|
|
Angen
nyrs
i nyrsio'r
nyrsus?
Bwlio
a chamdrin angylion
Dydd Iau, Mai 11, 2000
|
Y mae ymhell dros hanner y Nursing Times yn hysbysebion
swyddi.
Hawdd deall pam os ydi prif erthyglau dau rifyn o'r cylchgrawn yn
llinyn mesur.
Y mae nyrsus yn bobol sy'n cael eu gorweithio a'u bwlio yn ofnadwy.
Dydi hon ddim yn ddelwedd ydym yn ei chysylltu a'r 'angylion' truenus
eu cyflog hyn ond yn ôl arolwg yr NT y mae'n rhywbeth
sy'n digwydd ar raddfa eang o fewn y gwasanaeth iechyd.
"Bullying is rife in the NHS." meddir gan ychwanegu:
"Fel pe na byddai gan nyrsus ddigon i ddygymod ag ef yn amddiffyn
eu hunain rhag ymosodiadau aelodau cecrus a meddw o'r cyhoedd."
.
Pum gwahanol fath o fwlio
A chwynir mai'r peth gwaethaf ynglyn â'r bwlio yma yw fod y
bwlis yn llwyddo i wneud hynny heb gael eu cymryd i gyfrif.
Mae pum gwahanol fath o fwlio:
Lladd ar gymeriad rhywun trwy ddirmyg a sibrydion.
Gwrthod caniatad i'r victim ateb yn ôl trwy weiddi a
rhegi arnyn nhw.
Eu hynysu a'u hanwybyddu
Gwneud eu gwaith yn anodd a'u gorweithio.
Camdrin yn gorffol neu eu bygwth a chamdriniaeth gorffforol.
Mor ddrwg yw cyflwr rhai nyrsus, y mae rhaglenni teledu am nyrsus
ac ysbytai yn codi ofn arnyn nhw. Mae eraill yn dioddef o iselder
ac yn methu cysgu'r nos.
Lludded emosiynol
Fel pe na byddai hyn yn ddigon; y mae rhifyn yr wythnos ganlynol,
yr wythnos hon, o NT yn son am nyrsus meddwl yn y gymuned yn dioddef
o anhwylder seicolegol a lludded emosiynol ac yn gorddefnyddio alcohol
oherwydd stres a phwysedd gwaith.
"Burnt out - is work wrecking your life?" hola'r
NT.
Disgrifir nyrsus wedi ymlâdd yn emosiynol, yn meddwl yn isel
ohonyn nhw'u hunain, yn smocio dros 20 y dydd ac i ffwrdd yn sâl
o leiaf naw diwrnod y flwyddyn.
Nid y math o fywyd y mae rhywun yn ei gysylltu a gwaith nyrs!
Rheswm arall y mae colofnydd o'r enw Mark Radcliffe yn ei gynnig dros
brinder nyrsus. Dywed ef fod yna gymaint o wahanol swyddi fel na all
pobol benderfynu pa un i drio amdani.
Dywed fod yna fwy o wahanol swyddi nyrsio nag sydd yna o wahanol fathau
o siocled a darlunia 45,000 o wannabe nurses a'u trwynau yn
erbyn ffenast y siop nyrsio yn methu a phenderfynu pa flas i fynd
amdano.
Ef hefyd sy'n egluro sut y mae pethau mewn gwirionedd gyda'r swyddi
siwpyrnyrsus mawr eu cyflog yr ydym wedi clywed cymaint amdanyn nhw
yn ddiweddar.
Meddai Radcliffe: "Am bob nyrs ymgynghorol y mae yna rhyw 15,000
o nyrsus gradd D ac am bob swydd glinigol arbenigol y mae yn lond
berfa o swyddi gradd-E.
Help gyda'r bwyd
Ond un swydd newydd ddiddorol sy'n cael sylw'r NT yw un y ward
hostess - sef pobol sydd ar gael ei helpu cleifion gyda'u prydau
bwyd ac yn gweithio rhwng deg y bore a dau y pnawn.
Yn ôl cynllun peilot mae canmoliaeth cleifion ohonyn nhw yn
fawr iawn.
Un peth y mae rhywun yn ymwybodol iawn ohono o ddarllen yr NT
yw fod arian yn rhywbeth sy'n dal i lethu'r gwaith pwysig - a diddiolch,
yn aml - hwn.
Dim rhyfedd fod un colofnydd yn dyfynnu cwestiwn a ofynnodd Julie
Burchill yn y Guardian rai wythnosau'n ôl wrth gymharu'r
cyflog nyrsus ac actorion.
"Pam y mae pobl yn cael cardod am fod yn nyrsus go iawn ond
yn cael ffortiwn am smalio bod yn nyrs?" meddai hi.
Trethu cardiau cyfarch
Un ffordd o godi arian yw trwy drethi a chyfeiria'r NT at awgrym
dyn o Uttoxeter a gafodd sbel mewn ysbyty.
Awgryma ef ychwanegu treth at bris y cardiau hynny sy'n dymuno ichi
wella'n fuan. "Dydw i ddim yn meddwl y byddai neb yn cwyno
talu 50c yn ychwanegol am gerdyn pe byddai'r arian yn mynd i'r gwasanaeth
iechyd," meddai.
Efallai nad ydio'n syniad mor ddwl a hynny.
Nursing Times. £1.10 yr wythnos.
Os yr ydych eisiau ymateb i'r erthygl hon cliciwch isod a gwebostio:
glyn.evans@bbc.co.uk
|
|
|