|
|
Tri
chylchgrawn Urddasol!
Glyn Evans yn cael golwg ar gylchgronau'r Urdd ar gyfer bywyd
modern
Dydd Iau, Mehefin 15, 2000
|
Cylchgrawn yr Wythnos:
Hoffi'r peth neu beidio mae gennym oll ddiddordeb mewn selebs - hen
air Saesneg, hyll, am bobol sy'n enwog am fod yn enwog.
Maen nhw dan draed rhywun ym mhob man yn dweud ac yn gwisgo y nesa
peth i ddim. Ffrogiau efo mwy o holltau a thyllau nag o ddeunydd ynddyn
nhw.
Y ferch gyntaf ar Channel 4
Un ohonyn nhw ydi'r ferch o Brestatyn, Carol Vorderman, a ddaeth i
enwogrwydd gyntaf am fod y ferch gyntaf ar Channel 4 - ac wedyn am
fod yn beniog.
Erbyn hyn mae hi mor enwog am fod yn enwog am fod yn beniog y mae
gan bobl fwy o ddiddordeb yn ei phen ôl nag yn ei phen gwneud
syms.
Mae'r llun ohoni ar glawr ac oddi mewn i iaw, cylchgrawn
yr Urdd i ddysgwyr ifanc, yn gwbwl weddus fodd bynnag.
Hi yw gwestai'r mis gyda phob math o fân wybodaeth amdani -
ei hen dad-cu yn gweithio yn Indonesia lle helpodd ddarganfod moddion
rhag beri-beri. Ysgrifennodd lyfrau am adar a phlanhigion y wlad.
Mae rhai blynyddoedd ers i mi weld cylchgronau'r Urdd er y byddaf
yn dal i droi at Gymru'r Plant yr oes o'r blaen o bryd i'w
gilydd.
Cymreictod ac addysg ers talwm
Yr oedd pwyslais y rheini yn drwm ar Gymreictod ac addysg.
Does yna ddim mwyach Gymreictod herfeiddiol y gorffennol - heddiw,
gwneud pethau yn naturiol yn y Gymraeg heb bregethu am hynny yw y
dull.
Er bod yna ymdrech o hyd i addysgu mae'r dull yn dra gwahanol i un
gwerslyfryddol y gorffennol er mor arloesol oedd y rheini yn eu dydd.
Yn y rhifyn o iaw a gefais i y mae erthygl am y digartref,
poblogrwydd newydd tatwio eich corff gyda sesiwn holi-ac-ateb â
pherchenogion stiwdio datwio yn Ninbych-y-pysgod.
"Mae'n rhaid i chi fod yn artistig. Mae'n rhaid i chi gael hyfforddiant
am ddwy flynedd. Mae'n rhaid i chi fod yn tatwist am ugain mlynedd
i chi ddod yn Master Tatooist."
Mi fodlona i ar sgrifennu negeseuon ataf i fy hun ar gefn fy llaw
efo beiro.
Digonedd o luniau
Mae'r ddau gylchgrawn arall, Cip a Bore Da
ar gyfer plant iau. Cip ar gyfer rhai rhwng saith ac
unarddeg a Bore Da ar gyfer dysgwyr.
Y ffilm Gwr y Gwyrthiau sy'n cael prif sylw - canmoliaethus
- Cip ond y mae yna hefyd bosau, stori a straeon cartwnaidd
lu.
Hefyd, mae sylw i gwn achub penmaenmawr a darn am gyfres deledu newydd,
Porc Peis Bach.
Mae yna hefyd gyfarwyddiadau sut i wneud coctels heb alcohol.
Mae pwyslais ym mhob un ar gyflwyno'n gyffrous ac yn fywiog - er,
weithiau mae yna duedd i bentyrru pethau.
Cip - 90c; iaw - £1; Bore Da - 80c
|
|
|