Cwcw (2008) Ennill gwobr - ond yn siomi
Y S锚r
Eiry Thomas, Rhys Richards, Aneirin Hughes
Cyfarwyddo
Delyth Jones
Sgwennu Delyth Jones
Hyd
165 munud
Adolygiad Lowri Haf Cooke
Cwcw oedd yr unig ffilm Gymraeg yng ng诺yl ffilm a cherddoriaeth ryngwladol Soundtrack, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd rhwng Tachwedd 26 a 29 2008 ac roeddwn i'n llawn brwdfrydedd i'w gweld hi am sawl rheswm.
Ennill gwobr Yn un peth, roedd y cynhyrchiad eisoes wedi ennill gwobr y Ffilm Ryngwladol Orau yng Ng诺yl Ffilmiau De Affrica yn gynharach eleni ac mae'n cynnwys sgript gan sgwenwraig dalentog iawn a pherfformiadau gan rai o actorion gorau Cymru.
Yn anffodus, profiad hynod siomedig fu gwylio'r ffilm sy'n dilyn brwydr un sgwenwraig i dorri'n rhydd o hualau ei pherthynas 芒'i g诺r alcoholig, ond efallai'n fwy penodol, o ddryswch ei meddwl ei hun.
Yn wir, gellir ystyried "yr hunan" yn bedwerydd cymeriad yn y cynhyrchiad sgitsoffrenig hwn am Jane Jones (Eiry Thomas), sy'n gweithio ar gyfres sebon o'r enw Dr Gareth ac yn briod 芒'r actor alcoholig Sam Llywelyn (Rhys Richards) sy'n chwarae'r meddyg teulu arwrol hwnnw.
Sychu'n grimp Mae ffynnon greadigol Jane wedi sychu'n grimp, diolch yn bennaf i'w pherthynas dreisgar 芒'i g诺r ac yn dilyn un digwyddiad dychrynllyd, mae hi'n rhedeg i ffwrdd gydag enaid hoff cytun, John Jones (Aneirin Hughes) - optegydd sydd hefyd wedi dyheu erstalwm am ddihangfa.
Dilynwn ymdrechion y ddau i ail-greu eu hunain ym mhentref delfrydol I锚t y Bompren, hi fel Martha Olivia - meddyg esgyrn y traed gyda grymoedd iachusol - ac yntau fel y saer coed Morgan Oliver!
Er i'r ddau lwyddo i fyw'r ffantasi hon yn eu bwthyn perffaith am gyfnod buan iawn y daw cwmwl du o'r gorffennol dros eu llawenydd ar ffurf meddyg teulu newydd, gan ddrysu Jane/Martha ymhellach.
I ganol hyn oll, teflir dehongliadau o gyfryngis Caerdydd a'u dyheadau ystrydebol o fyw yn y wlad; cyfeiriadau cyson at nawddsant awduresau trasig, Virginia Woolf (hoff sgwenwraig Jane) a chwestiynu parhaol yngl欧n 芒'r gwahaniaeth rhwng celwydd a ffantasi.
Peri dryswch Yr hyn sy'n peri dryswch yw nad yw'r cynhyrchiad fel pe byddai'n gwybod yn iawn pa fath o ffilm yw hon i fod - pwynt, yn wir, a godir gan y prif gymeriad ei hun.
Nid yw'n si诺r iawn 芒 phwy y dylai'r gwyliwr uniaethu - ef neu hi.
Mae traean cynta'r ffilm yn canolbwyntio ar y ddeuoliaeth rhwng byd delfrydol yr opera sebon a realiti dychrynllyd y profiad o fyw gydag alcoholig ac mae'n rhaid dweud i'r rhan hon lwyddo'n aruthrol i hoelio'r sylw a pherfformiad Rhys Richards fel yr actor slic sydd yn alci sick yn ysgubol o dda.
Tanlinella'r pwynt nad oes synnwyr yn perthyn i alcoholiaeth, nac ychwaith i brofiad y partner, sydd yn aml yr un mor ddibynnol ar y claf ag yw yntau arno ef/hi.
Giamocs geiriol Mae Eiry Thomas hefyd yn chwarae ei rhan fel y sgwenwraig ddryslyd ag ofn marwol o'i g诺r i'r dim, ond erbyn inni gyrraedd man canol y ffilm - y cyfnod ffantasiol o fyw breuddwyd sy'n graddol suro wrth i "realiti" darfu ar y ddelfryd- mae giamocs geiriol y sgript yn drysu'r gwyliwr yn llwyr yn hytrach na'i hudo ymhellach.
Ceir anawsterau pellach wrth i'r gyfarwyddwraig geisio dod 芒'r prif gymeriad yn 么l i'w realiti ei hun a thrwy hynny gynnig diweddglo pendant.
Ond yma hefyd cynigir rhestr arteithiol o faith o ddewisiadau ac erbyn imi weld y geiriau gobeithiol, "Something Wonderful is About to Happen" bu bron imi lafarganu mewn rhyddhad pan ddilynwyd hynny gan ddiwedd y ffilm.
Colli pob cydymdeimlad Yr hyn a'm cythruddodd i fwyaf ac a wnaeth imi golli pob cydymdeimlad 芒'r prif gymeriad, oedd y tindroi geiriol a thuedd nawddoglyd y sgript i ailadrodd athronyddu metaffisegol Jane/Martha hyd syrffed, fel petai'n cymryd yn ganiataol na fyddai'r gwyliwr cyffredin yn deall beth yw "baich y sgwennwr".
Ar un pwynt yn y ffilm, ar 么l i Jane gael y sac gan ei chynhyrchydd, Gordon (Wynford Ellis Owen), mae hi'n mynnu mai'r unig reswm y mae e'n parhau i ddyrchafu Dr Gareth fel prif gymeriad perffaith y gyfres gawslyd yw am ei fod yn ymgorfforiad o'i super-ego ei hun.
Fondue Rhyw a Deinasors Mae'n werth nodi mai Delyth Jones a gafodd gymaint o glod am sgrifennu a chynhyrchu'r gyfres swreal Fondue, Rhyw a Deinasors ar S4C rai blynyddoedd yn 么l sydd yma'n cyfarwyddo ei sgript ffilm ei hun - a hynny am y tro cyntaf.
Mewn sesiwn cwestiwn ac ateb wedi'r dangosiad dywedodd iddi dreulio pum mlynedd o'i bywyd yn gweithio ar y cynhyrchiad hwn - o'r sgwennu cychwynnol i'r cyfnod 么l-gynhyrchu.
Yn dilyn hyn, dywedodd yr actor Aneirin Hughes mai profiad pur anghyffredin yw cael holi'r awdur ar gynhyrchiad arferol ac felly roedd hi'n braf cael troi at y sgwenwraig gyfarwyddwraig pan oedd ganddo unrhyw gwestiynau am y cymeriad.
Gorffennodd trwy ddweud yn ysgafn mai'r unig beth negyddol am hynny oedd na chafodd wneud unrhyw newidiadau i'r cymeriad. Mae gen innau ofn bod hynny'n dweud cyfrolau.
Llwyddiannau eraill Does gen i ddim gwrthwynebiad i ffilm sydd yn meiddio herio confensiynau, neu'n chwarae 芒'r syniad traddodiadol o genre. Yn wir, does gen i ddim gwrthwynebiad ychwaith i sgwennwr yn sgwennu ffilm am y broses arteithiol (ar adegau) o sgwennu.
Cynigodd The Shining, er enghraifft, astudiaeth hynod lwyddiannus o ddylanwad melltigedig writer's block ar un awdur a'i deulu, ac roedd Adaptation yn ffilm wefreiddiol gan yr awdur Charlie Kaufman am helyntion sgwennwr sgriptiau o'r enw Charlie Kaufman.
A dydw i ddim yn collfarnu penderfyniad Delyth Jones i blethu geiriau Virginia Woolf 芒 stori un awdures wrth iddi frwydro i ganfod ei llais ei hun, nac ychwaith i gynnig dehongliad dewr o effeithiau alcoholiaeth ar berthynas.
Ond mi ydw i'n cwestiynu i ba raddau mae na le i gynnwys yr holl elfennau hyn mewn un ffilm.
Apelio at bwy? Mae'n gas gen i feirniadu ffilm Gymraeg, yn enwedig un gan awdur mor greadigol ond mae Cwcw ymhell o fod yn ffilm lwyddiannus.
Mae iddi syniadau diddorol, actorion cryf, cerddoriaeth hyfryd gan John Hardy ac ambell olygfa wirioneddol wych - heb s么n am berlau o linellau - ond fel cyfanwaith mae'n codi cwestiwn pwysig; at bwy mae'r ffilm yma'n mynd i apelio?
Wel, ac eithrio ambell i sgwenwraig rwystredig ar opera sebon boblogaidd, does gen i ddim syniad!
|
|