Cyfyng Gyngor
Cyn dyfod gwyliau'r Cynulliad roedd y gwrthbleidiau yn y Bae wedi datblygu tacteg bur effeithiol o ymosod ar y Llywodraeth sef ei chyhuddo o beidio gwneud dim - neu o leiaf o laesu dwylo ar ôl yr etholiad. Nid "sefyll cornel Cymru" ond eistedd mewn cornel oedd y Llywodraeth yn ôl ei gwrthwynebwyr.
Roedd methiant y Llywodraeth i gyhoeddi rhaglen waith a chyn wythnos ola' tymor rhaglen ddeddfwriaethol yn fêl ar fysedd y gwrthbleidiau wrth iddyn nhw ddatblygu eu dadl. Er bod yr ymosodiad yn un digon effeithiol y gwir amdani yw nad oes 'na reswm mewn gwirionedd i Lywodraeth un blaid gyhoeddi rhaglen waith o gwbwl. Maniffesto'r blaid i bob pwrpas yw'r rhaglen waith. Yn wir, pam y dylai llywodraeth roi rhybudd rhag blaen os ydy hi'n bwriadu cyflwyno mesurau neu bolisïau allai ennyn gwrthwynebiad.
Un polisi a fyddai'n sicr o fod yn ddadleuol fyddai ad-drefnu Llywodraeth Leol. Byth ers sefydlu'r Cynulliad yn un fu'r gri gan y Llywodraeth - a'r gwrthbleidiau o ran hynny. Mae 'na ormod o gynghorau yng Nghymru a nifer o rheiny'n rhy fach medd y consensws ond fe fyddai ceisio eu hadrefnu o fwy o drafferth nac o werth.
Dwn i ddim sawl adolygiad, ymchwiliad, arolwg ac adroddiad sydd wedi bod ar hyd y blynyddoedd. Mae pob un wedi dod i fwy neu lai'r un casgliad sef y dylai'r cynghorau gydweithio'n agosach a'i gilydd a gweddill y sector gyhoeddus trwy rannu swyddogion ac adnoddau. Mae 'na ambell i esiampl o hynny'n digwydd ond dim hanner digon i fodloni'r Llywodraeth.
Chwi gofiwch efallai yn nyddiau olaf y trydydd Cynulliad i Lywodraeth Cymru'n Un gyflwyno gwelliant munud olaf i'r Mesur Llywodraeth Leol yn caniatáu i'r Llywodraeth orchymyn uno Cynghorau. Fe achosodd y peth dipyn o ffrwgwd ar y pryd - yn enwedig gan fod y Llywodraeth wedi gweithredu'n hwyr iawn y dydd ar ôl i bron y cyfan o broses o graffu'r mesur gael ei chwblhau.
Sicrhau pŵer wrth gefn oedd y bwriad yn ôl y llywodraeth - pŵer a fyddai ond yn cael ei defnyddio mewn argyfwng ond a fyddai'n fodd i ddwyn pwysau ar gynghorau aneffeithiol neu anghyfrifol. Doedd dim angen bod yn athrylith i synhwyro pa gyngor ynysig oedd yn cael ei fygwth.
Felly oedd pethau'n edrych ar y pryd ond ers yr etholiad cafwyd cyfres o adroddiadau damniol ynghylch cynghorau ar wahân i Gyngor Môn. Mae Blaenau Gwent a Sir Benfro ymhlith y rhai o dan y lach.
Asiantaethau annibynnol oedd yn gyfrifol am yr adroddiadau ac annheg fyddai eu cyhuddo o ddilyn rhyw agenda gudd ar ran y Llywodraeth. Teg yw dweud ar y llaw arall bod y Llywodraeth wedi ymateb i'r adroddiadau mewn modd wnaeth sicrhau'r cyhoeddusrwydd mwyaf posib i'r honiadau gan bwysleisio eu difrifoldeb.
Y cwestiwn sy'n codi yw hwn. Ydy'r Llywodraeth yn braenaru'r tir ar gyfer uno cynghorau? Mae nifer cynyddol o bobol fawr Llywodraeth Leol yn credu ei bod hi. Posibilrwydd arall yw y gallai rhai gwasanaethau allweddol megis addysg a gwasanaethau cymdeithasol gael eu canoli ar lefel rhanbarthol gan adael cynghorau gyda phwerau digon tebyg i rai'r hen gynghorau dosbarth.
Yn bersonol dydw i ddim yn gwybod a welwn ni'r Gwynedd fawr neu ddadeni Dyfed yn y dyfodol agos ond mae'n anodd coelio nad yw uno o dan ystyriaeth mewn ambell ardal. Os oeddech chi'n gorfodi i mi broffwydo faint o gynghorau fydd gan Gymru erbyn diwedd y cynulliad hwn byswn yn mentro swllt - ond dim mwy - nad dau ar hugain fyddai'r ateb.