´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ar chwâl

Vaughan Roderick | 10:54, Dydd Mercher, 22 Awst 2012

Efallai eich bod chi wedi synhwyro erbyn hyn fy mod i'n bersonsy'n hoff o ffeithiau bach diddorol hyd yn oed os nad ydyn hwn na o unrhyw ddefnydd o gwbwl!

Dyma i chi enghraifft fach. Cyn Deddf Pleidiau, Etholiadau a Refferenda 2000 doedd y Blaid Geidwadol ddim yn bodoli fel endid cyfreithiol.

Roedd bob un Gymdeithas Geidwadol leol yn endid annibynnol oedd yn cydweithio a'i gilydd trwy'r "Undeb Cenedlaethol". Cynhadledd yr Undeb neu'r "blaid wirfoddol", i ddefnyddio geirfa'r Torïaid, oedd yn cael ei chynnal bob hydref.

Doedd ganddi hi ddim hawl i wneud unrhyw beth ac eithrio datgan ambell i farn. Gwaith yr Aelodau Seneddol oedd llunio polisïau a nhw oedd dewis yr arweinydd hefyd. Yn gyfreithiol swyddfa breifat yr arweinydd oedd pencadlys y blaid yn Smith Square.

Fe newidiwyd pethau rhywfaint ar ôl sefydlu'r Comisiwn Etholiadol ond dim cymaint â hynny. Fel y cyfansoddiad Prydeinig mae cyfansoddiad y Torïaid yn rhyw gymysgedd o reolau ysgrifenedig, cynseiliau a thraddodiadau. Mae'r cymdeithasau lleol o hyd yn endidau annibynnol a nhw ynghyd a'r clybiau sy'n berchen ar drwch eiddo ac asedau'r blaid.

Mae addasu'r drefniadaeth leol i gymryd newidiadau ffiniau i ystyriaeth yn llawer mwy cymhleth i'r Ceidwadwyr nac yw hi i'r pleidiau eraill felly. Rhaid mynd trwy broses gyfreithiol ar gyfer pob cymdeithas unigol - proses sy'n gallu cynnwys trafodaethau manwl ynghylch rhannu eiddo gwerth cannoedd o filoedd neu hyd oed miliynau o bunnau.

Am y rheswm hynny dydw i ddim yn credu y gall David Cameron fforddio oedi rhyw lawer cyn cyrraedd penderfyniad ynghylch y ffrae gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol ynglŷn â'r ffiniau newydd. Mae'r cloc yn tician. Tic. Toc.

Mae 'na broblem arall gan y Prif Weinidog sef cyflwr rhai o'r cymdeithasau lleol. Wrth i aelodau'r blaid fynd at yr Iôr neu at UKIP mae sylfaeni'r blaid yn gwegian.

Ar ei hanterth drigain myned yn ôl roedd gan y cymdeithasau lleol bron i dair miliwn o aelodau. Pan etholwyd David Cameron yn arweinydd saith mlynedd yn ôl roedd y ffigwr eisoes wedi gostwng i 300,000. 177,000 oedd y ffigwr swyddogol ddiwethaf ac yn ôl y newyddiadurwr, , sydd a'i glust y agos at y ddaear 130,000 yw'r ffigwr erbyn hyn.

Faint o'r rheiny sydd yng Nghymru? Ar sail poblogaeth rhyw 7,000 fyddai'r ffigwr ond yn sicr mae'n is 'na hynny. Fe fyswn i'n synnu pe bai hi'n fwy na rhyw bedair neu bum mil.

Yr wythnos ddiwethaf ysgrifennodd @TobyMason´óÏó´«Ã½ ynghylch y rhyfel cartref rhwng Aelodau Cynulliad y blaid a Swyddfa Cymru a'r Aelodau Seneddol Cymreig. Ai dau benfoelyn yn ymladd dros grib yw'r frwydr honno? Mae'n ymddangos felly weithiau.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:28 ar 22 Awst 2012, ysgrifennodd Blogmenai:

    Wel, roedd yn arwyddocaol na chafwyd manylion llawn am y bleidlais yn etholiad arweinyddol y Totiaid yng Nghymru - dim ond y ganran y cafodd y ddau ymgeisydd a'r ganran a bleidleisiodd.

    Dydi Llafur yng Nghymru na'r Lib Dems Cymreig yn awyddus i ni wybod faint o aelodau sydd ganddynt chwaith. Tybed pam?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.