Changeling (2008) Wyneb perffaith ffilm afaelgar
Changeling
Y s锚r
Angelina Jolie, John Malkovich
Cyfarwyddo
Clint Eastwood
Sgrifennu
J Michael Straczynski
Hyd
141 munud
Adolygiad Lowri Haf Cooke
Gwewyr mam a'i phlentyn Mae Changeling yn ddrama rymus am ymgyrch ddiflino mam i ddarganfod ei phlentyn coll, gyda'r frwydr fwyaf yn erbyn yr awdurdodau sy'n gwrthod ei chredu.
Seren y ffilm ydy Angelina Jolie, sy'n portreadu Christine Collins, mam sengl yn Los Angeles y 1920au.
Mae'n dychwelyd adref un pnawn i ddarganfod bod Walter, ei mab naw oed, ar goll. Mae hi'n ffonio'r heddlu, sy'n oedi cyn dechrau chwilio amdano a rhaid aros misoedd lawer nes y daw'r alwad gan yr awdurdodau - sydd eisoes dan yr ordd am eu polis茂au treisgar - yn dweud iddyn nhw ddarganfod ei mab yn fyw ac yn iach.
Siom aduniad Gyda'r wasg yn bresennol ar achlysur yr aduniad mawr mae pawb wrth eu bodd - pawb ond Christine sydd yn gwybod yn reddfol nad dyma'i mab!
Yn anffodus, mae'n well gan yr Is-Gapten JJ Jones (Jeffrey Donovan) gredu ei sbin bositif ei hun ac felly mae'n siarsio Christine i ystyried y posibilrwydd i'w mab aeddfedu cryn dipyn yn ystod y chwe mis a chaiff hithau ei darbwyllo i fynd 芒'r dieithryn adref 芒 hi.
Ac yno caiff gadarnhad pendant nad ef yw Walter.
Gwadu'r gwir Yn anffodus, parhau i wadu'r gwir mae'r heddlu, gan ddadlau y dylai Christine fodloni fod ganddi blentyn o gwbl a phan benderfyna'r fam fynd 芒'i hachos ymhellach caiff ei thaflu i ward seiciatrig am wrthod "cydymffurfio".
Daw achubiaeth o fath i Christine diolch i ymgyrchu brwd gweinidog carismataidd, Gustav Briegleb (John Malkovich) - dyn sy'n wrthwynebydd cyhoeddus i bolis茂au heddlu pwdr Los Angeles.
Yn y cyfamser, daw eglurhad posib am y diflaniad yn sgil darganfyddiad erchyll, sy'n arwain at gymhlethdodau pellach.
Mae'n stori anhygoel, gyda sawl tro annisgwyl yn y gynffon ond y peth mwyaf dychrynllyd am y ffilm ydy fod yr hanes yn seiliedig ar stori wir.
Carpedi coch i Jolie Mae Angelina Jolie eisoes wedi derbyn enwebiad Golden Globe am yr actores orau, arwydd cryf y bydd hi ar garped coch pob seremoni wobrwyo rhwng nawr a'r Oscars ac, yn wir, mae hi'n arbennig o dda fel y fam sy'n gwrthod rhoi'r gorau i chwilio am ei mab.
Tra'n hyrwyddo'r ffilm, dywedodd y cyfarwyddwr, Clint Eastwood, bod gan Angleina Jolie yr wyneb hardda ar y blaned, ac mae'r camera yn cadarnhau hynny.
Dywedodd hefyd i hynny dueddu i felltithio'i gyrfa fel actores o bwys ac o weld y ffilm hon mae'n anodd anghytuno 芒'r dyfarniad hwnnw.
Yn wir, yr unig feirniadaeth sydd gen i am ei pherfformiad ydy ei bod hi, Angelina, a'r cymeriad Christine, rywsut yn rhy berffaith.
Does na ddim un golygfa lle gwelwn ni ddehongliad llai nag angylaidd ganddi, o ran ei gweithredoedd a'i hymddangosiad ac yn hynny o beth mae'n anodd cydymdeimlo'n llwyr 芒'r cymeriad.
Ac mae hynny'n drueni gan mai dyma un o'r straeon cryfaf o Hollywood erstalwm iawn.
Gwledd o berfformiadau Serch hynny, mae Changeling yn cynnwys gwledd o berfformiadau grymus, sgript gadarn iawn gan J Michael Straczynski ac awyrgylch sy'n ymylu ar film noir diolch i'r gerddoriaeth hudolus a gyfansoddwyd, fel arfer, gan y cyfarwyddwr ei hun.
Mae wastad yn bleser gwylio ffilm gan Clint Eastwood- actor sydd wedi profi llwyddiant ysgubol fel cyfarwyddwr gyda ffilmiau fel Bridges of Madison County, Mystic River a Million Dollar Baby.
Ac o gofio ei lwyddiant y llynedd yn cipio'r Oscar am gyfarwyddo'r ffilm ryfel Letters From Iwo Jima, synnwn i ddim na welwn ni'r hen Clint yn troedio'r un carpedi cochion eto dros y misoedd nesaf - a wyneb perffaith Angelina wrth ei ochr.
|
|