´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gwlad! Gwlad!

Vaughan Roderick | 10:27, Dydd Mawrth, 11 Hydref 2011

Dyw e ddim yn orfodol i bob newyddiadurwr Cymreig ysgrifennu rhywbeth ynghylch Cwpan Rygbi'r Byd. Mae hi jyst yn ymddangos felly.

Peidiwch â becso dydw i ddim am wneud rhyw sylwadau anwybodus ynghylch safon y chwarae. Pwynt bach arall sy gen i!

Pan eisteddodd James James lawr i ysgrifennu'r don a alwodd yn "Glan Rhondda" go brin y byddai wedi rhagweld y byddai'n cael ei harafu ac yna ei dyrchafu i fod yn anthem oedd yn cael ei chanu cyn ornestau chwaraeon rhyngwladol.

Fel mae'n digwydd "Hen Wlad fy Nhadau" oedd yr anthem gyntaf i gael ei defnyddio yn y fath fodd. Fe'i canwyd fel ymateb i "haka" y crysau duon ar gychwn ornest enwog 1905.

Dim ond yn 1990 y dechreuodd "Flower of Scotland" gael ei chanu'n swyddogol yn lle "God Save The Queen" cyn gemau'r Alban ac mae'r cwestiwn o ba anthem neu anthemau sy'n cael eu chwarae cyn gemau Iwerddon o hyd yn bwnc dadleuol - yn enwedig pan mae gemau'n cael eu chwarae yn Ravenhill.

Hap, damwain a'r angen i gael timau i chwarae yn ei herbyn nhw sy'n gyfrifol am y sefyllfa unigryw lle mae cenhedloedd yr ynysoedd hyn yn chwarae fel timau unigol yn hytrach na seilio'r drefn ar ffiniau'r wladwriaeth, neu ar ôl 1922, gwladwriaethau.

Go brin fod sylfaenwyr Undeb Rygbi neu Gymdeithas Pêl Droed Cymru yn credu bod 'na unrhyw oblygiadau neu elfennau gwleidyddol yn y ffordd y strwythurwyd eu campau ond y gwir amdani yw y gellid dadlau y byddai Cymru 2011 yn wlad wahanol iawn - os yn wlad o gwbwl - pe bai penderfyniadau i'r gwrthwyneb wedi eu cymryd.

Yn hanesydd Norman Davies sy'n gwneud y pwynt orau yn ei gampwaith "The Isles"

"Sport being intimately tied up with national pride, contains a stronger political dimension than most paricipants realize. It can easily be turned into an instrument of state policy... The widespread failure to create teams representing the whole United Kingdom must be seen as a symptom of the wider failure to construct a British nation."

Mae pwynt Norman Davies yn un cyffredinol ynghylch yr Alban, Iwerddon a Chymru ond yn achos Cymru roedd y drefn chwaraeon yn rhan o newid arwyddocaol arall.

Cyn y chwyldro diwydiannol roedd y diffiniad o bwy oedd yn Gymro a phwy oedd yn Sais yn weddol amlwg. Os oeddech chi'n siarad Gymraeg roeddech yn Gymro.

Roedd sefydlu'r cyrff chwaraeon cenedlaethol yn rhan o esblygiad y syniad o Gymru fel cenedl diriogaethol lle nad oedd siarad iaith yn hanfodol er mwyn dilyn ei thîm chwaraeon, chwifio ei baner neu ganu ei hanthem.

Dyna pam bod Cymru heddiw yn genedl o dair miliwn o bobol yn siarad pob math o ieithoedd ac o bob math o gefndiroedd yn hytrach nac yn genedl o hanner miliwn o siaradwyr Gymraeg. Fel dywed Norman Davies ymwybyddiaeth genedlaethol yw'r sment sy'n gludo cymunedau at ei gilydd. Yn achos Cymru mae hynny'n cynnwys o leiaf dwy gymuned ieithyddol.

Mae pobol mewn cenhedloedd lleiafrifol eraill Ewrop yn deall hynny'n iawn ac yn eiddigeddus o statws timau'r ynysoedd hyn. Os oes angen prawf o hynny arnoch chi gwyliwch y fideo am yma o gefnogwyr Stade Rennais yn morio canu "Glan Rhondda" yn y Stade du France ar drothwy gem gwpan.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:33 ar 11 Hydref 2011, ysgrifennodd Steffan Johnc:

    Diddorol. Ar y cyfan, buaswn yn cytuno fod bodolaeth timau Cymru wedi helpu magu hunaniaeth Cymreig sydd yn mynd tu hwnt i'r iaith, ac yn hynny o beth, mae wedi bod yn llwyddiant gan ei fod hi'n haws cefnogi tim na dysgu iaith newydd.

    Beth sydd yn synnu fi i ryw raddau yw'r ffaith nad oes unrhyw rhwyg De-Gogledd ynghylch a cefnogi Cymru yn y rygbi, serch y ffaith nad yw'r gem hanner mor boblogaidd ymhlith ni Gogs. Dydym ni ddim yn gweld Cymru fel tim ‘y De’, a dydi’r De erioed wedi cwestiynnu ein statws fel ‘gwir’ cefnogwyr.

    Rydym wedi hen arfer gweld ein hunain yn wlad rhanedig iawn ar sail hunaniaeth daearyddol, ond ar y fater hon, mae'n ymddangos fod unrhyw rhaniadau yn gwbl absenol.

  • 2. Am 20:03 ar 11 Hydref 2011, ysgrifennodd Monwynsyn:

    A beth am y tim Criced neu ddiffyg tim criced ?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.