|
|
Creu
llyfr
am helynt
y peis
Wynford
Ellis Owen yn troi dramau teledu yn straeon
Dydd Iau, Mehefin 29, 2000
|
Y
mae'r rhai hynny ohonom sy'n cofio cychwyn S4C yn cael ein temtio
i feddwl - yn hiraethus - am Joni Jones wrth wylio'r gyfres Porc
Peis Bach ar y sianel yn awr.
Hynny'm bennaf oherwydd mai bachgen drygionus yn gwisgo'r hyn oeddem
ni'n ei alw yn bwlofyr yw'r arwr unwaith eto.
Mae cyfnod Porc Peis fymryn yn nes atom - ond ddim llawer o
ran naws a meddylfryd.
Wynford Ellis Owen, un o arwyr - arloesydd, yn wir, gyda Mici Plwm
- teledu plant yn y Gymraeg sydd y tu 么l i Porc Peis ond nad
yw hon mor zany ag anturiaethau Syr Wynff ap Concord y Bos
a Phlwmsan a ddaeth ag ef a Mici Plwm i amlygrwydd gyntaf.
Lladdwyd Syr Wynff a Phlwmsan gan S4C ond cyhoeddwyd llyfr i gydredeg
a'r gyfres Porc Peis Bach yn ystod Eisteddfod Genedlaethol
yr Urdd.
Mae cynnwys Porc Peis Bach, y llyfr, yn addasiad ffyddlon o'r
gyfres deledu sydd i'w gweld ar hyn o bryd.
Sylfaenwyd y stori Porc Pei gyntaf ar ddigwyddiad go iawn yn
hanes Wynford Ellis Owen sydd fel Kenneth Robert Parry y straeon yn
fab i weinidog ac a oedd yn blentyn - drygionus, siwr o fod - yng
nghyfnod y straeon.
Mae'r stori wreiddiol - a'r gyntaf yn y llyfr - yn ymwneud a Wynford,
pan yn fachgen, yn torri yn ofalus waelod porc pei a dwyn y cig ohoni
cyn gosod y gwaelod yn ôl fel pe na byddai wedi ei chyffwrdd.
O ganlyniad ymwelodd cynrychiolydd gwneuthwyr y peis a'i gartref a
chyfaddef yn eu hanwybodaeth mai nhw oedd ar fai! Mae honno'n stori
wir, fe'm sicrhaodd.
Y mae Kenneth Robert Parry y math o hogyn yr oeddem yn gyfarwydd ag
yng nghomics y cyfnod dan sylw - yn ddrygionus yn hytrach nag yn ddrwg.
Bachgen ei gyfnod ydi o ac y mae hynny, yn fy marn i, yn sicrhau fod
apêl y llyfr a'r gyfres deledu gyda'i hymdeimlad o gyfnod yn
fwy, mewn gwirionedd, at oedolion nag at blant yr oes hon.
Porc Peis Bach gan Wynford Ellis Owen. Hughes. £3.99
|
|
|