Coronwch hi yn ben
Rwy'n cofio rhyw dro ceisio esbonio'r ffordd y mae'r gwledydd hyn yn cael eu llywodraethu i fy mrawd yng nghyfraith sy'n Americanwr. Ar ôl rhyw hanner awr roeddwn mwy neu lai wedi llwyddo i gyfleu'r syniad mai un o hanfodion ein cyfnasoddiad yw nad yw e'n bodoli - neu yn hytrach ei fod wedi ei wasgaru trwy gannoedd o ddeddfau, dedfrydau a dyfarniadau. Symudais i ymlaen i geisio esbonio lle yn union mae ffiniau'r wladwriaeth hon ac fe aethon ni ar goll mewn rhyw fath o driongl Bermuda cyfansoddiadol rhywle rhwng Ynys Manaw, Sark a Thristan da Chuna!
Un agwedd o'r cyfansoddiad nad oeddwn yn gyfarwydd â hi cyn heddiw oedd y 'realm'. 'Teyrnas' sy'n cael ei chynnig gan Cysill fel cyfieithiad o'r term - ond fe awn i ddryswch pur trwy ddefnyddio honno!
Y gwladwriaethau y mae'r Frenhines yn ben arnynt yw'r 'realm'. Mae'r rhestr yn cynnwys y Deyrnas Unedig a'i threfedigaethau wrth reswm ond hefyd pymtheg o wladwriaethau eraill yn eu plith Awstralia, Canada, Seland Newydd a llwyth o ynysoedd bach egsotig fel Antigua, Tuvalu a Saint Lucia.
Mae Prif Weinidogion y gwledydd hynny yn cwrdd ar ymylon Cynhadledd y Gymanwlad i drafod y newidiadau i'r olyniaeth frenhinol y mae David Cameron yn dymuno eu cyflwyno er mwyn sicrhau cydraddoldeb rhywiol a chrefyddol yn y gyfundrefn. Go brin y bydd 'na wrthwynebiad.
Y cwestiwn sy'n fwy diddorol yw pa fantais y mae'r gwledydd hyn yn gweld mewn cael tramorwraig fel pennaeth gwladwriaeth a honno'n dramorwraig a ddewiswyd trwy hap a damwain ei genedigaeth a hanes ei theulu.
Fel mae'n digwydd roeddwn i yn Awstralia pan bleidleisiodd ei dinasyddion yn erbyn dileu'r Frenhiniaeth. Roedd 'na sawl rheswm am hynny gan gynnwys poblogrwydd personol y Frenhines. Rheswm pwysicach o bell ffordd oedd llwyddiant ymgyrchwyr dros y Frenhiniaeth i ganolbwyntio sylw'r etholwyr ar y fath o weriniaeth oedd yn cael ei chynnig - gweriniaeth lle byddai'r Arlywydd yn cael ei ddewis gan wleidyddion yn hytrach na'r bobol.
Mae gweriniaethwyr Awstralia wedi dysgu'r wers. Pan ddaw refferendwm arall, ac mae'n saff o ddod, ar yr egwyddor y bydd y bleidlais gyda'r manylion i'w trafod ar ôl sicrhau pleidlais 'ie'.
Bychan ond gweithgar yw'r mudiad gwerinaethol ym Mhrydain. Mae cryn swmp i'w dadleuon yn enwedig y rheiny ynghylch y grymoedd mae hawliau'r Goron yn gosod yn nwylo'r Prif Weinidog. Serch hynny go brin y gwelwn ni unrhyw newid tra bod Elisabeth o Windsor yn teyrnasu ac yn y tymor byr mae 'na un ddadl gref dros gadw'r Frenhiniaeth.
Wrth i'r Alban ystyried ei dyfodol cyfansoddiadol mae bodolaeth y Goron yn fodd i iro'r broses gyfansoddiadol trwy gynnig rhyw fath o gysylltiad rhwng yr Alban fel gwlad annibynnol ac aelodau eraill y cyn-undeb. Hynny yw, gallai bodolaeth Undeb Coronau 1603 gwneud hi'n haws i gladdu Undeb 1707. Yn sicr dyna fel mae Alec Salmond yn gweld pethau,
SylwadauAnfon sylw
Eithaf tebyg i'r Iwerddon felly (neu'r "Irish Free State")- cadw'r Brenin fel Pennaeth am degawd neu ddau, yna cael Arlywydd. Mae'n od sut mae rhai yn gweld brenhiniaeth yn rhywbeth rhamantaidd ac eisiau eu cadw.
Wn i ddim pam nad es rhyw frenhinhwr hirben yn Awstralia wedi cynnig fod Harry'n dod yn Frenin Awstralia?
Byddai'n cadw pawb ond y gweriniaethwr mwyaf egwyddorol yn hapus ... a beth arall sydd gan Harry i'w wneud t'beth? Bod yn ail fiolin am weddill ei fywyd?
Bychan yw'r mudiad gweriniaethol yn Seland Newydd hefyd.
Mae llawer o'r Pakeha (pobl nad ydynt yn Faori) yn dal i deimlo ymlyniad agos â Phrydain: yn wahanol i Awstralia, prin iawn yw'r Pakea sydd â'u teulu wedi bod yn Seland Newydd ers 4-5 cenhedlaeth neu ragor. Felly mae llawer ohonyn nhw naill ai wedi'u geni ym Mhrydain, neu â'u rhieni neu'u neiniau/teidiau wedi'u geni ym Mhrydain. Ac roeddwn i'n cael y teimlad bod llawer ohonyn nhw'n dal i edrych ar Brydain fel y famwlad, yn debyg i'r modd mae disgynyddion y Cymry ym Mhatagonia yn edrych ar Gymru, efallai (nid mod i'n gwybod llawer am Batagonia). Siaradais gydag un fenyw o Seland Newydd oedd ypset iawn - bron yn ei dagrau - wrth egluro ei bod hi wedi gorfod dod i mewn i Brydain drwy'r gât 'Arall' yn hytrach na thrwy gât 'Dinaysyddion y DU', a hynny er bod ei thad-cu wedi'i eni yno!
Y syndod mwya i mi, cyn dod i ddeall yn well, oedd bod y Maori (gan gyffredinoli) hyd yn oed yn gryfach eu teyrngarwch i Frenhiniaeth Lloegr na'r Pakeha. Y rheswm yw bod Cytundeb Waitangi (1840), er y gwrthwynebiad sydd wedi bod i hwnnw a'r anhegwch yn ei gylch (roedd y fersiwn Saesneg a'r fersiwn Maori yn wahanol - canu cloch?!), yn gytundeb uniongyrchol rhwng y Maori a'r Goron, nid rhwng y Maori ag unrhyw Brydeinwyr penodol na hyd yn oed rhwng y Maori a Pakeha Seland Newydd.
Nawr, er bod llawer o'r Maori yn teimlo'n ddig ynghylch anhegwch y Cytundeb, mae'n dal i olygu bod gan y Maori rai hawliau penodol, ar ddarnau o dir a mor, ac ati. Gyda'r Maori yn y lleiafrif yn Seland Newydd (tua 15%), mae'n bosib gweld pam y byddai'r Maori yn dewis glynu wrth y Goron, ac felly wrth hanfodion y Cytundeb. Oherwydd heb Frenin neu Frenhines Lloegr yn bennaeth ar y wladwriaeth, byddai'r cytundeb yn agored i gael ei addasu, eu wanychu ac, yn y pen draw, ei ddiddymu gan ba bynnag blaid sy'n digwydd llywodraethu yn Seland Newydd ar y pryd.
Fel disclaimer, dwi ddim yn arbenigwr ar gyfansoddiad, hanes a gwleidyddiaeth Seland Newydd - argraffiadau personol yw'r rhain!