Y Blaid Fach
Plaid go rhyfedd yw Plaid Cymru. Trwy gydol ei bodolaeth mae hi wedi yn bod yn gymysgedd o blaid wleidyddol go iawn, rhan o "fudiad cenedlaethol" annelwig a grŵp pwyso ar y blaid Lafur.
Er bod y blaid o bryd i gilydd wedi breuddwydio neu frolio ynghylch diorseddi Llafur fel plaid fawr Cymru mae ei haelodau ar hyd y blynyddoedd wedi ymddwyn gyda pharchedig ofn wrth ddelio â Llafur gan synhwro mai trwy Lafur y mai sicrhau grymoedd i Gymru.
Cymerwch wanwyn 1979 fel enghraifft. Gyda chynlluniau datganoli Llafur wedi ei dryllio ar ôl i fwyafrif ei haelodau ar lawr gwlad ymgyrchu dros bleidlais 'Na' - beth wnaeth aelodau seneddol Plaid Cymru? Pleidleisio'n aflwyddiannus i gynnal Jim Callaghan mewn grym oedd eu penderfyniad.
Pleidleisiau'r SNP wnaeth ddymchwel y Llywodraeth. Fe dalodd cenedlaetholwyr yr Alban bris tymor byr am y penderfynniad hwnnw. Fe'i bedyddiwyd yn "Tartan Tories" ac fe wnaeth hynny ddifrod etholiadol - ond byddai neb byth eto yn amau eu bod yn fodlon mynd troed am droed gyda'r blaid Lafur a cheisio rhoi clatsied go iawn iddi.
Cymerwch enghraifft arall - y trafodaethau clymblaid yn sgil etholiad Cynulliad 2007. Roedd 'na ddau gytundeb clymblaid ar y ford. Roedd y rhaglenni llywodraethol yn ddigon tebyg i'w gilydd. Yr unig wahaniaeth mewn gwirionedd oedd pwy fyddai'n arwain y Llywodraeth. Dewisodd Plaid Cymru fod yn frawd bach yn hytrach na'n frawd mawr. Fedrai ddim dychmygu'r SNP yn gwneud y dewis hwnnw. Mewn gwirionedd fedrai ddim meddwl am unrhyw blaid arall unrhyw le yn y byd yn ymddwyn felly.
Sut felly y bydd Plaid Cymru'n ymateb i'r ddêl bosib sy'n cael ei wyntyllu yn San Steffan - cyfle i gau Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol allan o'r drafodaeth a llunio setliad cyfansoddiadol newydd i'r Deyrnas Unedig mewn trafodaethau rhwng y Ceidwadwyr, y DUP a chenedlaetholwyr Cymru a'r Alban?
Awch David Cameron i sicrhau mwyafrif seneddol dros ad-drefnu ffiniau etholaethol sy'n agor y drws i'r posibilrwydd hwnnw a gallai pethau fel datganoli cyfraith a threfn i Gymru a chynyddu nifer aelodau'r cynulliad fod ar y bwrdd.
Dyw Plaid Cymru ddim wedi cau allan y posibilrwydd o gyrraedd cytundeb er gwaetha'r peryglon gwleidyddol amlwg ond yn y pendraw rwy'n amau y bydd Plaid Cymru yn ildio i'w greddfau trwy beidio pechu'r blaid Lafur.
Mae eraill yn credu'n wahanol. Yng ngeiriau un aelod o'r blaid "mae'n bryd i ni dyfu pâr".