Caerwyn
Roeddwn i'n bell o'r blog, trydar a'r we ddoe. Efallai nad ydych yn credu bod hynny'n bosib. Y cyfan ddywedaf i yw hyn. Os ydych chi'n gweld sgarmes o newyddiadurwyr - boi'r ´óÏó´«Ã½ yw'r un yn y cefn yn gwaeddu mewn i Nokia hynafol!
Ta beth, os oeddwn i wedi bod yn agos at gyfrifiadur doe byswn wedi ysgrifennu ychydig eiriau ynghylch Caerwyn Roderick fu farw rhai dyddiau yn ôl. Gwell hwyr nac hwyrach.
Digon cwta oedd gyrfa seneddol Caerwyn.
Fe'i etholwyd yn Aelod Seneddol Brycheiniog a Maesyfed i olynu Tudor Watkins yn 1970. Cadwodd y sedd yn etholiadau 1974 a'i cholli yn 1979 ar ôl i'r comisiwn ffiniau gael torri Brynmawr a Chefn Coed y Cymmer allan o'r etholaeth. Roedd Ystradgynlais dai i mewn - ond doedd honno ddim yn ddigon ar ei phen ei hun i gadw'r sedd yn y golofn Lafur.
Dydw i ddim yn meddwl bod Caerwyn yn colli San Steffan llawer. Wedi'r cyfan, roedd gweithio i'r NUT yng Nghaerdydd yn caniatáu iddo wylio Morgannwg llawer yn amlach.
Fedra i ddim meddwl am unrhyw beth gwael i ddweud am Caerwyn. Roedd e'n ddyn oedd yn gadarn ei ddaliadau heb fod yn gul ei feddwl ac roedd ei gwmni bob tro yn bleser.
Pob cydymdeimlad â'i deulu.
SylwadauAnfon sylw
Dim byd i wneud a'ch erthygl chi ar Caerwyn Roderick ond...
'Welshi Minister rules out smacking ban' - dyma oedd y teitl ar wefan newyddion Saesneg y ´óÏó´«Ã½ heddiw wrth gyfeirio at Gwenda Thomas a'r ddadl ynglyn a tharo plant.
Ai bwriadol ddilornus oedd hyn neu gohebydd wedi rhoi'r teitl fel joc ac anghofio ei newid cyn ei roi ar y wefan?
Gwr bonheddig i'r carn. Un o'r hen deip Llafur Cenedltholgar. Yn browd iawn o'r Ystrad ac yn Gristion didwyll. Colled mawr ar ei ol.