|
|
Darlun
gonest
o fardd
a chymêr
Golwg
hefyd ar grefft a chyfraniad y bardd gwlad Cymraeg
Dydd Iau, Mehefin 22, 2000
|
Adolygiad
gan Glyn Evans
Er yn son am un person penodol y mae'r gyfrol Wil Mog a Chrefft
y Bardd Gwlad yn darlunio yn ei gyfanrwydd ddull arbennig o farddoni.
Hynny yw, y mae'r awdur, Arthur Thomas, yn defnyddio un bardd gwlad
i egluro a gwerthfawrogi diwylliant beirdd gwlad yn gyffredinol.
Yn defnyddio'r penodol i ddarlunio'r cyffredinol.
Cymeriad lliwgar o ardal Ysbyty Ifan a Phenmacho oedd Wil Mog. Brawd
i nain Arthur Thomas ac yn "enghraifft berffaith o'r hyn a
olygir wrth yr ymadrodd bardd gwlad."
Ar gychwyn ei gyfrol mae Arthur Thomas yn egluro beth a olyga wrth
fardd gwlad:
"Rhywun sy'n cyfansoddi barddoniaeth yn ymwneud â'i
filltir sgwar neu ei gynefin ei hun," meddai.
"Ond nid bardd wedi ei gyfyngu i'w fro ei hun yn unig . . . Mae'n
canu am ddigwyddiadau byd-eang yn ogystal a gall hefyd fod yn fardd
o safon cenedlaethol."
Ei "gyfrinach" meddai yw mai "bardd ei bobl ydyw."
"Nhw sy'n rhoi hwb iddo gyfansoddi ac wrth glywed ymateb i'w
waith, yn rhoi hwb iddo gyfansoddi mwy. Ni chaiff fwy o foddhad, mi
dybiaf, na chlywed rhywun yn adrodd ei benillion ar y stryd, mewn
siop neu mewn tafarn."
Gwneud i farddoniaeth dalu!
A thalu amdanyn nhw o bryd i'w gilydd hefyd fel ag yn achos Wil Mog
- a wnaeth i farddoniaeth dalu.
"Enillai Wil bum swllt yn gyson mewn eisteddfodau lleol,"
a chyhoeddai gasgliadau o gerddi coffa gan wybod y byddai teulu'r
trancedig yn siwr o brynu.
Sgwennu i batrwm
"Cadwai hanner dwsin o batrymau wrth law, yn union fel y byddai
teiliwr gwlad yn cadw patrymau siwtiau . . . rhif y sillafau yn enw'r
trancedig a benderfynai pa un o'r chwe mesur a ddefnyddiai i'w goffau."
Cyfansoddai ganeuon masweddus ac enllibus hefyd y byddai yn eu
canu yn y dafarn.
Yr oedd yn ddeheuig iawn yn rhoi ei hyd a'i led i rywun megis y blaenor
o amaethwr:
Cynwal Hughes y Pennant
Ffermwr onide,
Mae'n Iesu Grist y bore
A'r diafol amser te
Neu
Edward Lewis dirion
A Jonnie Williams drist,
Y ddau sydd wedi eu crasu
Ym mhopty Iesu Grist
Doedd o ddim yn swil o athronyddu ychwaith:
Mae'n d'wyll
Cymrwch bwyll;
Aiff neb ddim uwch
Wrth odro buwch.
Slatwr, labrwr ac arbenigwr ar gymysgu morter oedd o wrth ei alwedigaeth
ond yn gryn gymêr.
Ysgrifennu i'r papur
Bu'n ysgrifennu i Bapur Pawb dan yr enw Moses Morgan gan ddweud
pethau mawr am wahanol bobol yn null gwasg Gymraeg y cyfnod. Ar y
llaw arall yr oedd yn lluniwr ysgrifau coffa canmoliaethus.
Pan y'i cyhuddwyd o or-ganmol ymatebodd: "Ond mae'n rhaid iti
ddweud rhywbeth am y diawled wsti."
Y mae Arthur Thomas yn ofalus i beidio a diraddio ac iselhau y bardd
gwlad gan sylweddoli ei bwysigrwydd o fewn y gymdeithas wledig.
Ond nid yw'n euog o or-ganmol ychwaith ond yn gweld pethau fel yr
oeddynt:
"Nid oedd barddoniaeth Wil Mog yn farddonol iawn ond roedd
ei ryddiaith yn hynod o farddonllyd," meddai gan ddyfynnu
un o'i frawddegau:
"Yr oedd y sêr yn disgleirio fel botymau pres ar grys nos
yr Hollalluog."
Llyfryn sy'n cynnig darlun gonest o gymeriad y byddai rhywun wedi
mwynhau ei adnabod.
Wil Mog a chrefft y Bardd Gwlad gan Arthur Thomas. Llyfrau
Llafar Gwlad 44. Gwasg Carreg Gwalch. £3.50.
|
|
|