Beowulf 3D - Da, da, Da . . .
Y s锚r Ray Winstone, Angelina Jolie, Crispin Glover, Anthony Hopkins, John Malovich.
Cyfarwyddo
Robert Zemeckis
Sgrifennu Neil Gaiman, Roger Avary.
Hyd 114 munud
Adolygiad Shaun Ablett
Rwy'n falch dweud bod technoleg 3D n么l at ei orau. Ni fu'r dechnoleg hon yn boblogaidd iawn o'i defnyddio mewn ffilmiau yn y gorffennol ond dylai Beowulf, ffilm newydd Robert Zemeckis, blesio pawb.
Mae'n stori sy'n ymestyn yn 么l i 372 AD lle mae Hrothgar, Brenin Denmarc, (Anthony Hopkins) yn galw ar Beowulf, rheolwr y Gaets, (Ray Winston) i ladd yr anghenfil sy'n lladd pobl y wlad.
Wedi i Beowulf ladd yr anghenfil ac ennill tir ac aur am ei ymdrech, cawn wybod taw Grendel oedd enw'r anghenfil ac iddo gael ei eni i ladd.
Yn wir nid oedd ganddo ddewis ond lladd cymaint o bobl am mai hynny oedd yn naturiol iddo.
Ond, wedyn, rhaid i Beowulf ladd mam Grendel (Angelina Jolie), sy hefyd yn rhyw fath o anghenfil.
Fodd bynnag, mae prydferthwch mam Grendel yn rhwystro Beowulf rhag gwneud hynny ac mae rhyw fath o fargen yn cael ei tharo rhwng y ddau wrth iddi hi addo gwneud Beowulf yn Frenin Denmarc os caiff ei harbed.
Cawn berfformiadau ardderchog gan Ray Winston, Anthony Hopkins ac Angelina Jolie gyda'r tebygrwydd rhwng y cymeriadau 3D a'r actorion go iawn yn anhygoel - arwydd sicr o ddatblygiad y dechnoleg hon.
Yn achos Angelina Jolie, er enghraifft, gallwn gredu weithiau taw hi yn wir oedd ar y sgrin yn chwarae mam Grendel.
Ond perfformiad Ray Winston a werthodd y ffilm i mi ac er nad yw mor gyhyrog 芒 hynny yn go iawn mae ei ddelwedd yma yn ardderchog.
Gall pawb uniaethu 芒 Beowulf gan ei fod yn ddyn cryf, hyderus, ac yn fodlon aberthu ei hunan er lles eraill.
Ydyn, mae pawb yn hoffi cymeriad fel hyn mewn ffilmiau.
Bu Robert Zemeckis, y cyfarwyddwr, yn gysylltiedig 芒 nifer o ffilmiau adnabyddus iawn, fel Forrest Gump gyda Tom Hanks ac fe fu'n arbrofi gyda'r math o dechnoleg a welir yn Beowulf gwpwl o flynyddoedd yn 么l gyda Polar Express lle'r oedd Tom Hanks eto yn brif gymeriad.
Byddwn i'n cymell Beowulf i unrhyw un. Mae'n enghraifft o'r genhedlaeth nesaf o ffilmiau a'r rhan sy'n dangos y dechnoleg honno ar ei gorau yw Beowulf yn cael ei erlid gan ddraig enfawr gan greu tensiwn ardderchog.
Cyhoeddir yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion ac i wybod sut y gallwch ennill 拢30 am ysgrifennu - Cliciwch
|