Y Llenni'n Disgyn
Lle bach digon di-nod yw Nantymoel. Saif y pentref ym mlaen Cwm Ogwr lle mae'r ffordd yn dechrau dringo dros Fwlch y Clawdd i Dreorci. Mae 'na ddwsinau o bentrefi ôl-lofaol tebyg ym maes glo'r de ac mae'r rheiny sydd, fel Nantymoel, yn sefyll ym mlaen cwm yn hytrach na'i geg yn tueddu bod yn llefydd digion tlawd eu golwg.
Collodd Nantymoel ei rheilffordd hanner canrif yn ôl ac fe gaeodd y pwll olaf, Wyndham Western, ychydig flynyddoedd cyn y streic fawr. Fe wnes i eitem ynghylch y pwll ar y pryd gan ganolbwyntio ar Huw Jones oedd wedi symud o Sir Fôn i chwennych gwaith yn y pwll yn gynnar yn y ganrif ddiwethaf a'i fab John, oedd yn ysgrifennydd y gyfrinfa. Doedd y naill na'r llall yn gweld llawer o obaith i'r pentref yn sgil cau'r gwaith.
Yn ganolbwynt i fywyd y pentref mae hen Neuadd y Glowyr. Achubwyd honno yn ôl yn saithdegau gan Gyngor Ogwr a chriw o actorion proffesiynol a'u gwreiddiau yn y cwm o'r enw'r "Cambrian Theatre Company". Fe ail-enwyd y Neuadd yn "Ganolfan Berwyn" i anrhydeddu'r athro oedd wedi ysbrydoli'r actorion i fentro i fyd y theatr cyn marw'n ifanc. Berwyn Roderick oedd ei enw llawn ac roedd e'n ewythr i mi.
Byr oedd oes y cwmni theatr ond mae'r Ganolfan wedi bod yn galon i'r gymuned ar hyd y degawdau. Pan gaeodd y Cyngor lyfrgell y pentref cychwynnodd gwirfoddolwr lyfrgell newydd yn y Ganolfan ac mae'n gartref hefyd i nifer o gymdeithasau a chorau.
Bu Berwyn Roderick farw cyn fy ngeni i ond roedd yn anodd peidio teimlo ychydig o ing wrth ddarllen y datganiad yma ar wefan Cyngor Pen-y-bont.
""Fe fydd Canolfan Berwyn yn cau cyn diwedd eleni ar ôl i adroddiad ddatgelu y byddai'n costi bron i filiwn o bunnau i ddiogelu'r adeilad. Fe fyddai angen gwerth £400,000 o waith yn y tymor byr i sicrhau diogelwch y cyhoedd a swm cyffelyb ychwanegol er mwyn cwrdd â gofynion y gyfraith. Dyw hynny ddim yn cynnwys unrhyw welliannau i gyfleusterau'r adeilad.
Gyda'r tristwch mwyaf mae'r Cabinet wedi cytuno i gau'r ganolfan a dymchwel yr adeilad gan glustnodi £200, 000 ar gyfer canolfan gymunedol newydd."
Dydw i ddim yn gwybod faint o ganolfan y mae'n bosib ei chodi am £200,000. Dyw hi ddim yn debyg o fod yn un sylweddol a does dim arwydd pryd y bydd h'i agor - os agoriff hi o gwbwl.
Dydw i ddim am feirniadu Cyngor Pen-y-bont yn fan hyn. Rwy'n sicr bod y penderfyniad wedi tristau'r cynghorwyr ac mae'r datganiad yn ddi-flewyn ar dafod ynghylch eu rhesymeg.
"Ni fydd yr adeilad yn goroesi gaeaf arall heb fuddsoddiad a dyw'r arian angenrheidiol ddim ar gael yn yr hinsawdd economaidd bresennol."
Er bod clymblaid San Steffan wedi bod mewn grym ers dwy flynedd a hanner bellach dyw'r rhan fwyaf o'r toriadau gwariant sydd wedi eu cynllunio ddim wedi dechrau brathu eto. Yn y flwyddyn ariannol nesaf y bydd yr esgyd fach yn dechrau gwasgu. Canolfan Berwyn, o bosib, yw'r esiampl gyntaf yng Nghymru o effaith y toriadau hynny ar lawr gwlad.
Pwy nawr all ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o blant Nantymoel - ac yn ble mae gwneud hynny?
SylwadauAnfon sylw
Wel wir. Rwy wedi pendroni sawl gwaith dros enw'r ganolfan yma - a hithau mor bell oddi wrth, a heb unrhyw gyswllt amlwg, gyda'r mynydd ym Maldwyn!
Trist iawn clywed am ei chau - gobeithio'n wir y cadwa'r Cyngor at yr addewid i godi un newydd.
I am sorry for my reply in English. The community of Nantymoel will still put up a fight to stop the closure. 400 people a week and 31 seperate groups are based there. It was said there is no guarantee of a new building, the people have to raise £200,000 to get the £200,000 the Council offer. Those put together would not rent a few portakabins for a few years never mind complete a full building. £200,000 that we could raise would make the old building perfectly sound, why the hurry to demolish?
Thanks for the background on the story of the Berwyn Vaughan