Cyfrol Goffa
Ar y cyfan dydw i ddim yn ffan o ddyddiau neu wythnosau arbennig. Rwy'n deall yn iawn pam y mae elusennau a chyrff eraill yn eu clustnodi. Mae'n ffordd hawdd o ddenu sylw a ffocysu gweithgarwch ond erbyn hyn mae 'na gymaint ohonyn nhw nes eu bod mewn peryg o droi'n ddiystyr. Wyddoch chi, er enghraifft, bod Mawrth 1af, yn ogystal â bod yn Ddydd Gwyl Dewi, yn "Ddiwrnod Rhyngwladol Hunan-Niwed" ac yn "Ddwirnod Cenedlaethol y Mochyn" yn yr Unol Daleithiau.
Mae ambell un o'r dyddiau hyn wedi ennill ei blwyf ac mae dau o'r rheiny'r wythnos hon sef Diwrnod Rhyngwladol y Merched a Diwrnod Rhyngwladol y Llyfr. Y llyfrau sydd am fy nenu i heddiw!
Roeddwn i'n trafod pynciau ar gyfer rhaglen "O'r Bae" yfory a chafodd y cynhyrchydd, Glesni Jones, y syniad o ofyn i'r panelwyr pa lyfrau oedd wedi cael y dylanwad mwyaf arnyn nhw. Nid eu hoff lyfrau, sylwch, ond y rhai mwyaf dylanwadol. Syniad da. Gwnawn hynny.
A dyma fi'n gofyn y cwestiwn i mi fy hun a sylweddoli bod un o'r llyfrau cafodd y dylanwad mwyaf arnaf hefyd yn un rwy'n ei gasau!
Llyfr gan hanesydd o'r enw Arthur Mee oedd hwn. Yn ddigon rhyfedd roedd 'na ddau hanesydd a'r enw yna yn ysgrifennu ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif. Roedd un yn medru'r Gymraeg ac yn arbenigo ar hanes Sir Gar. Roedd y llall yn awdur ar sawl llyfr a chyfnodolyn i blant oedd yn mawrygu Prydain a'i hymerodraeth.
Yr ail un oedd yn gyfrifol am yr "Arthur Mee Book of Heroes" - llyfr yr oeddwn yn pori trwyddo'n aml pan yn blentyn - yn bennaf oherwydd y platiau lliwgar a'r bennod olaf ynghylch arwyr oedd yn "ordinary folk". Roedd y straeon yn y bennod honno yn afaelgar ac yn ysbrydoledig. Roeddent yn llawer mwy diddorol na'r straeon diflas a difflach ynghylch Wellington, Picton, Kitchener a'u tebyg.
Cafodd y llyfr ddylanwad arnaf am ddau reswm. Yn gyntaf fe daniodd diddordeb oes mewn hanes ynghyd ac ymwybyddiaeth bod 'na fwy nac un fersiwn o'r gorffennol. Yn ail, perodd i mi gwestiynu a bod yn amheus ynghylch hierarchaeth a dosbarth. Mae hynny'n reddf ddefnyddiol i newyddiadurwr.
Ymhlith y gwesteion ar "O'r Bae" yfory mae'r hanesydd Elin Jones sydd wrthi'n arwain adolygiad o'r ffordd y mae hanes Cymru'n cael ei dysgu yn ei hysgolion. Mae'r adolygiad bron yn sicr o ddylanwadu ar ba ffordd y bydd cenedlaethau o blant yn gweld hanes eu gwlad a gellir dadlau bod y canfyddiad o hanes yn sylfaen i genedligrwydd.
Oherwydd bod y gwaith ar ei hanner ni fydd modd gofyn i Elin ynghylch yr adolygiad ond mae'n bosib y bydd ei dewis o lyfrau'n ddadlennol!