1662 a 2012 - Erys yr Egwyddor
Pa flynyddoedd y byddech chi yn eu henwi fel trobwyntiau yn hanes Cymru? 1282, 1536, 1914 a 1997 yw fy rhestr I. Mae 'na bosibiliadau eraill. Mae 1588, blwyddyn cyhoeddi Beibl William Morgan yn un ohonyn nhw a 1759 pan agorwyd gwaith haearn Dowlais yn un arall.
Go brin y byddai 1662 yn uchel iawn ar restrau pobol y dyddiau hyn ond yn ôl yn nyddiau Victoria roedd hi'n cael ei hystyried yn flwyddyn ryfeddol o bwysig - y pwysicaf, o bosib, yn hanes y genedl fach hon.
1662 oedd blwyddyn y "troi allan" pan gafodd 120 o weinidogion yng Nghymru eu diswyddo am wrthod cydymffurfio a sacramentau Eglwys Loegr. Y troi allan oedd cychwyn Anghydffurfiaeth yng Nghymru. Yr hyn yr oedd yr oedd yr Annibynwyr, Bedyddwyr, Presbyteriaid ac Undodiaid yn gwrthod cydymffurfio a hi oedd cyfraith gwlad sef Deddf Unffurfiaeth 1662. Dyna yw tarddiad y gair "Anghydffurfiwr".
Doedd yr enwadau ddim wedi eu ffurfio ar y pryd. Roedd y Bedyddwyr, Annibynwyr ac Undodiaid o hyd yn addoli gyda'i gilydd ym Mlaencannaid. Roedd y rhwyg rhwng Gellionnen a Chwmllynfell degawdau i ffwrdd a doedd John Williams, Pantycelyn (tad William) dim eto wedi cefni ar Arminiaeth Cefnarthen er mwyn dyrchafu Calfiniaeth ym Nghlunypentan .
Roedd diwinyddiaeth yr Anghydffurfwyr o hyd yn hyblyg a llawer o anghytundeb rhwng gwahanol garfannau. Yr hyn oedd yn eu huno oedd eu gwrthwynebiad chwyrn i unrhyw ymyrraeth gan y wladwriaeth yn eu credo na'u sacramentau.
Nawr mae un o'r enwadau a ffurfiwyd yn sgil y "troi allan" yn wynebu'r union fygythiad hwnnw - ymyrraeth cyfraith gwlad yn ei sacramentau.
Priodasau hoyw yw asgwrn y gynnen. Mae 'na ddadleuon o blaid ac yn erbyn y rheiny a doeddwn i ddim yn synhwyro bod 'na fawr o alw am newid y drefn o bartneriaethau sifil nes I David Cameron godi'r peth.
Y pwynt sy gen i yw hwn. Fe fyddai caniatáu priodasau hoyw sifil tra'n gwahardd rhai crefyddol yn ymyrraeth uniongyrchol yn sacramentau'r Undodiaid ac eraill sy'n dymunou cynnal priodasau o'r fath. Dyw dweud y gallai Eglwys fendithio priodas sifil ddim yn ddigon. Os ydy priodasau hoyw mewn swyddfeydd corfrestru, gwestai a phlasdai yn gyfreithlon yna rhaid yw caniatáu I Eglwysi sy'n dymuno cynnal priodasau crefyddol wneud hynny.
Rwy'n sicr na fyddai'r rhai wnaeth gael eu troi allan yn 1662 yn gallu dychmygu'r fath beth a phriodas hoyw ac mae'n debyg y byddai'r syniad yn wrthun iddyn nhw. Ond yr un yw'r egwyddor.
Y prynhawn yma fe fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwneud datganiad ynglŷn â'i chynlluniau. Yn wreiddiol y bwriad oedd cyfreithloni priodasau hoyw sifil a pharhau i wahardd rhai crefyddol hyd yn oed mewn addoldai oedd yn dymuno eu cynnal. Mae 'na arwyddion y gallai hynny newid.
Beth bynnag yw eu barn am briodasau how fe ddylai Anghydffurfwyr Cymru groesawi hynny. Rydym wedi bod yma o'r blaen!
Diweddariad Mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi na fydd hi'n ymyrryd yn sacramentau eglwysi ac eithrio dwy - sef Eglwys Loegr a'r Eglwys yng Nghymru. Yn achos Eglwys Loegr gellid dadlau bod ei statws fel eglwys sefydledig yn ei gwneud hi'n eithriad. Mae'n ymddangos bod y Llywodraeth wedi anghofio bod yr Eglwys yng Nghymru wedi ei datgysylltu ac wedi colli ei statws sefydledig. Dyw hi ddim gwahanol i unrhyw enwad nac eglwys arall.
SylwadauAnfon sylw
Crist Vaughan, pwy sy'n becso am grefydd?
Un rheswm mawr dros grefyddoldeb y Cymry yn y G20 (a'r un does neb ar Radio Wales fel pe baent wedi deall) oedd ei fod yn ffurf ar hunaniaeth.
Wrth i genedlaetholdeb seciwlar dyfu a phobl weld gymaint o wastraff amser a roddwyd i grefydd yn lle yr iaith fel hunaniaeth, roedd hi'n 'amen' ar grefydd. Piti na ddigwyddodd yn gynt ac i 1904 roi hwb di-angen iddo.
Ni 'di gwastraffu digon o amser ar grefydd a ni 'di colli'n iaith. Oes raid i ni wastraffu mwy o amser yn ei drafod? Mae pethe pwysicach i'w trafod.
Chwarae teg i wefan y ´óÏó´«Ã½ am esbonio sefyllfa´r Eglwys yng Nghymru - yn wahanol i Maria Miller! Rhaid i´r Eglwys Anglicanaidd briodi unrhyw un yng Nghymru sy´n cyfrif ei hun yn ´blwyfolyn´- rhyw ´remnant´bach o´r drefn wladol.
Da iawn anffyddiwr. Ac yn ol yn y byd go iawn - pa sefydliadau oedd yn gadarnleoedd i'r iaith am y rhan fwyaf o'r ganrif ddiwethaf? Ie, dyna ni, deg allan o ddeg - y capeli.
Vaughan - pam na wnei di flogio ar y cyfrifiad. Dyna mae pawb yn ei drafod yn y Gymraeg. Beth mae Carwyn Jones am ei wneud - ei job e yw cael atebion ac nid state the bleeding obvious.
Beth mae Meri Huws y Comisiynydd Iaith Gymraeg am wneud - oes pwrpas i'w job os oes 320,000 o dai newydd am gael ei hadeiladu ar orchymun llywodraeth Carwyn Jones?
Pam fod Leighton Andrews are yr un llaw more gefnogol a blaengar o blaid addysg Gymraeg ag eto'n tanseilio prifysgolion Cymru a hybu brain drain o'r wlad?
Ydy'r sefydliadau a'r Cymry da (hunan-fodlon?) yn y De Ddwyrain yn teimlo ychydig yn fwy gwylaidd nawr wedi iddynt weld mor wan mae unrhyw 'adfywiad' iaith a'r 'daf yr iaith a dyfodd'? Nid ceisio rhannu Cymru ydw i, ond mae rhan fawr o strategaeth ers tua 1990 wedi ei thanseilio, neu'n hytach, y canfyddiad fyddai twf yn y De Ddwyrain (neb yn son am y Gog Ddwyrain) yn gwneud lan am y cwymp yn y Gorllewin.
Oes unrhyw urgency yn y Llywodraeth yng Nghaerdydd i wneud unrhyw beth neu oes pobl yn dawel fach yn reit hapus gyda'r Cyfrifiad gan roi rhyddid iddynt ollwng yr agenda iaith yn dawel fach?
Mae hyn yn ddyddiau pryderus i garedigion yr iaith. Byddai'n dda cael rhyw syniad o beth all ddigwydd.
Gyda llaw, ar thema Carwyn Jones - blog craff iawn gan Carl Morris: