´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth

Archifau Hydref 2012

A Dyma'r Newyddion...

Vaughan Roderick | 09:50, Dydd Mercher, 31 Hydref 2012

Sylwadau (1)

Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl croesawodd Owen Edwards wylwyr Cymru i'w gwasanaeth teledu newydd, S4C, gwasanaeth oedd wedi ei sefydlu ar ôl hir ymdrech ac aberth.

Yn syth ar ôl y rhaglen gyfarch darlledwyd rhaglen newyddion gyntaf y sianel. Gwyn Llywelyn a Beti George oedd yn cyflwyno a fi oedd y gohebydd cyntaf i ymddangos gan adrodd stori ynghylch damwain bws yng Ngwent lle'r oedd dwy ferch ysgol wedi eu lladd.

Menna Richards, Alun Lenny, Marian Wyn Jones, Dewi Llwyd a minnau oedd y tîm gohebu gwreiddiol. Roedd y tîm hwnnw wedi ei roi at ei gilydd ar dipyn o fyr rybudd. Tan yn gymharol hwyr yn y dydd y gred gyffredinol oedd mai HTV fyddai'n darparu newyddion S4C. Os cofiaf yn iawn anghytundeb ynghylch hawl HTV i ddefnyddio lluniau ITN wnaeth ddryllio cynlluniau'r cwmni.

Nid fy lle i yw beirniadu safon y gwasanaeth ar hyd y blynyddoedd. Gwell yw gadael hynny i eraill.

Y cyfan ddywedaf i yw hyn. Ar hyd y blynyddoedd mae newyddiadurwyr ´óÏó´«Ã½ Cymru wedi gweithio'n galed ar y ffas lo i geisio cynhyrchu rhaglen oedd yn adlewyrchu ein cenedl.
Bu sawl camgymeriad ar hyd y blynyddoedd gyda rhai straeon yn cael eu colli ac eraill yn cael eu dyrchafu yn uwch na'u gwerth. Camgymeriadau gonest oedd y rheiny - doedd 'na a does 'na ddim 'agenda'.

Gyda Dewi yn symud i'r Post Prynhawn yn y flwyddyn newydd fi fydd yr olaf o'r tîm gwreiddiol. Dydw i ddim yn mynd i'r unlle ond hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'n nghydweithwyr ar hyd y degawdau ac i ddiolch am y fraint o allu bod yn rhan o sgwennu "drafft cyntaf" hanes y genedl fach hon dros y ddeng mlynedd ar hugain diwethaf.

Minnau a osodais fy Mrenin ar Seion

Vaughan Roderick | 11:43, Dydd Mawrth, 30 Hydref 2012

Sylwadau (1)

Mae stormydd yr Unol Daleithiau wedi rhoi stop am y tro ar y rhan fwyaf o'r ymgyrchu cyhoeddus yn etholiadau arlywyddol y wlad honno. Mae hynny'n rhoi cyfle i mi nodi un ffaith fach ddiddorol ynghylch etholiad eleni a chrybwyll darn bach o hanes Cymru sydd wedi mynd yn angof bron - a hynny o fwriad.

Hwn yw'r etholiad cyntaf yn hanner yr Unol Daleithiau lle nad oes un o'r ymgeiswyr ar gyfer yr arlywyddiaeth neu'r is-arlywyddiaeth yn ddyn gwyn Protestannaidd - dosbarth llywodraethol traddodiadol America. Mae Joe Biden a Paul Ryan yn Gatholigion, Barack Obama yn ddu a Mitt Romney yn Formon. Mae hynny yn adrodd cyfrolau am newid demograffig gwlad lle mae'r canran o Brotestaniaid wedi gostwng o 53% i 46% yn ystod y pum mlynedd diwethaf a lle mae cyfanswm y 'lleiafrifoedd' ethnig ar fin troi'n fwyafrif.

Nid bod hynny'n golygu nad yw rhagfarn hiliol a chrefyddol yn ffactor ym mywyd yr Unol Daleithiau. Mewn cyfaddefodd dros hanner y rhai a holwyd bod ganddyn nhw "deimladau negyddol" tuag at bobol ddu. Efallai nad yw'n syndod felly mai ymhlith dynion gwyn y mae'r gefnogaeth gryfaf i Mitt Romney a phleidleiswyr du yw'r rhai mwyaf pybyr dros Barack Obama.

Ond os oes 'na rai sy'n gwrthwynebu Obama ar sail ei groen mae 'na eraill yn gwrthwynebu Romney ar sail ei grefydd. Nawr, mae Mormoniaeth gyda'i thrydydd testament yn gallu ymddangos yn gred rhyfedd ar y naw i'r rheiny a fagwyd yn ein traddodiad Cristnogol ni. Anodd yw credu bod yr Iesu wedi ymweld ag America ar ôl yr atgyfodiad ac mae ym Missouri yr oedd Gardd Eden!

Yr hyn sy'n syndod efallai yw bod 'na gyfnod yn ein hanes pan oedd Mormoniaeth yn cynnig her go iawn i'r enwadau anghydffurfiol Cymreig.

Os oes gennych chi awr neu ddwy i ymweld â'r Llyfrgell Genedlaethol mae'n werth pori trwy "Prophwyd y Jiwbili" ac "Udgorn Seion" cyfnodolion Mormoniaid Cymru er mwyn ddarllen hanes rhyfedd Diwygiad Mormonaidd y 1850au. Sefydlwyd dwsinau o achosion a denwyd miloedd at y ffydd gan bregethwyr tanbaid yn addo mynediad i'r Caersalem newydd.

Mae papurau'r enwadau traddodiadol o'r cyfnod yn llawn o ymosodiadau ffyrnig yn cyhuddo'r Mormoniaid o bob math o gabledd ac anonestrwydd. Y cyhuddiad mwyaf cyffredin yn eu herbyn oedd eu bod yn llosgi ffosfforws yn eu cyfarfodydd gan fynnu ei fod yn brawf o bresenoldeb yr ysbryd glan.

Mewn gwirionedd doedd dim rhaid i'r capeli boeni. Roedd y Mormoniaid Cymreig a'u bryd ar fynd i "Seion Newydd" y gorllewin gwyllt sef Utah y dalaith a sefydlwyd gan yr Eglwys. Fe aethon nhw yn eu niferoedd a hyd heddiw mae oddeutu ugain y cant o bologaeth Utah o dras Gymreig - mae'n debyg mai hwnnw yw'r canran uchaf o unryw dalaith yn yr Unol Daleithiau.

Mae hanes Mormoniaid Cymru a'u harwr mawr y Capten Dan Jones yn adnabyddus iawn yn Utah ond bron yn angof yng Nghymru. Y rheswm am hynny mae'n debyg oedd bod mawrion Anghydffurfiaeth oes Fictoria am gelu unrhyw hanes a fyddai'n dyst i'r darlun o'r Cymry fel cenedl ofergoelus a di-foes a gyflwynwyd yn y Llyfrau Gleision.

Does dim rheswm i ni heddiw anwybyddi stori fach ddifyr iawn o'r gorffennol. Mae 'na fwy na phicau ar y maen Ann Romney yn cysylltu'r Mormoniaid a Chymru!

Yfwn ni ddwsin o foteli....

Vaughan Roderick | 10:46, Dydd Mawrth, 23 Hydref 2012

Sylwadau (3)

Mae'n swyddfa ni yma ym Mae Caerdydd wedi ei lleoli yn etholaeth De Caerdydd a Phenarth lle mae isetholiad seneddol i'w gynnal ymhen llai 'na mis. Rwy'n gyrru trwy'r etholaeth dwywaith bob dydd a theg yw dweud mai prin yw'r arwyddion bod 'na etholiad ar fin digwydd. Rwy'n bod yn garedig trwy ddefnyddio'r gair 'prin'!

Newydd gael ei alw'n swyddogol mae'r etholiad seneddol wrth gwrs. Nid felly'r etholiadau i ddewis Comisiynwyr yr Heddlu a does 'na nemor ddim arwydd o'r rheiny chwaith - naill ai yn Ne Caerdydd a Phenarth nac yn unrhyw le arall yr wyf wedi gweld yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Oes 'na gynsail i hyn? Oes 'na bleidlais genedlaethol wedi ei chynnal erioed lle mae cyn lleied o ymgyrchu i weld ar lawr gwlad? Oes!

Yn ôl yn 1881 fe enillodd anghydffurfwyr Cymru un o'u buddugoliaethau gwleidyddol mwyaf trwy sicrhau deddfwriaeth i gau tafarnau'r wlad ar y Sul. Dyw e ddim yn gwbwl wir i honni, fel mae rhai yn gwneud, mai hon oedd y ddeddf gyntaf ers y deddfau uno i drin Cymru fel gwlad ar wahân i Loegr ond roedd hi'n garreg filltir bwysig yn natblygiad cyfansoddiadol Cymru.

Fe barodd y Suliau sych tan 1961 pan roddwyd y cyfle i etholwyr bleidleisio fesul sir ynghylch agor tafarnau ar y Sabath. Y pleidleisiau hynny ynghyd a'r "option polls" yn yr Alban oedd yn caniatáu i gymunedau wahardd alcohol yn gyfan gwbwl oedd yr esiamplau cynharaf o refferenda yn y Deyrnas Unedig.

O dan y drefn newydd roedd y naill ochor neu'r llall yn cael gorfodi pleidlais trwy ddeiseb bob saith mlynedd. Yn ddieithriad fe fyddai plaid y dafarn yn gorfodi pleidlais mewn ardal 'sych'. Tueddu rhoi mewn gwna plaid y capel ar ôl i ardal droi'n 'wlyb'.

Dwyfor oedd caer fechan olaf y dirwestyr i gwympo. Fe ddigwyddodd hynny gydag ad-drefnu llywodraeth leol yn y nawdegau ac fe ddiddymwyd y ddeddfwriaeth yn gyfan gwbwl yn 2003.

Am y deugain mlynedd y parodd y gyfundrefn digon isel oedd y canran oedd yn pleidleisio. Hyd yn oed mewn ardaloedd lle'r oedd y bleidlais yn gystadleuol dim ond mewn tafarndai a chapeli yr oedd deunydd ymgyrchu'r ddwy ochor i'w ganfod. Mae gen i gof bod y nifer oedd yn troi mas i bleidleisio yn llai na deg y cant o'r etholwyr mewn ambell i ardal.

Er cymaint yr hysbysebu gan y Comisiwn Etholiadol ac ymdrechion darlledwyr cyhoeddus rwy'n rhyw amau y gallasai'r un fath o sefyllfa godi yn etholiadau'r Comisiynwyr Heddlu. Dyw eu cynnal ym mis Tachwedd ddim yn debyg o helpu.

Mae'n bosib bod y broblem yn deillio o'r ffaith mai hwn yw'r tro cyntaf i etholiad o'r fath gael ei gynnal ac y bydd diddordeb y cyhoedd yn cynyddu wrth i'r gyfundrefn aeddfedu.

Serch hynny os ydy'r nifer sy'n pleidleisio yn isel fe fydd cwestiynau'r codi ynghylch mandad unrhyw gomisiynydd i gyflwyno newidiadau radicalaidd neu amhoblogaidd i'r ffordd y mae ardal yn cael ei phismona.

Wenglish San Steffan

Vaughan Roderick | 10:37, Dydd Iau, 18 Hydref 2012

Sylwadau (2)

Mae statws neu ddiffyg statws y Gymraeg yn Senedd y Deyrnas Unedig braidd yn aneglur.

Ar un adeg y Saesneg a Ffrangeg Normanaidd oedd yr unig ieithoedd oedd yn cael eu caniatáu yn nhrafodaethau'r palas. Mae pethau wedi newid rhiwfaint ar hyd y degawdau. Erbyn hyn mae aelodau'n cael tyngu eu llw yn y Gymraeg a gellir cyflwyno tystiolaeth i'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig trwy gyfrwng yr iaith.

Yn y Siambr ac yn yr Uwchbwyllgor Cymreig mae'r cyfan yn dibynnu ar oddefgarwch pwy bynnag sydd yn y gadair. Ar y cyfan caniateir ychydig o Gymraeg os ydy'r siaradwr yn cyfieithu ei eiriau ei hun. Mae hynny'n gallu esgor ar ambell i sesiwn braidd yn rhyfedd fel yr un yma yn ystod cwestiynau Cymraeg ddoe.

"Kevin Brennan: I congratulate the Secretary of State and his hon. Friend the Minister--llongyfarchiadau, as we say in Wales...

Mr Jones: As we say in Wales, diolch am y llongyfarchiadau...

David T. C. Davies (Monmouth) (Con): Would both Ministers, whom I warmly congratulate, agree with me that parch, as we say in Monmouthshire, is something that works in both directions...

Mr Jones: The word "parch" means respect and I agree that parch is a process that works in two directions."

Roedd y cyfan yn dipyn o sbort i'r Aelodau Seneddol ond ar adeg pan mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystyried herio Mesur Ieithoedd Swyddogol sy'n cadarnhau statws y Gymraeg yn y Cynulliad onid yw hi'n bryd i "Senedd arall Cymru" edrych ar ei rheolau ei hun?

Oni ddylai adroddiadau'r Pwyllgor Dethol gael eu cyhoeddi'n ddwyieithog? Pam y mae adrannau esboniadol ac addysgiadol gwefan y Senedd yn Saesneg yn unig? Pam nad oes 'na gyfieithu ar y pryd ar gael yn sesiynau'r Uwch-bwyllgor Cymreig?

Cwestiynau i'r Senedd yw'r rheiny. Wrth i'r Twrne Cyffredinol ystyried p'un ai i herio'r Mesur Ieithoedd swyddogol yn yr Goruchaf Lys ai peidio dyma gwestiwn iddo fe o Efengyl Mathew.

"Paham yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun?"

Mwynder Maldwyn

Vaughan Roderick | 15:09, Dydd Mercher, 17 Hydref 2012

Sylwadau (0)

Os ydy'r glymblaid yn para mae'r senedd bresennol yn San Steffan mwy neu lai hanner ffordd trwy ei hoes ac yn draddodiadol dyma'r cyfnod pan mae newyddiadurwyr a gwleidyddion yn dechrau dyfalu pa aelodau seneddol fydd yn rhoi'r gorau iddi yn yr etholiad nesaf.

A fydd yr hen stejars Llafur Ann Clwyd a Paul Flynn yn sefyll eto? Byswn i ddim yn betio yn erbyn hynny. Dyw'r naill na'r llall wedi colli mymryn o'u hawch gwleidyddol.

Roedd 'na farc cwestiwn hefyd ynghylch Glyn Davies, oedd eisoes wedi cyrraedd oed pensiwn pan gipiodd Maldwyn yn 2010. Fe atebwyd y cwestiwn hwnnw heddiw pan gyrhaeddodd e-bost yn datgan bod Glyn yn bwriadu sefyll yn yr etholiad nesaf - a hynny ar ôl i'r Gymdeithas Geidwadol leol benderfynu 'gweithredu ar y sail y bydd etholaeth Maldwyn yn bodoli yn etholiad nesaf'.

Dyna i chi arwydd bendant bod y Torïaid ar lawr gwlad yn dechrau derbyn na fydd na newid ffiniau cyn yr etholiad nesaf er bod eu harweinwyr yn San Steffan yn mynnu y gallasai hynny ddigwydd er gwaethaf penderfyniad y Democratiaid Rhyddfrydol i bleidleisio yn erbyn y gorchymyn seneddol angenrheidiol.

Yn wyneb hynny does dim dewis gan y comisiynau ffiniau ond parhau a'r gwaith o lunio ffiniau newydd. Wythnos nesaf fe fydd Comisiwn Cymru yn cyhoeddi eu hargymhellion diweddaraf ar gyfer y deg ar hugain o etholaethau newydd a fyddai gan Gymru pe bai'r newidiadau'n digwydd.

Does bron neb, gan gynnwys Ceidwadwyr Maldwyn, yn disgwyl gweld y rheiny yn cael eu defnyddio yn 2015. Gallen nhw ddod i rym yn yr etholiad wedi hynny os ydy'r Ceidwadwyr yn arwain y Llywodraeth nesaf. Mae'n deg broffwydo mai i ebargofiant y byddai'r cynlluniau'n mynd os oedd 'na lywodraeth Lafur.

Roedd 'na gyfnod pan oedd gwleidyddion Prydain yn chwerthin ar ben 'gerrymanders' yr Americanwyr ond gyda maint a siâp ein hetholaethau bellach yn dibynnu ar ganlyniad etholiad pwy all ddweud nad yw oes y 'gerrymander' yn gwawrio yn y Deyrnas Unedig?

Y Cyfan o'n Cyfansoddiad

Vaughan Roderick | 11:07, Dydd Mawrth, 16 Hydref 2012

Sylwadau (2)

Roedd hi'n anorfod y byddai llywodraethau'r Deyrnas Unedig a'r Alban yn cyrraedd cytundeb ynghylch cynnal refferendwm yn yr Alban. Roedd Llywodraeth yr Alban yn dymuno cynnal un ac roedd Llywodraeth y DU eisoes wedi derbyn bod yn SNP wedi ennill yr hawl i wneud hynny. Fe fydd 'na bleidlais yn 2014 felly.

Mae'n werth nodi wrth fynd heibio mai prin iawn yw'r gwladwriaethau yn y byd a fyddai'n caniatáu i ddarn o'i thiriogaeth ymddwyn yn fath fodd. Ar hyn o bryd mae awdurdodau Sbaen yn rhwystro cynnal refferendwm o'r fath yng Nghatalwnia. Yn wir mae unrhyw ymdrech i rannu Sbaen yn groes i gyfansoddiad y wladwriaeth.Ydych chi'n gallu dychmygu Ffrainc yn caniatáu refferendwm ynghylch annibyniaeth i Lydaw? Na finnau chwaith. Fe ymladdodd yr Americanwyr eu rhyfel mwyaf gwaedlyd dros hawl taleithiau unigol i adael yr Undeb.

Roedd 'na adeg pan oedd gwleidyddion Prydain - neu nifer fawr ohonyn nhw yn credu felly. Does ond angen darllen hanes y gwahanol ymdrechion i sicrhau ymreolaeth i'r Iwerddon yn oes Fictoria i ddeall hynny. Datganoli nid annibyniaeth oedd ymreolaeth ond roedd hyd yn oed hynny'n wrthyn i nifer helaeth o'n gwleidyddion. Un Goron, un Senedd, un Genedl - dyna oedd hanfod y wladwriaeth Brydeinig yng ngolwg llawer.

Fe newidiodd yr agwedd honno yn araf bach ar hyd y degawdau. Ar ôl methiant ymreolaeth fe adawodd tri chwarter o'r Iwerddon yr Undeb yn gyfan gwbwl mewn amgylchiadau gwaedlyd. Yn ddiweddarach fel rhan o'r broses heddwch yng ngogledd yr ynys cytunwyd mai mater i drigolion y dalaith honno oedd eu dyfodol cyfansoddiadol. Yn yr Alban mewn proses wnaeth ddechrau gyda Datganiad Perth Edward Heath a gwnaeth ddiweddu gyda "Claim of Right" y Confensiwn Cyfansoddiadol ildiwyd yr un pwynt. Mae'n werth nodi'r hyn mae "Claim of Right" 1989 yn dweud.

"We, gathered as the Scottish Constitutional Convention, do hereby acknowledge the sovereign right of the Scottish people to determine the form of Government best suited to their needs, and do hereby declare and pledge that in all our actions and deliberations their interests shall be paramount."

Fel mae'n digwydd mae'r ddeddf wnaeth sefydlu Senedd yr Alban yn datgan mai mater i San Steffan yw cyfansoddiad y Deyrnas Unedig. Serch hynny does dim amheuaeth ym meddyliau'r mwyafrif o'n gwleidyddion mai datganiad y Confensiwn nid geiriau'r ddeddf sy'n adlewyrchu'r realiti cyfansoddiadol a gwleidyddol.

Mae hynny ond yn bosib oherwydd natur unigryw'r cyfansoddiad Prydeinig fel cyfansoddiad anysgrifenedig. Mae bron y cyfan wedi sgwennu lawr yn rywle wrth gwrs ond mae ffynonellau gwasgaredig ein cyfansoddiad yn golygu bod 'na elfen o "Pick and Mix" yn ein system wleidyddol nad yw'n bodoli mewn gwledydd sydd â chyfansoddiadau ysgrifenedig.

Yn ddiweddar mae ambell un , Carwyn Jones yn eu plith, wedi awgrymu y dylai'r Deyrnas Unedig fabwysiadu cyfansoddiad ysgrifenedig. Mae David Cameron ei hun wedi crybwyll y posibilrwydd o sefydlu Confensiwn Cyfansoddiadol ar ôl refferendwm yr Alban - beth bynnag yw canlyniad y bleidlais honno.

Mae 'na ddadleuon o blaid cyfansoddiad ysgrifenedig. Fe fyddai'n gorfod datgan yn glir beth oedd statws cyfansoddiadol Lloegr, gallai osod canllawiau cadarn ynghyn yr amodau lle mae angen refferendwm yn hytrach na gadael hynny i fympwy gwleidyddion, er enghraifft.

Serch hynny mae 'na beryglon mewn colli hyblygrwydd. Go brin y byddai'n bosib cyflwyno cyfansoddiad ysgrifenedig heb refferendwm ac ar hyn o bryd mae'n anodd gweld y dadleuon a fyddai'n argyhoeddi'r cyhoedd bod y system bresennol wedi ei thorri i'r fath raddau bod angen ei newid.

Wps!

Vaughan Roderick | 11:30, Dydd Iau, 11 Hydref 2012

Sylwadau (0)

Doeddwn i ddim yn dilyn trafodaethau'r siambr yn fanwl ddoe. Roedd gen i bethau eraill i wneud.

Mae'n ymddangos nad oedd aelodau Ceidwadol y Cynulliad yn talu rhyw lawer o sylw ychwaith. Sut arall mae esbonio'r ffaith eu bod wedi pleidleisio o blaid cynnig yn ymosod ar "flerwch Llywodraeth y Deyrnas Unedig"? Mae'r geiriad hyd yn oed yn gliriach yn Saesneg. Cyfeirio at "the UK Government's incompetence" oedd y cynnig yn yr iaith fain.

Rhan o gynnig gan Blaid Cymru ynghylch dyfodol y rheilffyrdd oedd y disgrifiad ac roedd yn cyfeirio at y smonach ddiweddar ynghylch trwydded prif lein arfordir y Gorllewin.

I fod yn deg roedd y cynnig yn un faith gyda nifer o welliannau. Efallai bod hynny wedi drysu'r Ceidwadwyr druan. Wedi'r cyfan roedd yr ymosodiad wedi ei gladdu yn ail linell cymal cyntaf y cynnig!

Diweddariad; Mae'r Ceidwadwyr newydd gysylltu i ddweud mai "camgymeriad chwipio" oedd y bleidlais. Fe fydd 'na chwip din i'r chwip dybiwn i!

Teulu'r Mans

Vaughan Roderick | 15:55, Dydd Mercher, 10 Hydref 2012

Sylwadau (2)

Y penwythnos nesaf fe fydd digwyddiad yn cael ei gynnal a fyddai mewn cyfnod arall yn cael ei gyfri'n un o bwys hanesyddol i Gymru. Mae'n arwydd o drai crefydd ym mywyd ein gwlad bod y stori wedi cael ychydig iawn o sylw y tu hwnt i furiau ein Capeli ac Eglwysi.

Y 'Cydgynulliad' yw enw'r digwyddiad ac yn ôl gwefan yr Eglwys Bresbyteraidd fe allai fod yn "drobwynt pwysig i Gristnogaeth Gymreig".

Cyfarfod o'r Eglwysi Cyfamodol yw'r Cydgynulliad. Mae'r rheiny yn cynnwys yr Anglicaniaid a'r rhan fwyaf o'r enwadau anghydffurfiol. Fe fydd yr Hen Gorff yno ynghyd â'r rhan fwyaf o'r Bedyddwyr, y Methodistiaid a'r Eglwys Rydd Diwygiedig. O'r enwadau mawrion traddodiadol dim ond yr Annibynnwr sy'n cadw draw.

I danlinellu pwysigrwydd y digwyddiad fe fydd Ysgrifennydd Cyngor Eglwysi'r Byd yn bresennol wrth i gyfres o gynlluniau gael eu cyhoeddi - cynlluniau sydd yn ôl y yn rhai "creadigol a beiddgar ar gyfer gweddnewid y sefyllfa eciwmenaidd yng Nghymru".

Yr hyn sydd dan sylw mae'n debyg yw cam enfawr tuag at gael gwared ar yr hollt rhwng y Capel a'r Llan tra'n diogelu gwahanol draddodiadau o fewn fframwaith Eglwysig newydd. O safbwynt hanes Cristnogaeth yng Nghymru gallai'r digwyddiad hwn gynrychioli'r newid mwyaf yn ein bywyd crefyddol ers dyddiau Hywel Harris a Daniel Rowland.

Yn gefndir i hyn oll wrth gwrs mae'r argyfwng sy'n wynebu'r Eglwysi o safbwynt eu haelodaeth, eu hadeiladau a'u hoffeiriadaeth.

O fewn cwta ganrif fe drodd Cymru o fod yn un o wledydd mwyaf crefyddol y byd i un o'r lleiaf. Yn 1905 roedd gan y Presbyteriaid 170,000 o bobol yn derbyn cymun yn fisol. Ganrif yn ddiweddarach yn 2005 180,00 oedd cyfanswm addolwyr rheolaidd ein holl Gapeli ac Eglwysi gyda'i gilydd. Mater o 'gilio i grynhoi ei mwy adfer' yw'r Cydgynulliad mewn gwirionedd felly.

Pam godi'r peth o gwbwl ar flog gwleidyddol? Mae 'na reswm!

I raddau helaeth iawn mae traddodiadau a rhaniadau crefyddol y genedl wedi dylanwadu ar ei thraddodiadau a rhaniadau gwleidyddol. Plaid y Llan oedd y Ceidwadwyr tra bod y Rhyddfrydwyr a Phlaid Cymru ar y cyfan yn bleidiau capel. Roedd p'un ai oedd Llafur yn blaid capel neu'n blaid Gatholig yn dibynnu ar ble yn union yng Nghymru yr oeddech chi!

Rwyf wedi dadlau droeon bod pleidiau Cymru yn debycach i enwadau na phleidiau go iawn. Mae eich ymlyniad i un ohonyn nhw yn fwy o fater o gefndir, teulu, iaith a dosbarth nac o syniadaeth na pholisi.

Os ydy'r muriau rhwng yr enwadau yn chwalu os gobaith am wleiyddiaeth ychydig yn fwy aeddfed tybed?

Y Llenni'n Disgyn

Vaughan Roderick | 13:23, Dydd Mawrth, 9 Hydref 2012

Sylwadau (2)

Lle bach digon di-nod yw Nantymoel. Saif y pentref ym mlaen Cwm Ogwr lle mae'r ffordd yn dechrau dringo dros Fwlch y Clawdd i Dreorci. Mae 'na ddwsinau o bentrefi ôl-lofaol tebyg ym maes glo'r de ac mae'r rheiny sydd, fel Nantymoel, yn sefyll ym mlaen cwm yn hytrach na'i geg yn tueddu bod yn llefydd digion tlawd eu golwg.

Collodd Nantymoel ei rheilffordd hanner canrif yn ôl ac fe gaeodd y pwll olaf, Wyndham Western, ychydig flynyddoedd cyn y streic fawr. Fe wnes i eitem ynghylch y pwll ar y pryd gan ganolbwyntio ar Huw Jones oedd wedi symud o Sir Fôn i chwennych gwaith yn y pwll yn gynnar yn y ganrif ddiwethaf a'i fab John, oedd yn ysgrifennydd y gyfrinfa. Doedd y naill na'r llall yn gweld llawer o obaith i'r pentref yn sgil cau'r gwaith.

Yn ganolbwynt i fywyd y pentref mae hen Neuadd y Glowyr. Achubwyd honno yn ôl yn saithdegau gan Gyngor Ogwr a chriw o actorion proffesiynol a'u gwreiddiau yn y cwm o'r enw'r "Cambrian Theatre Company". Fe ail-enwyd y Neuadd yn "Ganolfan Berwyn" i anrhydeddu'r athro oedd wedi ysbrydoli'r actorion i fentro i fyd y theatr cyn marw'n ifanc. Berwyn Roderick oedd ei enw llawn ac roedd e'n ewythr i mi.

Byr oedd oes y cwmni theatr ond mae'r Ganolfan wedi bod yn galon i'r gymuned ar hyd y degawdau. Pan gaeodd y Cyngor lyfrgell y pentref cychwynnodd gwirfoddolwr lyfrgell newydd yn y Ganolfan ac mae'n gartref hefyd i nifer o gymdeithasau a chorau.

Bu Berwyn Roderick farw cyn fy ngeni i ond roedd yn anodd peidio teimlo ychydig o ing wrth ddarllen y datganiad yma ar wefan Cyngor Pen-y-bont.

""Fe fydd Canolfan Berwyn yn cau cyn diwedd eleni ar ôl i adroddiad ddatgelu y byddai'n costi bron i filiwn o bunnau i ddiogelu'r adeilad. Fe fyddai angen gwerth £400,000 o waith yn y tymor byr i sicrhau diogelwch y cyhoedd a swm cyffelyb ychwanegol er mwyn cwrdd â gofynion y gyfraith. Dyw hynny ddim yn cynnwys unrhyw welliannau i gyfleusterau'r adeilad.

Gyda'r tristwch mwyaf mae'r Cabinet wedi cytuno i gau'r ganolfan a dymchwel yr adeilad gan glustnodi £200, 000 ar gyfer canolfan gymunedol newydd."

Dydw i ddim yn gwybod faint o ganolfan y mae'n bosib ei chodi am £200,000. Dyw hi ddim yn debyg o fod yn un sylweddol a does dim arwydd pryd y bydd h'i agor - os agoriff hi o gwbwl.

Dydw i ddim am feirniadu Cyngor Pen-y-bont yn fan hyn. Rwy'n sicr bod y penderfyniad wedi tristau'r cynghorwyr ac mae'r datganiad yn ddi-flewyn ar dafod ynghylch eu rhesymeg.

"Ni fydd yr adeilad yn goroesi gaeaf arall heb fuddsoddiad a dyw'r arian angenrheidiol ddim ar gael yn yr hinsawdd economaidd bresennol."

Er bod clymblaid San Steffan wedi bod mewn grym ers dwy flynedd a hanner bellach dyw'r rhan fwyaf o'r toriadau gwariant sydd wedi eu cynllunio ddim wedi dechrau brathu eto. Yn y flwyddyn ariannol nesaf y bydd yr esgyd fach yn dechrau gwasgu. Canolfan Berwyn, o bosib, yw'r esiampl gyntaf yng Nghymru o effaith y toriadau hynny ar lawr gwlad.

Pwy nawr all ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o blant Nantymoel - ac yn ble mae gwneud hynny?

O Fortuna

Vaughan Roderick | 15:37, Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sylwadau (1)

"Rhowch i mi gadfridogion lwcus" - geiriau'r Ymerawdwr Napoleon yn ôl y chwedl. Dwn i ddim a ddywedodd y Ffrancwr bach y fath beth ond sicr roedd Machiavelli o'r farn bod lwc yr un mor bwysig a gallu i dywysog neu wleidydd llwyddiannus.

Amser a ddengys pa mor ddawnus yw Ed Miliband fel gwleidydd ond yn sicr mae'n ymddangos ei fod yn ŵr cythreulig o lwcus. Cymerwch yr enghraifft ddiweddaraf o lwc yr arweinydd Llafur.

Lai na deuddeg awr ar ôl i Miliband ddisgrifio'r llywodraeth fel "incompetent, hopeless, out of touch, U-turning, pledge-breaking, make-it-up-as-we-go-along, back-of-the-envelope, miserable shower" fe ddaeth newydd am y llanast diweddaraf yn yr adran drafnidiaeth. A allai unrhyw arweinydd gwrthblaid ofyn am fwy? I ddefnyddio un o hoff eiriau Machiavelli mae 'fortuna' yn ffafrio'r arweinydd Llafur!

Nid am y tro cyntaf chwaith. Pe bai ei frawd mawr wedi bod ychydig yn neisiach i lond dwrn o Aelodau Seneddol David ac nid Ed fyddai'n arwain Llafur heddiw. Fe fyddai hwnnw wedi ceisio newid y neges Llafur mewn ffordd go radicalaidd. Yn nyddiau cynnar y brawd bach ar y llaw arall roedd glynu at y mantra ynghylch "torri'n rhy gyflym ac yn rhy ddwfn" yn neges eithaf gwan. Fe newidiwyd hynny gan y "double-dip" gan roi hygrededd i feirniadaeth oedd wed ymddangos yn dila. Efallai bod y ddau Ed yn broffwydi craff neu efallai bod 'fortuna' o'u plaid!

Doedd a wnelo penderfyniad Nick Clegg i gladdu'r newidiadau arfaethedig i'r ffiniau etholaethol fawr ddim a'r wrthblaid. Ymddygiad y meinciau cefn Ceidwadol ynghylch diwygio TÅ·'r Arglwyddi nid Llafur wnaeth arwain at hwnnw. Ond pwy sydd ar ei hennill - Llafur. O Fortuna!

Trwy ddawn neu drwy lwc mae Llafur wedi cyrraedd sefyllfa lle mae buddugoliaeth yn yr etholiad nesaf yn bosibilrwydd go iawn. Go brin fod llawer o bobol yn credu bod hynny'n debygol pan ddyrchafwyd Ed i'r arweinyddiaeth ddwy flynedd yn ôl.

Gallai lwc droi yn erbyn yr arweinydd Llafur wrth reswm ond ar hyn o bryd mae pethau'n ymddangos yn addawol iawn iddo. Harold Wilson yw'r unig arweinydd plaid ers y rhyfel i arwain ei blaid yn ôl i rif deg ar ôl un tymor fel gwrthblaid. Pwy sydd i ddweud nad Ed Miliband fydd yr ail i wneud hynny?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.