´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

I'r pant...

Vaughan Roderick | 13:57, Dydd Mercher, 14 Mawrth 2012

Mae ffigyrau GDP Eurostat yn fel ar fysedd newyddiadurwyr Cymru gan roi cyfle blynyddol i gymharu cyflwr economi Cymru a gweddill yr Undeb Ewropeaidd. Pwy allai wrthsefyll y temtasiwn i ysgrifennu pennawd fel un y Western Mail bore ma -"Two Thirds of Wales poorer than Romania reveal new GDP figures"?

Fel y Western Mail ar y cymariaethau a rhannau o ddwyrain Ewrop a dirywiad cyson y mesur yma o'r economi Gymreig y gwnes i ganolbwyntio wrth ohebu ynghylch yr ystadegau ddoe.

Nid dyna oedd yr unig ongl bosib. Dyma i chi un arall. Beth am weld beth sydd gan yr ystadegau i ddweud ynghylch anghyfartaledd rhwng gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig?

Yn ôl Eurostat roedd GDP Cymru yn 2009 yn 79.8% o gyfartaledd yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r ffigwr yna'n gostwng i 68.4% y Gorllewin a'r Cymoedd, y parth economaidd, artiffisial braidd, sy'n derbyn cymorth arbennig i'r Undeb Ewropeaidd.

Mae'r sefyllfa yn wahanol iawn mewn rhannau eraill o Brydain. Yn wir mae tri rhanbarth o Brydan ymhlith yr ugain mwyaf cyfoethog o fewn yr Undeb.

O ganlyniad i'r diwydiant olew a nwy gogledd ddwyrain yr Alban yw un o'r rheiny. Fe fydd neb yn synnu o wybod bod Swydd Rhydychen Berkshire a Buckinghamshire yn un arall.
Y cyfoethocaf ohonyn nhw i gyd yw canol Llundain - y rhanbarth fwyaf cyfoethog yn yr Undeb gyfan, lle'r oedd y GDP y pen yn 332% o'r cyfartaledd. I roi'r peth yn y ffordd fwyaf syml posib mae gwerth economaidd unigolion yng nghanol Llundain pedair gwaith yn fwy nac unigolion yng Nghymru.

Y ffaith syml ac ysgytwol yw hyn. Mae'r gwahaniaeth mewn cyfoeth rhwng rhanbarth tlotaf Prydain sef Gorllewin Cymru a'r Cymoedd a'r cyfoethogaf sef Canol Llundain yn fwy o beth wmbreth na'r ffigyrau cyffelyb mewn unrhyw wlad arall yn yr Undeb.

Llai na chwater canrif ar ôl cwymp wal Berlin yn 1989 78% o wahaniaeth sydd na rhwng maint economi'r rhanbarth tlotaf yr hen Almaen ddwyreiniol a'r fwyaf cyfoethog yn yr hen orllewin. Wyth gan mlynedd ar ôl uno Cymru a Lloegr mae'r gwahaniaeth mewn cyfoeth rhwng Gorllewin Cymru a'r Cymoedd a chanol Llundain yn 250%!

Os 'oes 'na gwestiwn felly ynghylch methiant yr Undeb Ewropeaidd i sicrhau cyfartaledd economaidd rhwng rhanbarthau'r Undeb onid oes 'na gwestiwn hyd yn oed yn fwy ynghylch parodrwydd llywodraethau'r Deyrnas Unedig i ganiatáu'r fath anghyfartaledd?

I'r pant y rhed y dŵr meddai nhw a diddorol oedd gweld y yn y papurau'r bore 'ma.

Caniatawyd i newyddiadurwyr gael cipolwg ar ffrwyth cynllun gwerth £550 miliwn i foderneiddio gorsaf King's Cross. Fel y gellid disgwyl ar ôl gwario cymaint mae'r lle'n ysblennydd ac mae'n sicr y bydd y 27 miliwn o deithwyr sy'n defnyddio'r orsaf bob blwyddyn yn gwerthfawrogi'r trawsnewid.

Mae rhyw bymtheg miliwn o deithwyr yn defnyddio'r ddwy orsaf yng nghanol Caerdydd bob blwyddyn. Fe fyddai'r rheiny mae'n debyg yn gwerthfawrogi gwell cyfleusterau hefyd.

I fod yn deg mae gan Network Rail gynlluniau i'w gwella. Cewch eu gweld yn . Teg yw dweud eu bod ychydig yn llai uchelgeisiol na chynllun King's Cross!

Fel y dywedais i yn y deyrnas hon i'r pant y rhed y dŵr - neu i'r de-ddwyrain y rhed y pres!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:12 ar 15 Mawrth 2012, ysgrifennodd Lembo Salw:

    Diolch am hwn. Pwysig iawn.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.