pethau ar ran y Goron, snam doubt bod Cynulliad 1998-2005 yn gwneud pethau ar ran y Goron. Dwnim beth yw Sefyllfa y Cynulliad fel corff o 2006 ymlaen, yn amlwg gafodd o ei greu gan "Y Frenhines" ond dwnim os ydy nhw'n gweithredu unrhywbeth ar ran y Goron chwaith?

  • 7. Am 11:44 ar 10 Mehefin 2011, ysgrifennodd Robert:

    Pwy sydd gan J Mohammed ar ei raglen heddiw?:

    jasonphonein Jason Mohammad
    The Royal author and commentator, Brian Hoey is coming onto @jasonphonein - he has some fab stories of #princephilip

    :-))

  • 8. Am 11:55 ar 10 Mehefin 2011, ysgrifennodd Robert:

    Dyma fe eto:

    jasonphonein Jason Mohammad
    Anyone else mesmerised by The Duke at 90?
    14 hours ago Favorite Retweet Reply

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.