´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

257, 221 a Radio Ceredigion

Vaughan Roderick | 09:49, Dydd Iau, 29 Medi 2011

Ar wahân i gael eich gwahodd i fod yn aelod o'r Orsedd bo brin fod 'na fwy o anrhydedd yn y Gymru Gymraeg na bod yn westai ar "Beti a'i Phobol". Mae codi'n fore i Bost Cyntaf yn fwrn a chyfrannu i Bost Prynhawn yn ddyletswydd. Mae bod mewn stiwdio gyda La Betisima ar y llaw arall yn fraint.

Ces i'r anhrhydedd honno'n ddiweddar a chewch glywed y sgwrs yn y dyfodol agos. Fel sy'n tueddu digwydd fe esgorodd y sgwrs ar ambell i atgof gan gynnwys un sy'n
berthnasol i rywbeth sy'n dipyn o bwnc llosg ar hyn o bryd.

Sôn oeddwn am weithio i orsaf radio Darlledu Caerdydd - gorsaf a oedd yn fagwrfa i giwed o ddarlledwyr Cymraeg gan gynnwys Sian Lloyd y tywydd, Eifion Jones, Gareth Charles ac Ian Gwyn Hughes. Draw yn y gorllewin roedd Sain Abertawe yn cynhyrchu pobol fel Glynog Davies, Garry Owen a Sian Thomas.

Fe ofynnodd Beti gwestiwn syml - y rheiny sy'n cael yr atebion gorau weithiau. "Pam oedd y ddwy orsaf yn cynhyrchu gymaint o raglenni Cymraeg?" oedd y cwestiwn. Roedd yr ateb yr un mor syml. "Roedd hi'n amod o'r drwydded" meddwn i heb feddwl ymhellach am y peth.

Ond arhoswch eiliad. Ar hyn o bryd mae'r Bwrdd Iaith ac Ofcom yn cyflwyno tystiolaeth i Leighton Andrews ynghylch dadl rhyngddynt am ddyletswyddau'r rheoleiddiwr darlledu tuag at y Gymraeg. Mae'r Bwrdd yn mynnu nad yw cynllun iaith Ofcom yn ddigonol gan nad yw'n gorfodi i'r corff osod amodau ieithyddol wrth hysbysebu trwyddedi ddarlledu. Mae Ofcom yn mynnu nad oes ganddi'r hawl gyfreithiol i wneud hynny.

Mae'n anodd credu bod gan y Gymraeg statws is ym myd darlledu heddiw nac oedd ganddi ddeng mlynedd ar hugain yn ôl - cyn cyflwyno dwn i ddim i faint o fesurau a deddfau iaith a darlledu. Rwy'n cyfaddef nad wyf wed cribo trwyddyn nhw i gyd i wybod hyd sicrwydd bod hynny'n wir. Fe gawn wybod pan ddaw dyfarniad Leighton ynmhen ychydig fisoedd.

Yn y cyfamser mae Ofcom yn bwriadu ail-hysbysebu trwydded Radio Ceredigion heb amodau ieithyddol. Ar ôl llusgo traed gan eraill mae'r Gweinidog Addysg i'w ganmol am weithredu ynghylch y ffrae rhwng y Bwrdd Iaith ac Ofcom - ond oni ddylai fe hefyd ofyn am rewi'r broses drwyddedi yng Ngheredigion nes i'r mater gael ei setlo'r naill fordd neu'r llall?


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:48 ar 29 Medi 2011, ysgrifennodd Neil Shadrach:

    Trueni nad yw mwy o raglenni radio Cymraeg fel un ei mawrhydi ar gael ar ffurf podlediadau. I'r rhai ohonon ni sy'n dewis derbyn ein difyrrwch fel ffeiliau sain ( am lu o resymau ) ychydig iawn o ddewis sydd yn Gymraeg.

  • 2. Am 12:54 ar 29 Medi 2011, ysgrifennodd Andy Bell:

    Ahem. Fel un arall o gynnyrch y DDWY orsaf fasnachol - yr unig un o bosibl - hoffwn ddweud yr oedd y "Cymry da" yn uchel eu cloch yn beirniadu "safon" y rhaglenni Cymraeg. Wrth i mi ddechreu fy 31ain blynedd fel darllewdr proffesiynol gaf i ddweud yr oedd y rhaglenni o safon arbenning ... y safon o gyrraedd clustiau!!! Fe ddylai POB gorsaf radio yng Nghymru ddarlledu hyn a hyn yn y Gymraeg. Nid atodiad mo'r iaith ond rhan o'r gymuned.
    Gresyn na lwyddodd yr annwyl Willie Bowen Sain Abertawe gyraedd uchelfannau'r ´óÏó´«Ã½ ... un o'r darlledwyr mwya naturiol i mi gyd-weithio ag ef yn fy nghyrfa.
    Diolch i ti Vaughan am son am hannes anghofiedig (bwriadol) darlledu Cymru.
    Hwre am yr Amledd Uchel Iawn a Llais y Brifddinas!

  • 3. Am 13:45 ar 29 Medi 2011, ysgrifennodd Rhodri ap Dyfrig:

    Mae'r ffaith bod cynifer wedi ymateb i'r ymghyghoriad Ofcom ar newid natur fformat Radio Ceredigion, ac yna iddyn nhw allu ffeindio loophole yn y rheolau fel hyn yn fy ngadael i'n teimlo bod ceisio darbwyllo Ofcom i wneud unrhywbeth o blaid y Gymraeg yn weithred hesb. Pam ffwdanu cael ymgynghoriad yn y man cyntaf? Pam gwastraffu amser pawb? Rydw i'n deall bod cais ar y gweill am orsaf gymunedol Gymraeg i ardaloedd lle mae Radio CEredigion yn darlledu, ond mae na lawer iawn o broblemau i'w goroesi cyn gall hynny ddigwydd. Ac hyd yn oed os daw, mi fydd gan Town and Country veto ar allu'r orsaf honno i hysbysebu. Mae'r grym gan y lobi gorsafoedd masnachol ac mae Ofcom wedi plygu i bob un o'u gofynion nhw yn y blynyddoedd dwetha. Dyw fformat a "lleolrwydd" werth dim on geiriau ar bapur erbyn hyn.

    Mae dy awgrym yn un call iawn Vaughan. Sut all y broses drwyddedu fynd rhagddi ar gyfer yr un orsaf sydd ar ôl fyddai'n cael ei effeithio fwya gan unrhyw newid polisi trwyddedu gan Ofcom?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.