|
|
Gwyddau
Gregynog
gan Gerallt
Cerdd
mewn argraffiad cain
Dydd Iau, Mawrth 30, 2000
|
Yr
hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel "a fine late poem" gan y
diweddar R. Gerallt Jones yw cynnwys y cyhoeddiad diweddaraf o Wasg
Gregynog.
Yn un o gyhoeddiadau cain y wasg y mae'r gyfrol 16 tudalen yn costio
£35 ac wedi ei hargraffu ar bapur cotwm pur.
Dim ond 250 o gopiau sydd wedi eu hargraffu o
Gwyddau yng Ngregynog ac y mae gwaith celf gan Colin See-Paynton a
chyfieithiad gan Joseph Clancy.
Yn ogystal a bod yn fardd, nofelydd, storiwr a beirniad llenyddol
blaenllaw yr oedd R. Gerallt Jones hefyd yn warden Gregynog ar un
adeg a da gweld y wasg a leolir yn y plasty hardd ym Maldwyn yn ei
anrhydeddu gydag un o'i chyhoeddiadau.
Cyhoeddwyd y gerdd gyntaf yng nghylchgrawn yr Academi Gymreig, Taliesin,
y bu R. Gerallt Jones yn ei olygu gyda'r diweddar Bedwyr Lewis Jones
o 1987 tan 1992.
Yr oedd R. Gerallt Jones yn llenor cynhyrchiol iawn ac yn cyfrannu
i radio a theledu hefyd.
Americanwr yw Joseph P. Clancy. Dysgodd Gymraeg yn y chwedegau ac
y mae'n awdur nifer o gyfieithiadau o'r Gymraeg i'r Saesneg ganb gynnwys
dramau gan Saunders Lewis.
Y mae'n byw yn Aberystwyth gyda'i briod, Gerrie, sydd hefyd yn fardd
ac yn awdur straeon i blant.
Y mae Colin See-Paynton yn arlunydd sy'n gweithio o'r Rhiw yng nghanolbarth
Cymru ac y mae dra adnabyddus am ei ysgythriadau o fywyd gwyllt, yn
enwedig adar.
Dyma'r bumed gyfrol iddo ei darlunio ar gyfer Gwasg Gregynog.
Cynhyrchwyd y papur marmor ar gyfer claw y gyfrol gan Victoria Hall
o Norwich sydd wedi bod yn gwneud y math hwn o waith er 1989 gan ennill
iddi ei hun mewn sawl gwlad.
|
|
|