|
|
Cylchgrawn
yr wythnos
Glyn
Evans
yn trafod
Planet
Dydd Iau, Mehefin 22, 2000
|
Byddai
clawr y rhifyn diweddaraf wedi bod yn ddigon i'm perswadio i brynu'r
rhifyn diweddaraf o Planet (rhif 141).
Dydw i ddim yn aficionado mewn gwirionedd. Yr ydwi'n teimlo
fod gen i'r hawl i ddefnyddio gair crand wrth son am Planet
gan fod Planet ei hun yn defnyddio llawer o eiriau nad ydw
i yn eu deall.
Cylchgrawn felly ydi o.
Darllenais ddalen gyfan o Planet deirgwaith rai blynyddoedd
yn ôl heb ddeall beth oedd hi'n ei ddweud.
Os ydi'r Mirror wedi ei sgrifennu ar gyfer rhai y mae eu hoed
darllen yn chwech mae ambell un o awduron Planet yn sgrifennu
fel pe byddent a'u llygaid ar oed yr addewid a mwy . . .
Mi fyddwch chi'n deall, felly, pam mai mynd am y clawr a wnes i'r
tro hwn. Cyfuniad trawiadol o elfennau allan o luniau gan yr arlunydd
Ken Elias, y mae Ceri Thomas yn trafod ei waith.
Yn ychwanegol at hynny y mae detholiad eang o luniau trawiadol i atgyfnerthu'r
geiriau. Y rheini a dynnodd fy llygaid i.
Llawn cystal iddyn nhw wneud hynny.
Bu yna adeg pan mai'r unig beth y byddwn yn ei wir ddarllen yn Planet
oedd sylwadau crafog Dylan Iorwerth ar bynciau'r dydd. Dydi Dylan
Iorwerth ddim yn pigo ac yn goglais mwyach ac mae'r cylchgrawn ar
ei golled oherwydd hynny.
Fodd bynnag, tynnodd sawl erthygl fy sylw - nid lleiaf un holi-ac-ateb
gydag un o'r ychydig wleidyddion sy'n fodlon siarad yn blaen, Tony
Benn.
Braf ei weld o yn rhoi peltan go hegar i'r "consensus politics"
a ddaeth yn gymaint rhan o eirfa gwleidyddol Cymru ers ychydig cyn
dyfodiad y Cynulliad Cenedlaethol.
I mi, mae'n un o'r cysyniadau (gair Planetaidd) hynny yr ydych
yn gwybod yn reddfol nad yw'n iawn.
Dywed Tony Benn mai'r hyn y mae'r math yma o wleidyddiaeth yn ei wneud
yw cuddio'r ffaith mai hanfod gwleidyddiaeth i sosialydd yw'r gwrthdaro
rhwng y rhai sy'n creu cyfoeth a'r rhai sydd biau'r cyfoeth.
Y mae'n rhybuddio hefyd y gall datganoli greu'r argraff o ddemocratiaeth
heb sicrhau hynny.
Erthygl arall a fydd yn peri inni feddwl yw un y golygydd, John Barnie,
am Gyngor Celfyddydau Cymru a'i helyntion dros y blynyddoedd diwethaf.
Y mae o'n galw am ailfeddwl radical ynglyn â noddi'r celfyddydau
yng Nghymru trwy gyflogi swyddogion celfyddyd gyda gweledigaeth
- a rhoi iddyn nhw yr arian i droi eu gweledigaeth yn ffaith gyda
chefnogaeth byrddau pwnc cryfion.
Mae'n dadlau dros ymwrthod ag amaturiaeth a mynd am y sylweddol
yn hytrach na'r poblogaidd.
Pa mor boblogaidd fydd siarad fel yna ymhlith y rhai sydd am fwynhau
celfyddyd sy'n gwestiwn arall.
Perthynas claf a'i feddyg
Ar wahan i'r tywydd yr un peth y mae pobol yn siarad amdano yw eu
hiechyd. Anodd deall, felly, yr anhawster a gaiff sawl un i drafod
yr union beth hwn gyda'u meddyg!
Synnwn i ddim nad yw hynny yn fwy o adlewyrchiad ar ein meddygon nag
arnoch chi neu fi.
Yn Stories Always Have Meanings cawn olwg ar gleifion trwy
lygaid Glyn Elwyn o adran meddygaeth gyffredinol Coleg Meddygaeth
Caerdydd.
Trafod y mae ymweliad pedwar claf ag ef gan roi golwg inni ar bethau
o ochr y meddyg i'r ddesg.
Yr hyn sy'n fy nharo i yw fod Glyn Elwyn yn feddyg tra gwahanol a
mwy cydwybodol na llawer o'r rhai y cefais i, a sawl un o'm ffrindiau
y bum yn siarad a hwy, brofiad ohonynt.
Dim ond gobeithio fod y meddygon hynny ymhlith selogion Planet.
Planet, The Welsh Internationalist - 141. £3.25.
|
|
|