|
|
Chwipio
chwain
a dal
cwningod
Golwg
ar ddywediadau bachog y ffermwr wrth ei waith
Dydd Iau, Ebrill 20, 2000
|
Ni
all rhywun ond edmygu, a rhyfeddu at, lafur ac ymdrech Huw Jones yn
llunio y Cydymaith Byd Amaeth y mae ei ail gyfrol wedi
ei chyhoeddi gan Wasg Carreg Gwalch.
Pan fydd y gwaith wedi ei gwblhau bydd yn garreg filltir mewn geiriaduro
yn y Gymraeg - ac angen tipyn o le ar silff lyfrau rhywun.
Bydd yn bedair cyfrol i gyd a gyda’r ddwy gyntaf dros bedwar can tudalen
yr un, mae’n amlwg fod yma gryn chwysu wedi bod a dim ond at ddiwedd
y llythyren L yr ydym wedi cyrraedd.
Y mae Huw Jones yn adnabyddus fel gweinidog ac fel arweinydd ffraeth
yn yr Eisteddfod Genedlaethol pan nad oedd raid ichi fod yn actor
neu seren deledu i fedru arwain steddfod.
Ef hefyd yw awdur darlith hwyliog y llofft stabal. Darlith sy’n arwydd
bod ei bedigri amaethyddol yn un go sownd.
Chwarel o wybodaeth
Mae’r ddwy gyfrol y mae wedi eu cyhoeddi yn barod yn brawf fod ganddo
chwarel ddishysbydd o wybodaeth am y byd amaethyddol.
Achos y mae’r Cydymaith Byd Amaeth yn llawer iawn mwy
na dim ond geiriadur termau amaethyddol. Y mae’n cynnwys nid yn unig
ystyron geiriau a thermau ond hefyd nodiadau gwerthfawr am arferion
amaethyddol - rhai ohonynt yn arferion sydd wedi peidio a bod erbyn
hyn. Pwy sy'n cofio, fod dal cwningod yn ddiwydiant o bwys yng nghefn
gwlad ar un adeg wrth i ffermwyr drio troi pla yn gynhaliaeth?
Yr hyn sy’n wych gyda'r Cydymaith yw nad oes yr un manylyn
wedi ei hepgor.
Chwilio am lithriad
Tuedd gysetlyd rhywun gyda chyfrolau fel hyn yw eu rhoi ar brawf.
Chwilio am yr hyn sydd ddim yno neu hyd yn oed ddod o hyd i lithriad
neu gamsyniad. A gyda’r gair dyfnu ar ddalen 86 y daliais
innau yr hollwybodus fel petai.
"Cael y sugno, cael i arfer â sugno, cynefio â sugno (am lo, oen,
ebol ayyb)," medda fo.
Wel, nid yn fy rhan i o'r byd, meddwn innau. Mae dyfnu
yn golygu’r gwrthwyneb yn llwyr yno - sef ceisio cael anifail i beidio
â sugno a’i gael i fwyta bwyd go iawn. Yr oeddwn yn synnu i
Huw Jones, sydd hefyd o Sir Fôn, lithro yn y fath fodd.
Ond cyn imi roi croes ar ei lyfr darllenais ymlaen: "mewn cyferbyniad
i diddyfnu sef cael i arfer â pheidio sugno. Gan fod dyfnu
yn ffurf gywasgedig ar ‘diddyfnu’ mewn rhai ardaloedd gall
fod yn gamarweiniol," meddai.
Aaaah!
Gweld y defnydd
Ychwanegiad buddiol at yr eglurhad o eiriau ydi’r dyfyniadau y mae’n
eu cynnwys i ddangos y defnydd o’r geiriau neu ymadroddion mewn llenyddiaeth
ac ar lafar. Eto dan dyfnu mae’n rhoi yr enghreifftiau:O
enau meibion a rhai yn dyfnu y gwnaethost foliant o 1632 ac o
1750 daw’r dyfyniad, "Cig perchyll ac wyn tra fwynt yn dyfnu, i
ddyn ieuangc y mae da."
Nid hen eiriau yn unig yw cynnwys y Cydymaith. Y mae’r ail
gyfrol hon yn cychwyn gyda Chwa ( enw gwrywaidd am ogwydd mewn
olwyn) ac yn gorffen gyda lyri, sef ffurf dafodiaethol ar lori.
Rhwng y ddau begwn cawn ein tywys i fyd sydd weithiau yn rhyfeddol,
bob amser yn ddifyr ac, ar adegau, wedi diflannu yn llwyr megis yn
hanes y dyrnwr. Y mae adran helaeth yn ymwneud a hen arferad y diwrnod
dyrnu .
"Canrif gwta fu oes y dyrnwr mawr yng Nghymru o 60au’r 19g i 60au’r
20g. Eithriad oedd ei weld ar waith ar ôl tua 1970" meddai
- er ychwanega i un Bugeilys Bach yn Llyn fod yn gweithio cylchdaith
ddyrnu mor ddiweddar a 1979.
Goleuo ystyr ymadroddion
Weithiau mae yma eglurhad sy’n goleuo ystyr ymadroddion yr ydym yn
dal i’w defnyddio ond heb sylweddoli eu tarddiad.
Haff, er enghraifft, yn golygu "crafangiad sydyn, gafaeliad
sydyn, cael gafael cyflym" meddai. Eglurhad sy’n rhoi ei wir awryddocad
i’r dywediad cyffredin cael eich hafflau ar rywbeth.
A phan ydym yn son am rywun yn dod ar ei hald faint sy’n sylweddoli
mai trot neu duth ceffyl yw hald a faint hefyd
sydd yn sylweddoli pan yn son am rai yn hyrddio yn erbyn ei
gilydd mai’r gair hwrdd - maharen - yw y gwraidd ac mai darlun
sydd yma o ddau hwrdd yn tylcio ei gilydd? Yn hwrdd-io yn erbyn
ei gilydd.
Mae termau eraill hefyd sydd yr un mor farddonol. Hoffais i chwipio
chwain fel ymadrodd i ddisgrifio cae sydd mor llwm y gellir chwipio
chwain arno. "Priodoldeb y ddelwedd yw bod y cae mor llwm fel nad
oes gan chwain le i guddio," meddai Huw Jones.
Mae hwn yn ddywediad hwylus hefyd i’r rhai hynny sy’n chwilio am ffurf
Gymraeg o no room to swing a cat, achos meddai Huw Jones eto:
"Hefyd, stafell mor fach fel na ellir chwipio chwanen ynddi."
A gyda llaw pe byddech yn son am chwipio cath
yn y Gymraeg, ymadrodd gwlad yw am waith teiliwriaid yr oes o'r blaen
yn mynd o gwmpas ffermydd a chartrefi i deilwrio dillad yn ôl y galw.
Ond gallai rhywun fynd ymlaen am byth fel hyn - yn cyfeirio, er enghraifft,
at un o’r tua deugain o ymadroddion yn cychwyn gyda'r gair dafad.
Diddordeb naturiol mewn geiriau
Y mae gan y rhan fwyaf ohonom ddiddordeb naturiol mewn geiriau ac
ymadroddion a phe byddai ond am hynny y mae i’r Cydymaith ei
apêl.
Ond y mae iddo fuddioldeb hefyd fel gwaith ymchwil sylweddol a bydd
mawr edrych ymlaen at gael ein hafflau ar y ddwy gyfrol nesaf.
Gwelodd y ddwy gyntaf olau dydd o fewn blwyddyn i’w gilydd ac y mae’r
wasg i’w chanmol am hynny o ystyried maint y cyfrolau.
I’w chanmol hefyd am gadw’r pris am y fath waith mor rhesymol a £10
y copi.
Cydymaith Byd Amaeth. Cyfrol 2: chwa-lyri gan Huw Jones.
Gwasg Carreg Gwalch. £10.
Os am ymateb i'r erthygl hon cliciwch ar
glyn.evans@bbc.co.uk
er mwyn gwebostio'n syth.
|
|
|