Tri Pheth
1. Roedd pawb yn disgwyl i'r niferoedd oedd yn pleidleisio yn etholiadau'r heddlu i fod yn isel. Roeddwn i'n meddwl y byddai pleidleisiau post yn ddigon i sicrhau bod y canran yn uwch nac ugain y cant. Roeddwn i'n anghywir. Dydw i ddim yn cofio achos mewn unrhyw etholiad lle cafodd blychau pleidleisio cwbwl wag eu dychwelyd i'r ganolfan gyfri. Anhygoel.
2. Roedd y ras dau geffyl yn Nyfed-Powys yn anhygoel o agos. Yng Ngheredigion, lle'r oedd 11% o'r papurau wedi eu sbwylio, fe enillodd y Ceidwadwr o ryw 600 pleidlais - cyfran sylweddol iawn o gyfanswm ei fwyafrif. Ai pleidleisio o blaid y Ceidwadwyr oedd y Cardis - yntau yn erbyn Christine Gwyther? A fyddai ymgeisydd gwahanol i Lafur, rhywun fel Hag Harris, wedi ennill yng Ngheredigion - ac felly drwyddi draw?
3. Er nad oedd y naill blaid na'r llall wedi enwebu ymgeiswyr chwaraeodd Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol eu rhan yn yr etholiadau - fel "unigolion" wrth gwrs. Bu aelodau Plaid Cymru yn gweithio'n galed dros Ian Johnston, yr ymgeisydd annibynnol buddugol yng Ngwent ac roedd y Democratiaid Rhyddfrydol a rhai o aelodau Plaid Cymru yn weithgar yn ymgyrch Winston Roddick. O am fod yn bry ar wal y tro nesaf y mae Dafydd Elis Thomas a Dafydd Wigley yn cael clonc!
SylwadauAnfon sylw
Digon posib fod safon yr ymgeisydd Llafur yn rhan o'r darlun, ond mae esboniad arall posib dros y fuddugoliaeth Geidwadol gynta yng Ngheredigion ers 1874.
Mae'n weddol hysbys fod y Lib Dems wedi bod yn gwario dipyn o arian ac egni dros y blynyddoedd diwethaf ar geisio cael newydd-ddyfodiaid i'r sir - ymddeolwyr ac ati - i arwyddo am bleidlais bost barhaol.
Dyw e ddim yn syndod mai canlyniad hyn, mewn etholiad turnout isel heb ymgeisydd Lib Dem, fyddai ymchwydd yng nghanran y bleidlais Geidwadol.