|
|
Fy
Nghawl
fy Hun
Adolygiad Gwyn Griffiths |
Hwyrach i mi fod yn ffodus yn y man y cefais fy addysg uwchradd. Ni
fedraf achwyn am ddiffyg awyrgylch Gymreig Ysgol Sir Tregaron, er
mai Saesneg oedd iaith y dosbarth. Ond tros y blynyddoedd clywais
gwyno mawr gan gynifer o gyfeillion, rhai yn bobl amlwg iawn, a gawsant
eu haddysg yn Ysgol Tytandomen. Mawr fu鈥檙 lladd arni, ei diffyg Cymreictod
a phrinder cydymdeimlad a thraddodiadau鈥檙 ardal.
Mae tipyn o labyddio, hefyd, ar yr hen ysgol gan y bardd a鈥檙 gwr hynod
aml-ddoniau hwnnw, Gerallt Lloyd Owen, yn ei hunan-gofiant, Fy
Nghawl Fy Hun. Ar gychwyn y drydedd bennod mae鈥檔 cofnodi digwyddiad
mewn gwers hanes, ac yntau, erbyn hynny, yn y chweched dosbarth. Mae鈥檙
athro鈥檔 gofyn iddo pa mor bell y medrai olrhain ei achau. Atebodd
Gerallt, "yn fy Saesneg fy hun", y medrai eu holrhain i Lywarch Hen
yn y chweched ganrif. Chwerthin yn goeglyd wnaeth yr athro. "But seriously,
boy, how far can you really trace your ancestors?"
Eglurodd Gerallt wrtho iddo gael y sicrwydd fod yr hyn ddwedodd yn
wir yn 么l neb llai na Bob Owen Croesor. Am yr athro, tebyg na wyddai
pwy oedd Bob Owen ac ni chlywsai am Lywarch Hen er i hwnnw - yn 么l
traddodiad - farw filltir neu ddwy o Ysgol Tytandomen.
Mae鈥檙 stori fach yna鈥檔 cyfleu llawer am gynnwys y gyfrol gyfoethog
hon. Y bachgen a godwyd yng nghanol "y pethe" yn y Sarnau lle鈥檙 oedd
Bob Lloyd yn frenin - "llond ty o ddiwylliant oedd". Meddyliwch amdano鈥檔
sgrifennu am R. Williams Parry a fu鈥檔 ysgol-feistr yn y Sarnau yn
1912-13. "Roedd Williams Parry wedi ymadael a鈥檙 Sarnau ddeng mlynedd
ar hugain cyn fy ngeni ac eto, nid gormodiaeth yw dweud ei fod yn
llechu ym mhob twll a chornel o鈥檓 plentyndod," meddai Gerallt. Ac
yr oedd yn amlwg fod Williams Parry dipyn o flaen ei oes fel athro
hanes - lawer mwy na鈥檙 gwr gafodd Gerallt yn chweched dosbarth Tytandomen.
A鈥檙 dylanwad hwnnw wedi goroesi degawdau.
鈥橰oedd barddoni i Gerallt, mor naturiol ag anadlu. Mor naturiol fel
pan gyfarfu Waldo Williams mewn Ysgol Haf yn Harlech daethant yn gyfeillion
a pharhau i lythyra鈥檔 achlysurol ar 么l hynny. Waldo oedd y tiwtor
a Gerallt yn yr ysgol o hyd.
Nid cyfrol am feirdd a barddoni mo hon o bell fordd. Mae鈥檔 llawn asbri鈥檙
pethau鈥檔 sy鈥檔 diddori pobl ifanc. Helyntion carwriaethol yn y coleg
a ph锚l-droed, er enghraifft. Ceir hanes rhai o鈥檌 gampau ef ei hun
ar y maes - a鈥檌 frawd Geraint, hefyd. Ac ambell dim caletach na鈥檌
gilydd, fel Cwm Tirmynach. "Roedd y rheiny mor ffyrnig nes eu bod
yn cadw o gyrraedd ei gilydd," meddai.
"Yn ddiweddarach, un a fu鈥檔 chwarae dros Gwm Tirmynach am lawer blwyddyn
oedd Elwyn Edwards a ddaeth wedyn yn brifardd ar 么l ffeirio clec asgwrn
am glec cynghanedd."
I ganol hyn i gyd daw dicter oherwydd Tryweryn. A dicter at ambell
ddarlithydd o Sais fu鈥檔 dan ar ei groen yn ei gyfnod yn y Coleg Normal.
Cyfeiria at bennaeth yr Adran Saesneg, gwr sarhaus ac anghynnes o鈥檙
enw Croker. Gresyn na fuasai, os yw鈥檔 fyw, fedru Cymraeg i ddarllen
yr hyn sydd gan Gerallt i ddweud amdano. Ond 鈥檙oedd eraill mwy hynaws
o lawer yn ddarlithwyr yn y coleg, fel y dramodydd Huw Lloyd Edwards.
Mae鈥檔 gwneud i rywun dristau, weithiau, o ganfod athrawon a darlithwyr
sy鈥檔 analluog i ddygymod 芒 disgyblion sy鈥檔 amlwg yn alluocach a mwy
disglaer na nhw. Yr oedd Gerallt, fe gofiwn, wedi ennill Cadair yr
Urdd cyn cyrraedd y coleg.
Mae鈥檙 gyfrol yn gorffen yn 1968 pan sefydlodd y comic Cymraeg Yr
Hebog ac yntau ar fin troi tua鈥檙 de i fod yn athro yn Ysgol Glyndwr,
yr ysgol breifat Gymraeg a sefydlwyd gan y dyn busnes a鈥檙 cenedlaetholwr
tanbaid, Trefor Morgan. Mae鈥檔 amlwg fod llawer mwy i ddod a chawn
edrych ymlaen am gyfrol arall ddifyr a blasus.
Cyhoeddwyd Fy Nghawl Fy Hun - Gerallt Lloyd Owen gan Gwasg
Gwynedd, Pris 拢6.95.
|
|
|