´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Llethrau llithrig

Vaughan Roderick | 09:44, Dydd Mawrth, 13 Medi 2011

Neil Kinnock, rwy'n meddwl, gwnaeth fathu'r dywediad y "slippery slope to separation" yn ôl yn y saithdegau fel rhan o'i ymgyrch lwyddiannus i drechu cynlluniau datganoli llywodraeth Jim Callaghan.

Heb os roedd 'na elfen reddfol yn ymwneud ac iaith a chenedligrwydd ynghlwm ac ymateb Neil i'r cynlluniau ond doedd ei ddadl ddim yn ddisylwedd. Nid gwrthwynebu datganoli fel y cyfryw oedd Neil ond datganoli anghymesur. Heb ateb digonol i gwestiwn West Lothian roedd y llwybr llithrig i rywbeth yn dechrau gyda 'll' yn anorfod.

Mae Neil wedi dewis cadw'n dawel ynghylch datganoli ers rhai degawdau bellach gan ddangos hunan ddisgyblaeth annisgwyl efallai! Serch hynny mae'n anodd credu na fyddai'n gweld datblygiadau diweddar yng Nghymru a'r Alban fel cyfiawnhad o'i safiad fel gwr ifanc.

Nid bod dadl y llwybr llithrig wedi diflannu'n llwyr. Ceir adlais ohoni yn y gwrthwynebiad o fewn y Blaid Geidwadol a'r Blaid Lafur yng Nghymru i'r fath o newidiadau strwythurol sy'n cael eu hystyried gan eu cefndryd Albanaidd. Coeliwch neu beidio mae'r un peth yn wir yn y Blaid Werdd gyda Gwyrddion Cymru yn mynnu dal llaw plaid Lloegr yn hytrach na thorri cwys annibynnol fel Gwyrddion yr Alban.

Does dim brys mawr i benderfynu beth yw dyfodol y berthynas rhwng y pleidiau Cymreig a'r rhai Prydeinig neu Seisnig. Yn wir gellid dadlau y byddai 'na fanteision mewn oedi i weld canlyniadau'r broses yn yr Alban ac argymhellion Calman Cymru cyn cyrraedd penderfyniad.

Mae'r cwestiwn o p'un ai i seilio'i drefniadaeth leol ar etholaethau'r Cynulliad neu rai newydd San Steffan ar y llaw arall yn un fydd yn rhaid ei ateb yn weddol o fuan. Ysgrifennais wythnos ddiwethaf ynghylch y ffordd y mae ail gymal y Cyfansoddiad Llafur yn clymu dwylo'r blaid yng Nghymru. Does dim bwriad ar hyn o bryd i newid y cymal hwnnw ond dyw hen bennau Llafur ddim yn credu y byddai hynny'n broblem pe bai'r blaid Gymreig yn dymuno hynny.

Yn y cyfamser mae'n debyg y bydd y pleidiau oedi er mwyn gweld argymhellion Calman Cymru cyn gwneud penderfyniadau terfynol. Pe bai hwnnw'n arghymell cynyddu nifer y seddi rhestr ar draul yr aelodau etholaeth fe fyddai hynny'n datrys y broblem - er go brin y byddai Llafur yn croesawu hynny.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.