The Da Vinci Code (2006) Mwy o egluro nac o gyffro
Y s锚r
Tom Hanks, Audrey Tatou, Ian McKellen, Paul Bettany, Jean Reno
Cyfarwyddo
Ron Howard
Sgrifennu
Akiva Goldsman - wedi ei sylfaenu ar nofel Dan Brown
Hyd
149 munud
Sut ffilm
Wedi'r holl ddisgwyl a darogan, addasiad ffyddlon, diddychymyg ac eithaf digyffro o nofel sydd wedi bod yn gwerthu fesul sawl miliwn mewn sawl iaith
Y stori
Go brin bod angen manylu ond dyma gyflwyniad byr ar gyfer y rhai hynny gafodd eu cloi mewn cwpwrdd gan eu rhieni y ddwy flynedd ddiwethaf:
Yn dilyn llofruddiaeth erchyll curadur hynafol yn amgueddfa'r Louvre ym Mharis gelwir ar y symbolegydd, Robert Langdon (Tom Hanks), Athro Symbolaeth Grefyddol ym MhrifysgolHarvard, i archwilio lleoliad y lladd.
Mwyaf sydyn mae dan amheuaeth ei hun ac fe'i gorfodir ef a chryptolegydd heddlu Paris, Sophie Neveu (Audrey Tautou) i ffoi rhag yr heddlu a Silas (Paul Bettany), mynach albino sydd ar eu gwarthaf er mwyn eu lladd i ddiogelu cyfrinach fod disgynyddion i briodas rhwng Crist a Mair Magdalen yn dal ar y ddaear.
Y canlyniad Arf pellach i'r rhai hynny sy'n mynnu nad yw'r ffilm byth gystal a'r llyfr y'i sylfaenwyd arno. Yn yr achos hwn bydd hyd yn oed y rhai hynny sydd heb ddarllen y llyfr yn gwybod fod hynny'n wir!
Fodd bynnag bydd rhywfaint mwy o foddhad i'r rhai sydd heb ddarllen y nofel. Gall dwy awr a hanner fod yn amser hir iawn, iawn, i'r rhai hynny sy'n gwybod beth sy'n mynd i ddod nesaf!
Gyda Hanks a Tautou ar ffo o un argyfwng i'r llall yn ceisio cadw ar y blaen i Silas a'r plismon taer, Bezu Fache (Jean Reno) mae sawl golygfa, fely rhai gyda'r holl geir yn cyrraedd fel cwn wedi gwynto gast, mewn peryg o'n hatgoffa o'r Keystone Cops - ond heb y doniolwch.
Heb os, mae'r Da Vinci Code yn llawer rhy hir ac yn hesb o unrhyw ddychymyg neu weledigaeth newydd a fyddai wedi ei gwneud yn werth chweil troi'r nofel yn ffilm. Fel y dywedodd un adolygydd, mae troi nofel yn ffilm yn golygu mwy na darllen y llyfr o flaen camera.
Ambell i farn "Mae'n gorwedd ar y sgr卯n fel matres gwerth $100 miliwn," meddai adolygydd y 大象传媒.
"Sublimely implausible," meddai'r Guardian. Holai adolygydd arall, sut y gallai'r dadleuol fod mor ddiflas.
"Mor gyffrous a gwylio eich rhieni yn chwarae Sudoku," meddai adolygydd arall.
Cwyn gyson yw fod y ffilm yn rhy eiriog gyda gormod o olygfeydd yn ymwneud ag un cymeriad yn egluro rhyw bwynt hanesyddol i'r llall. Byddai llai o bwyslais ar egluro a mwy o bwyslais ar gyffroi wedi bod yn fendith.
Ond wedi dweud hyn oll, peidiwch a synnu clywed mai un o'r ffilmiau hynny fydd hon a waldiwyd gan yr adolygwyr ond a blesiodd gynulleidfaoedd wrth y miloedd.
Perfformiadau Fel darn o does gyda gwallt gosod y disgrifiwyd Hanks gan adolygydd gwefan ffilm Saesneg y 大象传媒. Disgrifiwyd ef a Tautou fel lluniau cardbord ohonynt eu hunain gan adolygydd y Guardian. Nid awn i ffraeo am hynny gan fod y berthynas rhwng y ddau yn un eithriadol o glaear ac yn ymylu ar fod yn ddideimlad hyd yn oed.
Dywedir fod Langdon yn cael ei ddisgrifio yn y nofel fel rhywun tebyg i Harrison Ford ond yn wir mae Hanks ymhell o fod yn Indiana Jones a The Da Vinci Code ymhell o fod yn Indiana Jones and the Last Crusade o ran cyffro a dychymyg.
Dihiryn hynod siomedig yw Paul Bettany a'i duedd i boenydio a chwipio ei hun i'r fath raddau y mae'n codi mwy o ofn arno'i hun nag arnom ni.
Yr unig gymeriad ag unrhyw liw iddo ydi'r ysgolhaig egsentrig, Syr Leigh Teabing (Ian McKellen), ond dirywia yntau yn barodi ohono'i hun erbyn ei olygfeydd olaf.
Yr anhawster pennaf, fodd bynnag, yw anallu'r ddau brif gymeriad i ennyn dim o'n cydymdeimlad na gwneud inni deimlo am funud y byddai ots gennym beth ddigwydd iddynt.Rhywbeth na fydd neb yn cwyno amdano, fodd bynnag, yw llais y soprano Elin Manahan Thomas fel rhan o gerddoriaeth y ffilm. Arhoswch yn eich sedd ar ddiwedd y ffilm i fwynhau cyfoeth llais y Gymraes.
Rhai geiriauFydd hon ddim yn ffilm gaiff ei chofio am ei sgript felly mae un llinell gan Syr Leigh Teabing yn disgleirio fel gem: "Os yr ydych am ein stopio bydd yn rhaid ichi ein saethu - ac fe allwch ddechrau efo fo," meddai gan gyfeirio at ei was.Yn anfwriadol yr oedd rhywun yn gwenu am y llinellau: "Mary Magdalen was Jesus' wife." "That is an old wives' tale."
Gwerth ei gweld? Mae'r holl sylw gafodd y llyfr yn ei gwneud yn ddyletswydd, bron. Ond y rhai sydd heb ddarllen y llyfr gaiff y mwyaf o fwynhad tra bydd y rhai fwynhaodd y nofel o bosib yn diolch i Ron Howard gadw mor gaeth at honno.
Cysylltiadau Perthnasol
Gwych fel nofel - gwael fel credo
Parodrwydd pobl i gredu ffantasi
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|