|
|
Nofel
dwy fil
Gomer
Nofel
dwy fil o bunnau
gan Owen Martell
Dydd Iau, Eebrill 13, 2000 |
Nofel
i bobol ifanc gan awdur ifanc.
Felly yr oedd y nofel a wobrwyd yng nghystadleuaeth dwy fil Gwasg
Gomer yn cael ei gwerthu yr wythnos diwethaf.
Awdur Cadw dy ffydd, brawd, gyda'i gamdreiglad bwriadol, ydi
Owen Martell 23 oed a fagwyd ym Mhontneddfechan, Cwm-nedd.
Bu'n ddisgybl yn Ysgol Gymraeg Cwm Nedd ac Ysgol Gyfun Ystalyfera.
Graddiodd yn Adran y Gymraeg, Aberystwyth gan ennill gradd uwch wedyn
yng Ngholeg Iesu Rhydychen.
Y tri beirniad a ddyfranodd fod ei nofel werth y dwy fil o bunnau
o wobr a gynigwyd gan Wasg Gomer am nofel gyntaf oedd, John Rowlands,
a enillodd yn ei ieuenctid gryn enw fel nofelydd Cymraeg blaengar
ac sydd hefyd yn feirniad llenyddol praff; Ffion Dafis y seren deledu
a Bethan Mai Matthews, golygydd llyfrau Cymraeg Gwasg Gomer.
Yr oedd y darn o feirniadaeth John Rowlands a anfonodd y wasg allan
gyda'r nofel gyhoeddedig yn addo'n dda.
". . . mae'r monologue interieure sy'n llifo dros y tudalennau
yn datgelu person miniog ei feddwl, llawn synnwyr anghyffredin, sinigaidd
un funud, eironig y funud nesaf, ac yn byrlymu gan hiwmor di-wên
ar adegau eraill. Mae'i synfyfyrion yn igam ogam, a'i feddwl ychydig
ar sgiw,'' meddai.
Ym meddwl y storiwr, Dafydd Gilley, y mae鈥檙 stori yn digwydd a dilyn
llif ei feddyliau ef ydym ni yn y nofel wrth iddo dafoli ei fywyd
a cheisio gosod rhyw lun arno.
Y mae tebygrwydd amlwg rhwng cefndir Gilley a chefndir yr awdur ei
hun gyda鈥檙 "blyrb" y byddai Gilley yn ei gynnwys ar glawr ei nofel
ef pe byddai鈥檔 sgrifennu un yn cael ei gynnwys ar ddalen 72 i鈥檔 hatgoffa,
mae鈥檔 amlwg, o gefndir yr awdur ei hun.
Yn amlwg mae鈥檙 awdur am awgrymu yn gryf mai ef sydd yn siarad trwy
Gilley er efallai fod digwyddiadau penodol yn ddychmygol am a wyddom
ni.
Ar gychwyn y nofel y mae Gilley yn paratoi i gychwyn ar daith y datgelir
maes o law mai Chicago yw ei therfyn ond y mae llawer o atgofion i鈥檞
treulio cyn y gwireddir hynny.
Dydi hi ddim yn nofel hawdd cael i mewn iddi ond yn galw am gryn ymdrech
gan y darllenydd - ond y mae鈥檔 bwysig ychwanegu y gwobrwyir yr ymdrech
honno. Ond dydi hi ddim y math o nofel i鈥檞 darllen ar daith tren,
er enghraifft, fel y ceisiais i ei wneud. Y mae yn galw am fwy o ganolbwyntio
nag a fyddai amgylchiadau felly yn eu caniatau.
Y mae yr awdur yn profi ei hun i鈥檙 eithaf. Nid oes amheuaeth mai un
o鈥檙 meini prawf enbydaf ar unrhyw awdur yw sgrifennu am ddiflastod.
Y mae diflastod yn rhan allweddol o fywyd Gilley. Camp awdur yw gwneud
i鈥檙 hyn sy鈥檔 ddiflastod i gymeriad yn ddiddorol i ddarllenydd.
Y mae Owen Martell yn llwyddo yn hynny ac yn gosod ger ein bron gymeriad
hynod o gymhleth gyda sawl haen i鈥檞 gymeriad.
Y mae yn gymeriad sydd yn amlwg wedi ei greu gan awdur ifanc ond y
mae yma ddawn greadigol y byddai sawl awdur mwy profiadol yn falch
ohoni.
Cadw dy ffydd, brawd gan Owen Martell. Gomer. £6.95
|
|
|