Dan Lach Leighton
Digwyddodd rhywbeth anarferol braidd ddoe. Nid son am ddathliadau Gŵyl Ddewi ydw i yn fan hyn ond rhyw nam wnaeth ladd y rhyngrwyd am gyfnod o rai oriau mewn canolfannau ar hyd a lled y ´óÏó´«Ã½.
Dim ond o'i golli mae ei werthfawrogi meddai nhw ac roedd bod heb gysylltiad â'r we yn fodd i sylweddoli cymaint y mae dyn yn dibynnu arni'r dyddiau hyn.
Mae'r pwyslais y mae newydd y Llywodraeth yn gosod ar dechnoleg newydd yn debyg o gael croeso felly, ac ar y cyfan mae'r ymateb i'r ddogfen wedi bod yn bositif.
Dydw i ddim am fynd ar ôl cynnwys y strategaeth yn fan hyn. Yn hytrach rwyf am wneud pwynt neu ddau ynghylch yr hyn mae Leighton Andrews yn dweud yn ei ragair - pwyntiau y byswn i wedi gwneud ddoe pe bai modd i mi wneud!
Fel mae'n digwydd roedd y rhagair eisoes wedi ymddangos fel erthygl yn y Western Mail rai wythnosau yn ôl ac mae 'na ambell i beth ynddi sy'n hynod ddiddorol.
Y peth cyntaf sy'n sefyll mas yw pwyslais y Gweinidog ar y ffaith mai adeiladu ar strategaethau a pholisïau Llywodraeth 'Cymru'n Un' y mae'r cynllun - llywodraeth lle'r oedd y portffolio iaith yn nwylo Plaid Cymru. Mae e hyd yn oed yn dewis enwi ei ragflaenydd Alun Ffred Jones a diolch iddo am ei waith.
Pam gwneud hynny?
Mae Leighton yn cynnig un ateb i'r cwestiwn hwnnw ei hun trwy son am bwysigrwydd parhau a chonsensws gwleidyddol ynghylch yr iaith ond mae 'na ffactor arall posib, dybiwn i. Ystyriwch y paragraff yma o'r rhagair.
"Rhaid i ni fod yn uchelgeisiol; i fyny bo'r nod. Ni allwn adael dyfodol yr iaith yn nwylo'r sefydliadau hynny sydd eisoes wedi ennill eu plwyf ac sydd wedi datblygu diwydiant ar sail eu hanghenion cyfyng eu hunain yn ystod y blynyddoedd diwethaf. "
Cyfeirio at y cyfryngau newydd mae'r sylw - ond mae'n nodweddu steil gwleidyddol y Gweinidog Addysg. Mae hwn yn ddyn sy ddim yn ofni herio sefydliadau a'u gorfodi i newid. Cewch dystiolaeth o hynny gan ambell i Is-ganghellor Prifysgol!
Dyw'r strategaeth ddim yn mynd i fanylion ynghylch pa sefydliadau y mae'r gweinidog yn bwriadu eu herio.
Mae'n rhoi slapad i S4C fel 'sefydliad sy'n perthyn i'r oes cyn datganoli o ran ei feddylfryd' ond yn mynegi hyder y bydd arweinwyr newydd S4C yn ymateb i'r pryderon hyn. Nid S4C yw'r targed felly.
Mae'n hysbys bod 'na ddim llawer o Gymraeg rhwng Leighton a'r Bwrdd Iaith ond mae hwnnw yn e i ddyddiau olaf. Nid y Bwrdd sydd dan sylw.
Pwy all ddisgwyl fod dan lach Leighton felly?
Fe gawn weld - ond rwy'n synhwyro ei fod yn teimlo y byddai cael cefnogaeth Plaid Cymru yn y brwydrau o'i flaen yn ddefnyddiol.
SylwadauAnfon sylw
Y Steddfod, efallai?? Mae'r Gweinidog eisoes wedi gwneud sylwadau digon heriol am yr angen i'r Steddfod brofi ei gwerth.
The National Eisteddfod of Wales could become bi/ or multilingual to reflect the reality of cultural wales, this is something Leighton Andrews could facilitate by virtue of the WAG contributions.