´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Minnau a osodais fy Mrenin ar Seion

Vaughan Roderick | 11:43, Dydd Mawrth, 30 Hydref 2012

Mae stormydd yr Unol Daleithiau wedi rhoi stop am y tro ar y rhan fwyaf o'r ymgyrchu cyhoeddus yn etholiadau arlywyddol y wlad honno. Mae hynny'n rhoi cyfle i mi nodi un ffaith fach ddiddorol ynghylch etholiad eleni a chrybwyll darn bach o hanes Cymru sydd wedi mynd yn angof bron - a hynny o fwriad.

Hwn yw'r etholiad cyntaf yn hanner yr Unol Daleithiau lle nad oes un o'r ymgeiswyr ar gyfer yr arlywyddiaeth neu'r is-arlywyddiaeth yn ddyn gwyn Protestannaidd - dosbarth llywodraethol traddodiadol America. Mae Joe Biden a Paul Ryan yn Gatholigion, Barack Obama yn ddu a Mitt Romney yn Formon. Mae hynny yn adrodd cyfrolau am newid demograffig gwlad lle mae'r canran o Brotestaniaid wedi gostwng o 53% i 46% yn ystod y pum mlynedd diwethaf a lle mae cyfanswm y 'lleiafrifoedd' ethnig ar fin troi'n fwyafrif.

Nid bod hynny'n golygu nad yw rhagfarn hiliol a chrefyddol yn ffactor ym mywyd yr Unol Daleithiau. Mewn cyfaddefodd dros hanner y rhai a holwyd bod ganddyn nhw "deimladau negyddol" tuag at bobol ddu. Efallai nad yw'n syndod felly mai ymhlith dynion gwyn y mae'r gefnogaeth gryfaf i Mitt Romney a phleidleiswyr du yw'r rhai mwyaf pybyr dros Barack Obama.

Ond os oes 'na rai sy'n gwrthwynebu Obama ar sail ei groen mae 'na eraill yn gwrthwynebu Romney ar sail ei grefydd. Nawr, mae Mormoniaeth gyda'i thrydydd testament yn gallu ymddangos yn gred rhyfedd ar y naw i'r rheiny a fagwyd yn ein traddodiad Cristnogol ni. Anodd yw credu bod yr Iesu wedi ymweld ag America ar ôl yr atgyfodiad ac mae ym Missouri yr oedd Gardd Eden!

Yr hyn sy'n syndod efallai yw bod 'na gyfnod yn ein hanes pan oedd Mormoniaeth yn cynnig her go iawn i'r enwadau anghydffurfiol Cymreig.

Os oes gennych chi awr neu ddwy i ymweld â'r Llyfrgell Genedlaethol mae'n werth pori trwy "Prophwyd y Jiwbili" ac "Udgorn Seion" cyfnodolion Mormoniaid Cymru er mwyn ddarllen hanes rhyfedd Diwygiad Mormonaidd y 1850au. Sefydlwyd dwsinau o achosion a denwyd miloedd at y ffydd gan bregethwyr tanbaid yn addo mynediad i'r Caersalem newydd.

Mae papurau'r enwadau traddodiadol o'r cyfnod yn llawn o ymosodiadau ffyrnig yn cyhuddo'r Mormoniaid o bob math o gabledd ac anonestrwydd. Y cyhuddiad mwyaf cyffredin yn eu herbyn oedd eu bod yn llosgi ffosfforws yn eu cyfarfodydd gan fynnu ei fod yn brawf o bresenoldeb yr ysbryd glan.

Mewn gwirionedd doedd dim rhaid i'r capeli boeni. Roedd y Mormoniaid Cymreig a'u bryd ar fynd i "Seion Newydd" y gorllewin gwyllt sef Utah y dalaith a sefydlwyd gan yr Eglwys. Fe aethon nhw yn eu niferoedd a hyd heddiw mae oddeutu ugain y cant o bologaeth Utah o dras Gymreig - mae'n debyg mai hwnnw yw'r canran uchaf o unryw dalaith yn yr Unol Daleithiau.

Mae hanes Mormoniaid Cymru a'u harwr mawr y Capten Dan Jones yn adnabyddus iawn yn Utah ond bron yn angof yng Nghymru. Y rheswm am hynny mae'n debyg oedd bod mawrion Anghydffurfiaeth oes Fictoria am gelu unrhyw hanes a fyddai'n dyst i'r darlun o'r Cymry fel cenedl ofergoelus a di-foes a gyflwynwyd yn y Llyfrau Gleision.

Does dim rheswm i ni heddiw anwybyddi stori fach ddifyr iawn o'r gorffennol. Mae 'na fwy na phicau ar y maen Ann Romney yn cysylltu'r Mormoniaid a Chymru!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 08:40 ar 31 Hydref 2012, ysgrifennodd dewi:

    Yn union...

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.