Mwynder Maldwyn
Os ydy'r glymblaid yn para mae'r senedd bresennol yn San Steffan mwy neu lai hanner ffordd trwy ei hoes ac yn draddodiadol dyma'r cyfnod pan mae newyddiadurwyr a gwleidyddion yn dechrau dyfalu pa aelodau seneddol fydd yn rhoi'r gorau iddi yn yr etholiad nesaf.
A fydd yr hen stejars Llafur Ann Clwyd a Paul Flynn yn sefyll eto? Byswn i ddim yn betio yn erbyn hynny. Dyw'r naill na'r llall wedi colli mymryn o'u hawch gwleidyddol.
Roedd 'na farc cwestiwn hefyd ynghylch Glyn Davies, oedd eisoes wedi cyrraedd oed pensiwn pan gipiodd Maldwyn yn 2010. Fe atebwyd y cwestiwn hwnnw heddiw pan gyrhaeddodd e-bost yn datgan bod Glyn yn bwriadu sefyll yn yr etholiad nesaf - a hynny ar ôl i'r Gymdeithas Geidwadol leol benderfynu 'gweithredu ar y sail y bydd etholaeth Maldwyn yn bodoli yn etholiad nesaf'.
Dyna i chi arwydd bendant bod y Torïaid ar lawr gwlad yn dechrau derbyn na fydd na newid ffiniau cyn yr etholiad nesaf er bod eu harweinwyr yn San Steffan yn mynnu y gallasai hynny ddigwydd er gwaethaf penderfyniad y Democratiaid Rhyddfrydol i bleidleisio yn erbyn y gorchymyn seneddol angenrheidiol.
Yn wyneb hynny does dim dewis gan y comisiynau ffiniau ond parhau a'r gwaith o lunio ffiniau newydd. Wythnos nesaf fe fydd Comisiwn Cymru yn cyhoeddi eu hargymhellion diweddaraf ar gyfer y deg ar hugain o etholaethau newydd a fyddai gan Gymru pe bai'r newidiadau'n digwydd.
Does bron neb, gan gynnwys Ceidwadwyr Maldwyn, yn disgwyl gweld y rheiny yn cael eu defnyddio yn 2015. Gallen nhw ddod i rym yn yr etholiad wedi hynny os ydy'r Ceidwadwyr yn arwain y Llywodraeth nesaf. Mae'n deg broffwydo mai i ebargofiant y byddai'r cynlluniau'n mynd os oedd 'na lywodraeth Lafur.
Roedd 'na gyfnod pan oedd gwleidyddion Prydain yn chwerthin ar ben 'gerrymanders' yr Americanwyr ond gyda maint a siâp ein hetholaethau bellach yn dibynnu ar ganlyniad etholiad pwy all ddweud nad yw oes y 'gerrymander' yn gwawrio yn y Deyrnas Unedig?