|
|
Y
baban oedd ar y Lusitania yn sgrifennu llyfr am ddirgelwch
suddo'r llong
Dydd
Iau, Mehefin 15, 2000 |
Dychwelyd
o Winsconsin i Lithfaen ar benrhyn Llyn ar y llong Lusitania
oedd rhieni Ioan Mai Evans yn Hydref 1913 - brin bum mis cyn geni
Ioan Mai.
Bu John Evans, tad Ioan Mai, yn trin ithfaen yn rhai o chwareli’r
dalaith yn Red Granite a’i fam, Ellen, yn gwneud gwahanol swyddi fel
cadw lojars - hefyd yn capela yn Gymraeg ar y Sul ac yn mynychu ffair
flynyddol y cowbois ac yn mynd i’r pictiwrs ambell i bawn gyda phomeranian
ar ei glin.
Colli plentyn oherwydd blerwch
Yr oedd yn dychwelyd i Gymru yn awr am iddi golli ei chyntaf
anedig oherwydd blerwch meddygol ac ofn i’r un peth ddigwydd i’r baban
newydd oedd yn ei chroth.
Lai na blwyddyn wedi ei thaith ar y Lusitania roedd y Rhyfel
Mawr wedi cychwyn ac ym Mai 1915 suddwyd y llong gan long danfor
Almaenig oddi ar arfordir Corc, Iwerddon.
Boddwyd 1,201 - gan gynnwys nifer o Americanwyr cyfoethog,
y criw a thri Almaenwr oedd yn garcharorion yn y celloedd.
Bu’r gresynu am anfadwaith yr Almaenwyr yn fodd, maes o law, i dynnu’r
Unol Daleithiau i mewn i’r rhyfel.
Yn naturiol yr oedd gan Ellen Evans ddiddordeb yn nhynged y llong,
diddordeb a drosglwyddodd i Ioan Mai, ei mab.
Mae'n ddiddordeb sy'n dal yn fyw yn y teulu heddiw, 85 mlynedd wedi'r
digwyddiad. Ar hyn o bryd mae Ioan Mai yn sgrifennu llyfr am y
llong a dirgelwch ei suddo a gyhoeddir cyn diwedd y flwyddyn.
Yr hyn a glywodd ei fam gan y morwyr
Mae ganddo ddamcaniaethau diddorol gyda rhai o’r pethau a glywodd
ei fam gan y morwyr, yn rhyfeddol ddadlennol.
Bedwar mis cyn y fordaith honno yn 1913 yr oedd y Lusitania
wedi bod mewn doc sych yn Lerpwl. Yn ôl Cwmni Cunard yr oedd
hi yno i osod tyrbeins newydd ond mae amheuaeth fawr a yw’r eglurhad
hwnnw’n wir.
Mfwy tebygol o lawer yw fod y leinar yn cael ei haddasu at bwrpas
rhyfel.
Ym mis Mawrth 1914, bum mis cyn cychwyn Y Rhyfel Mawr, cyhoeddodd
Prif Arglwydd y Morlys, Winston Churchill, fod deugain o longau masnach
Prydain wedi’u harfogi at bwrpas amddiffynnol.
Ceir cefnogaeth bellach i’r ddamcaniaeth gan rywbeth a ddywedodd Churchill
mewn cyfarfod ricriwtio yn Lerpwl, lle digwyddai’r Lusitania
fod wrth y cei: "I mi nid yw ond 45,000 tunnell arall o abwyd byw
(livebait)."
Churchill yn gwybod am y perygl?
Defnyddiwyd y gair livebait fel prawf fod Churchill yn ymwybodol
o’r perygl i’r Lusitania. A’i fod yn fodlon ei haberthu er
mwyn pardduo’r Almaenwyr yng ngolwg America, pe suddid hi.
A dyna’n union ddigwyddodd.
"Aeth llawer blwyddyn heibio," meddai Ioan Mai. "Un prynhawn yr oedd
fy mam erbyn hyn wedi troi ei deg a phedwar ugain oed. Canodd y ffôn
a dyma ymchwilydd o'r morlys yn holi a oedd John ac Ellen Evans
yn dal yn fyw. Roedd am wybod beth oedd eu hatgofion o’r fordaith
ar y Lusitania yn Hydref 1913.
‘Deud wrtho fo,’ meddai mam, ‘ma dirty ship o’dd
hi.’ Dyma fi’n ei hannog i ddewis ei geiriau yn fwy gofalus.
"‘Chdi sydd ddim yn dallt’ medda hitha. ‘Y criw o’dd yn ei galw hi’n
dirty ship … a hynny am nad o’dd hi’n cymryd y tonnau fel dylsa
hi. A deud wrtho fo fod y criw yn deud mai'r rheswm am hynny oedd
ei bod hi yn y dry dock yn Lerpwl am ddeufis cyn hwylio i roi
gynnau arni.’
"Diolchodd y dyn ar y ffôn a holodd o ddim mwy."
Bydd edrych ymlaen mawr yn awr at weld union gasgliadau Ioan Mai yn
ei lyfr ynglyn â'r dirgelwch mawr hwn.
|
|
|