Tenant Newydd TÅ· Gwydyr
Daeth tro ar fyd felly ac am y tro cyntaf ers 1987 mae gennym Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol sy'n cynrychioli etholaeth Gymreig yn NhÅ·'r Cyffredin.
Er iddo gael ei eni yn Llundain yn Rhosllannerchrugog y cafodd David Jones ei fagu - dyna mae'n debyg sy'n gyfrifol am yr hynny o Gymraeg sydd ganddo - er go brin mai Rhos sy'n gyfrifol am ei acen Saesneg!
Mae gen i sbeis ym mhobman ac yn ôl un o gyfoedion David o Rhos roedd ei dad, y fferyllydd lleol, yn ddyn hynod boblogaidd yn y pentref. Llai felly ei fab.
Rwyf wedi ysgrifennu o'r blaen am y tensiynau rhwng David a rhai o aelodau Ceidwadol y Cynulliad. Mewn sgwrs breifat ddoe dywedodd un o'r rheiny y byddai penodi aelod Gorllewin Clwyd yn Ysgrifennydd Cymru yn "drychineb i'r blaid". Mae eraill yn fwy diplomatic ond teg yw credu nad yw'r champagne yn llifo ar drydydd llawr TÅ· Hywel y prynhawn yma.
Pam mae'r tensiynau hynny'n bodoli? Wel, mae David yn gallu bod yn gymeriad pigog ond mae 'na fwy i'r peth na hynny. Mae rhai o'i gyd-Geidwadwyr o'r farn nad yw'r Ysgrifennydd Gwladol newydd wedi llwyr gofleidio datganoli. Yn sicr, yn ystod ei gyfnod byr fel Aelod Cynulliad rhwng 2002 a 2003 doedd hi ddim yn ymddangos ei fod yn hoff iawn o fywyd gwleidyddol y Bae na bod ganddo llawer o barch at yr egin Gynulliad.
Yn ei datganiad yn ymateb i'r penodiad tynnodd Llafur sylw at y ffaith bod David yn gyn-aelod o grŵp o Aelodau Seneddol o'r enw "Cornerstone". Disgrifiad y grŵp hwnnw o'r Cynulliad a Senedd yr Alban oedd "disgracefully wasteful talking-shops" a galwodd am refferendwm Prydain gyfan i ddiddymu'r sefydliadau datganoledig.
Dyw bod yn aelod o grŵp ddim yn golygu eich bod yn cefnogi pob un o'i safbwyntiau wrth reswm ond mae 'na ddigon yng nghefndir yr Ysgrifennydd Gwladol newydd i godi amheuon ymhlith y rheiny sydd eisoes yn amheus.
Ond mae 'na rywbeth dyfnach yn mynd ymlaen rwy'n meddwl. Teg yw nodi bod nifer o'r Ceidwadwyr sy'n amheus ynghylch penodiad David Jones hefyd yn grwgnach ynghylch arweinyddiaeth Andrew RT Davies yn y Cynulliad.
Yn y bôn mae'r aelodau hyn yn ofni bod Ceidwadwyr Cymru yn dawnsio wrth ymyl y dibyn a bod angen gwleidydd o sylwedd, boed hwnnw yng Nghaerdydd neu San Steffan, i osod cyfeiriad pendant ac adeiladol i'r blaid. Eu hofn mwyaf yw y gallai Ceidwadwyr Cymru ddioddef trychineb fel un 1997 yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf a chyda dwy ran o dair o'r aelodau wedi diflannu ers hynny na fyddai modd brwydro yn ôl yr eildro.