Newid Pethau
Naw y cant wnaeth droi allan i bleidleisio y tro diwethaf i bobol Cymru gael y cyfle i bleidleisio o blaid neu yn erbyn agor tafarnau ar y Sul. Fe ddylai'r ffigwr fod yn uwch yn etholiadau'r Comisiynwyr Heddlu wythnos nesaf ond rwy'n synhwyro na fydd hi'n llawer gwell.
Mae 'na ffactorau penodol ynghylch yr etholiad hwn sy'n achosi peth o'r difaterwch. Mae dryswch ynghylch union natur y swydd, diffyg ymgeiswyr gan rai o'r pleidiau ac amser y flwyddyn yn rhai o'r rheiny. Serch hynny fe fydd pleidlais isel wythnos nesaf yn tanseilio hygrededd y Comisiynwyr i ryw raddau ac yn ychwanegu at y pryderon ynghylch y difaterwch cynyddol sy'n effeithio ar etholiadau ar bob lefel erbyn hyn.
Mae gweld pa mor wag yr orielau cyhoeddus y Cynulliad yn arwydd pellach o'r difaterwch hwnnw. Dyw'r gwylio ar y we ddim llawer gwell. 13,810 o bobol wnaeth ddefnyddio gwasanaeth Senedd.tv rhwng Mai 2011 a Mai 2012. Mae eraill yn dewis gwylio ar wasanaeth Democratiaeth Fyw'r ´óÏó´«Ã½ wrth gwrs ond go brin fod y niferoedd yn enfawr.
Rhan o'r rheswm am hynny yw bod trafodaethau'r Cynulliad yn gallu bod yn bethau diflas ar y naw. Dyw hyd yn oed sesiwn gwestiynau Carwyn Jones ddim yn cymharu mewn gwirionedd a sesiynau cyffelyb San Steffan neu hyd yn oed Holyrood.
Yr wythnos hon fe ysgrifennodd arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew Davies at Lywydd y Cynulliad i alw am adolygiad o reolau a threfniadau'r Cynulliad. Mae'r blaid am weld newidiadau i'r rheolau i fywiogi a gwella effeithlonrwydd y Cynulliad.
2002 oedd y tro diwethaf i adolygiad o'r fath cael ei gynnal a dyw cynnal un arall ddim yn beth afresymol i wneud. Ar y llaw onid oes dyletswydd ar y pleidiau hefyd i geisio gwella ansawdd rhai o'r ymgeiswyr y maen nhw'n dewis ar gyfer y lle yma? Mewn siambr o drigain aelod does 'na'r unlle i guddio eich dyffars!
SylwadauAnfon sylw
Y prif gymhwyster mae pleidiau yn edrych am yn eu hymgeiswyr yw eu tebygolrwydd i ennill y sedd yn eu hardal leol. Mae eu gallu i wneud y swydd yn y Senedd ar gyfer Cymru gyfan yn eilradd i hynny.
Wrth sgwrs, mae hi'n berffaith bosibl i'r ddau cyd-fynd - ac maent yn aml - ond dyna yw'r drefn flaenoriaethol. I fod yn deg, nid yw hynny yn afresymol ohonynt os dyna yw blaenoriaethau'r etholaeth gyffredinol.
Mae yna un newid y buaswn i yn cymeradwyo’n fawr. Symud y meinciau fel bod aelodau’r wrthbleidiau yn gwynebu aelodau’r llywodraeth, fel yn San Steff. Ar hyn o bryd mae’r siaradwr a’i gefn at y rhai tu ol ac yn anerch gwar y rhai tu blaen ac mae’r Prif Weinidog yn gorfod gwingo nol a mlan wrth gyfeirio’i eiriau at yr holwr y tu ol iddo tra’n trio peidio bod yn anghwrtais i’r Llywydd sy’n eistedd o’i flaen. Amhosib. Dwi’n cofio rhywun yn dweud y byddai gosod y meinciau mewn hanner cylch yn esgor a wleidyddiaeth gynhwysol. Erbyn heddiw gwyddom, cynhwysol = diflas.
O ie a tra bo ni wrthi beth am gael gwared a’r cyfrifiaduron. Yno i wrando ac i siarad mae’r aelodau nid i ffidlan yn ddiddiwedd efo’u cyfrifiaduron. Ma ise rhoi stop ar hyn, mae e’n anghwrtais i’r siaradwr sydd ar ‘i draed ac yn anghwrtais i'r rhai sy’n gwylio a gwrando.
Cwestiwn. O ran etholiadau y comisiynnydd beth fydd y sefyllfa petai'r person llwyddiannus yn ymddiswyddo neu yn gadael cyn diwedd ei dymor. Pwy fyddai yn cymryd ei le? A fyddai angen isetholiad. Beth petai y pleidiau oedd yn gwrthwynebu wedi ymgyrchu gyda'r bwriad o beidio derbyn y cyfrifoldeb
Od ydy comisynydd yn ymddiswyddo cynhelir etholiad i ddewis olynydd.