Bwriwyd unbardd, brad enbyd
Mae stori sydd wedi bod yn ffrwtian ers rhyw wythnos yn dechrau magu stem. Fe wnes ei chrybwyll ar y blog ac ar CF99 wythnos ddiwethaf ac fe balodd Rhiannon Michael ymhellach ar gyfer y safle . Erbyn hyn mae'r stori wedi cyrraedd tudalennau'r .
Ai ddim trwy'r cyfan eto ond yn y bôn yr honiad yw bod Aled Roberts wedi mynd i drafferthion etholiadol oherwydd iddo ddilyn dolen Gymraeg yn hytrach nac un Saesneg. Wrth reswm mae ymgyrchwyr iaith wedi eu cynddeiriogi gan y posibilrwydd mai dyna wnaeth ddigwydd.
Mae Rhiannon a finnau, a Martin Shipton o ran hynny, wedi bod yn weddol garcus ynghylch y stori yma am y rheswm syml nad ydym wedi gweld y dystiolaeth ysgrifenedig. Mae'n debyg bod y dystiolaeth honno yn bodoli ond ar hyn o bryd mae hi yn nwylo'r awdurdodau perthnasol.
Ond pa awdurdodau yw'r rheiny? Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cael gwybod gan yr heddlu bod y cyfan o'r dystiolaeth bellach yn nwylo Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Nghaerefrog. Mae ffynhonnell arall yn agos at yr ymchwiliad yn awgrymu mai peth o'r dystiolaeth yn unig sydd wedi ei drosglwyddo hyd yma nid y ffeil gyfan.
Os felly gallai'r Cynulliad wynebu sefyllfa hynod o anodd. Mae'n rhaid i'r Cynulliad gyrraedd penderfyniad erbyn diwedd y mis. Nid oes modd gohirio'r penderfyniad na'i newid wedyn. Y gobaith yw y bydd yr Aelodau yn gallu penderfynu ar sail cyngor cyfreithio y maen nhw eisoes wedi ei dderbyn a chrynodeb o ffeithiau'r ddau achos i'w baratoi gan Gerard Elias QC y comisiynydd safonau. Nid oes modd i'r crynodeb hwnnw gael ei baratoi na'i gylchredeg cyn i'r Gwasanaeth Erlyn gyrraedd penderfyniad ynghylch unrhyw droseddau posib.
Os nad yw'r heddlu a'r CPS yn prysuro felly gallai'r Cynulliad fod mewn sefyllfa o orfod pennu ffawd Aled Roberts a John Dixon heb asesiad annibynol a di-duedd o ffeithiau'r ddau achos. Fe fyddai hynny'n lletwith o dan unrhyw amgylchiad. Mae'r ffaith y gallai'r penderfyniad hwnnw fod yn achos o gamwahaniaethu ieithyddol yn gwneud y sefyllfa'n hunllefus braidd.