Polisi Preifatrwydd Plant y ´óÏó´«Ã½ O dan 13 oed
P'un a ydych chi ar y rhyngrwyd yn gwylio'ch hoff bennod o Rownd a Rownd am yr unfed tro ar bymtheg neu'n ymarfer eich dynwarediad o Elin Fflur yn eich ystafell wely, mae angen preifatrwydd ar bob un ohonom.
Dyna pam ein bod ni yn y ´óÏó´«Ã½ wedi creu'r polisi preifatrwydd hwn. Efallai y byddwch am ddarllen drwyddo gyda'ch unbeniaid drwg (a elwir hefyd yn 'oedolion').
YnglÅ·n â'r ´óÏó´«Ã½
Y ´óÏó´«Ã½ yw prif ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus y byd - sy'n ffordd grand o ddweud ein bod yn gwneud pethau sy'n mynd ar eich teledu, ffôn symudol a radio. Wyddoch chi, eich holl ffefrynnau, fel Ffeil, Stwnsh, Hansh a Hacio. Mewn gwirionedd, rydyn ni’n gwneud llawer o raglenni. Rydyn ni'n brysur iawn.
Beth yw 'data personol'?
Data personol yw unrhyw wybodaeth amdanoch chi. Gall fod yn bethau cyffredin, fel eich enw a'ch dyddiad geni, neu bethau mwy diddorol, fel y ffaith bod Cyfarwyddwr Cyffredinol y ´óÏó´«Ã½ yn dal i gysgu gyda'i dedi.
Pam ydych chi'n casglu ein data personol? Busneslyd ydych chi?
Dydyn ni ddim yn fusneslyd!!! Er, os oes gennych chi unrhyw hanesion da, ysgrifennwch atom.
Rydyn ni’n casglu eich data personol fel y gallwn wneud y ´óÏó´«Ã½ yn fwy o hwyl ac yn fwy diddorol i chi! Er enghraifft, os ydych chi'n cymryd rhan yn un o'n cystadlaethau anhygoel, bydd angen i ni wybod rhai pethau amdanoch chi, fel eich enw, e-bost, neu gyfeiriad cartref, fel y gallwn ni anfon eich gwobrau atoch chi. Rydyn ni hefyd wrth ein boddau pan fyddwch chi'n anfon pethau rydych chi wedi'u creu, fel llun neu ffotograff y gallwn ni ei ddefnyddio ar raglen ´óÏó´«Ã½.
OND! Rydyn ni’n gwybod bod eich data personol yn bwysig. Felly, mae llawer o bethau difl ... rheolau diogelu data pwysig iawn y mae'n rhaid i ni eu dilyn pan fyddwn ni’n casglu, defnyddio a chadw eich data personol. Ond rydyn ni'n addo dweud wrthych chi bob amser pam a sut rydyn ni'n mynd i'w ddefnyddio.
Yn bwysicaf oll, rydyn ni bob amser yn cadw eich data personol yn ddiogel.
Gawn ni weld a allwch chi adnabod y bobl hyn o dri darn o ddata personol.
Pryd mae'r ´óÏó´«Ã½ yn casglu ac yn defnyddio fy nata personol?
Gadewch i mi roi rhai enghreifftiau i chi. Cofiwch, os ydych o dan 13 oed, yna mae'n rhaid i'r bobl fawr ('oedolion') sy’n byw efo chi gadarnhau eu bod yn hapus i chi ei rannu gyda ni.
Eich Cyfrif ´óÏó´«Ã½
Mae'r holl bethau rydych chi'n hoffi eu gwylio yn barod ac yn aros amdanoch chi ar iPlayer ar unrhyw adeg. Ond bydd angen cyfrif ´óÏó´«Ã½ arnoch i gael mynediad ato.
Os ydych o dan 13 oed, bydd angen i'ch oedolion wneud cyfrif ar eich rhan. Byddwn yn gofyn iddyn nhw am rywfaint o'ch data personol, fel eich enw defnyddiwr a'ch pen-blwydd, a byddwn hefyd yn gofyn i chi am eich rhywedd (gwryw / benyw/arall), ond peidiwch â phoeni, does dim rhaid i chi roi'r wybodaeth honno i ni os nad ydych chi eisiau.
Cystadlaethau'r ´óÏó´«Ã½
Mae gan y ´óÏó´«Ã½ lawer o gystadlaethau anhygoel. Bydd gan bob cystadleuaeth ei 'hysbysiad preifatrwydd' ei hun a fydd yn dweud wrthych chi pa ddata personol y bydd ei angen arnoch chi, a sut y bydd y ´óÏó´«Ã½ yn ei ddefnyddio. Felly gwnewch yn siŵr eich bod chi (neu'ch oedolyn) yn ei ddarllen cyn i chi gymryd rhan!
Cwcis
O, ydi hi’n amser egwyl yn barod? Gymra i fisgeden siocled efo darnau mawr ychwanegol o siocled os gwelwch yn dda!Ìý
O, ia, iawn. Darnau o wybodaeth ydi’r cwcis technegol yma y mae gwefannau’n eu gosod ar ffôn, tabled neu gyfrifiadur. Mae gwahanol gwcis yn gwneud gwahanol bethau. Mae rhai yn gwneud i wefan y ´óÏó´«Ã½ weithio. Mae eraill yn eich helpu i gofio pa bennod o Malory Towers rydych chi wedi’i gwylio ar iPlayer. Does yr un ohonyn nhw’n flasus.
Pan fyddwch chi’n gofyn am fynd ar un o'n sioeau teledu neu radio, neu’n anfon pethau atom i'w defnyddio.
O, ydych chi'n mynd ar un o'n sioeau ni??? Ydych chi'n mynd i fod yn enwog??? Ga i eich llofnod? RWY'N GYFFROUS IAWN DROSOCH CHI!!!!!Ìý
Os cewch eich dewis i fynd ar sioe deledu (www!), neu os ydych chi’n anfon rhywbeth, fel llun neu stori i ni ei defnyddio, mae gennym 'Hysbysiad Preifatrwydd i Gyfranwyr' sy'n dweud wrthych sut y byddwn yn defnyddio eich data personol. Os ydych chi am ei ddarllen nawr, gallwch ddod o hyd iddo yma– gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ei ddarllen gyda'ch oedolion!Ìý
Weithiau bydd gan sioe deledu neu radio eu hysbysiad preifatrwydd arbennig eu hunain, dim ond ar gyfer y sioe honno. ByddÌý yn dweud wrthych yn union sut y byddan nhw’n defnyddio'ch data personol ar y sioe benodol honno.Ìý
Pan fyddwch yn gwneud sylwadau ar ein gwefan
Rydyn ni wrth ein bodd yn clywed eich syniadau. Er enghraifft, pan fyddwch chi'n ysgrifennu aton ni i ddweud wrthym ba mor ddoniol a clyfar ydyn ni, a faint ydych chi wedi WIR fwynhau darllen ein Polisi Preifatrwydd gwych.Ìý
Bydd angen i chi fod wedi mewngofnodi i'ch Cyfrif ´óÏó´«Ã½ i wneud sylwadau ar ein gwefan. Os ydych chi o dan 13 oed, byddwn yn anfon neges at eich oedolyn i ddweud eich bod wedi gwneud sylwadau ar rywbeth, ac rydyn ni hefyd yn gwirio sylwadau cyn i ni eu postio. Bydd y sylw a bostiwyd yn dangos eich enw defnyddiwr a'r hyn rydych wedi'i ysgrifennu. Cofiwch, bydd unrhyw un yn gallu gweld eich sylw unwaith y bydd wedi'i bostio! Felly peidiwch â defnyddio geiriau anghwrtais fel pŵ neu ben ôl!
Gyda phwy ydych chi'n rhannu fy nata personol?
Weithiau mae'n rhaid i ni rannu eich data personol, ond dim ond pan fyddwch chi'n dweud ei fod yn iawn y byddwn ni'n gwneud hynny, neu pan fydd y gyfraith yn dweud bod yn rhaid i ni wneud hynny. Ac rydyn ni’n sicrhau pan fydd eich data yn cael ei rannu â rhywun arall, y byddan nhw’n ei gadw'n ddiogel hefyd.Ìý
Rydyn ni’n addo na fyddwn ni byth yn rhannu eich data personol heb reswm da.
Am ba hyd y byddwch chi'n cadw fy nata personol?
Byddwn bob amser yn dweud wrthych am ba mor hir y byddwn yn cadw eich data personol. Byddwn ond yn cadw eich data personol cyhyd â bod gennym reswm da, a byddwn yn ei ddileu os nad oes ei angen arnom mwyach.Ìý
Beth yw fy hawliau?
Mae gennych hawliau o dan y gyfraith diogelu data.
Mae gennych chi a'ch oedolion yr hawl o dan y rheolau i:
Gael gwybod sut rydym yn defnyddio eich data personol.
Gofyn am weld y data personol sydd gennym
Gofyn am newid data personol rydych chi'n meddwl sy'n anghywir
Gofyn i ni ddileu data personol pan nad oes ei angen mwyach
Gofyn i ni ddefnyddio eich data personol mewn ffyrdd penodol yn unig
Dweud wrthym nad ydych am i'ch data personol gael ei gasglu.Ìý
Gallwch chi a'ch oedolion ddarganfod mwy ar dudalen 'Beth yw fy hawliau?' y ´óÏó´«Ã½.Ìý
Sut ydw i'n cysylltu â'r ´óÏó´«Ã½?
Byddem wrth ein bodd yn clywed gen ti! Cadwa mewn cysylltiad, ia?Ìý
Mae gan y ´óÏó´«Ã½ berson o'r enw Swyddog Diogelu Data sy'n sicrhau ein bod i gyd yn dilyn y rheolau yma ac yn defnyddio'ch data personol yn y ffordd gywir bob amser. Os ydych chi am ofyn unrhyw gwestiynau am eich data personol, eich hawliau, neu unrhyw un o'r pethau difyr a diddorol iawn sydd ar y dudalen yma, gellir cysylltu â'r Swyddog Diogelu Data:
Post: ´óÏó´«Ã½ Data Protection Officer, c/o First Floor, Wogan House, 99 Great Portland Street, London, W1W 7NY
Mae sefydliad o'r enw Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn sicrhau bod y ´óÏó´«Ã½, a'r holl sefydliadau eraill sy'n cadw data personol yn dilyn y rheolau. Gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os nad ydych yn credu bod y ´óÏó´«Ã½ yn dilyn y rheolau.
Ìý
Ìý