´óÏó´«Ã½


Explore the ´óÏó´«Ã½

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



´óÏó´«Ã½ Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y llyfr cyntaf Hir oes
i Harry!

Kathryn Rowlands yn egluro sut y cafodd
ei hudo i fyd
Harry Potter

Dydd Iau, Gorffennaf 6, 2000

Y mae cysylltiad ar ddiwedd yr erthygl hon ag erthygl arall berthnasol

Os gwelsoch chi fi yn edrych braidd yn llechwraidd mewn siop lyfrau yng Nhaerdydd yn ddiweddar, doeddwn i ddim yno i brynu pornograffi!

Y rheswm tu ôl i’r olwg euog ar fy wyneb oedd mai chwilio am lyfyr i blant oeddwn i!

I mi fy hun! Does gen i ddim plant - quash those rumours NOW!

Chwilio am achosion llwyddiant

Roeddwn i eisiau gweld beth yn union yw apêl ffenomenon ddiweddaraf byd llenyddol Lloegr, y cymeriad Harry Potter, a grewyd gan J K Rowling - awdur o’r enw Joanne Rowling.

Paham y mae’r llyfyr diweddara wedi ei werthu'n llwyr trwy rag-archebion hyd yn oed cyn iddo gael ei gyhoeddi?

Ar y cychwyn, teimlwn braidd yn dwp yn darllen cyfres wedi ei hanelu at blant wyth i naw oed - ond unrhywbeth dros ymchwil!

Ond pam y dylwn i deimlo'n euog ac un lyfrau'r gyfres, Harry Potter and the Prisoner of Azkaban, wedi ei enwebu am ar gyfer Gwobr Whitbread?

Hefyd, mae Warner Bros. yn chwilio am actorian ifainc i chwarae rhannau Harry a’i ffrindiau mewn ffilm gyda Rowling wedyn yn gwneud mwy o filiynau allan o’r mân gynhyrchion.

Daeth J K Rowling, sydd wedi byw yng Nhasgwent, yn fenyw gyfoethog iawn ers sgwennu’r storïau yma.

Er gwybodaeth i chi sy’ di bod ar blaned arall dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r gyfres wedi gwerthu tua 35 milwiwn drwy’r byd.

Cyfieithwyd ei gwaith i tua 40 iaith yn amrywio o Affricaneg i gyfieithad ar gyfer Iwgoslafia .

Dywedodd asiant J K Rowling ei bod yn eitha posib y bydd yna drosiad Cymraeg.

Man cychwyn y llwyddiant

Cychwyn yr holl lwyddiant oedd y llyfyr, "Harry Potter and the Philosopher’s Stone" - stori am fachgen sy'n byw bywyd torcalonnus ar ôl colli ei fam a'i dad, gyda’i fodryb, ei ewythr a’i gefnder - y teulu Dursley.

Mae e’n cael ei drin yn waeth na Sinderela nes bo popeth yn newid pan yw’n cyrraedd ei unarddeg oed a darganfod ei fod yn ddewin!

Nid dewin cyffredin, chwaith, ond un enwog!

Mae e’n cael ei alw lan i ysgol dewiniad ifanc, Hogwarts - ble mae’n gwneud ffrindiau da, yn dysgu am hud ac yn cael sawl antur.

Ers wythnosau bu'r heip yn anferth ar gyfer cyhoeddi y pedwerydd llyfyr. Cadwyd ei enw'n gyfrinach tan y funud olaf gyda dim ond pedwar person o fewn cwmni cyhoeddi Bloomsbury yn gwybod yr enw.

Y cwestiwn sy'n rhaid ei ofyn yw - odi’r llyfrau yn cyfiawnhau'r heipio?

IHeb os nac onibai - ydyn!

Rwy'n awr wedi cwblhau’r ail lyfr, "Harry Potter and the Chamber of Secrets" ac yn edrych `mlân at y trydydd a'r pedwerydd a fydd ar gael ddydd Sadwrn.

Beth sydd wrth wraidd y llwyddiant?

Beth, felly, sy’n gwneud y gyfres mor llwyddiannus? Wedi’r cyfan, dyw’r llyfrau ddim yn "cool" - dwi ddim yn cofio unrhyw mensh am gyfrifiadur na miwsig cyfoes.

Falle mai dyna ran o’r apêl.

Odyn, mae’r llyfrau’n hen ffasiwn. I chi sydd wedi darllen llyfrau Enid Blyton - yn enwedig y gyfres "Secret Seven" a "Mallory Towers" - maent yn atgoffa dyn o ddyddiau mwy diniwed heb ryw nac ysgariad. Hefyd y mae i’r themâu adlais o sgrifennu Roald Dahl gyda’r ddewiniaeth a gwrachod.

Mewn un cyfweliad cyfaddefodd Rowling iddi ddod dan ddylanwad straeon
Narnia.

A defnyddiodd hithau, fel Clive Staples, lythrennau ei henw fel awdur. Yn ei hachos hi, rhag i fechgyn gymryd yn erbyn llyfr wedi ei sgrifennu gan fenyw.

Fformiwla sy'n gweithio

Gwir y gall y llyfrau fod yn fformiwlaïg - ond mewn ffordd dda. Mae'n fformiwla sy'n gweithio gystal ag un o driciau hudol Harry.

Mae Rowling yn gwybod y rheolau; sut i ysgrifennu, sut i greu sefyllfa a chymeriadau.

Ac y mae'r enwau yn siwtio’r cymeriadau - neb yn fwy cyffredin na Harry Potter; neb yn 'fwy drwg' na Valdemort neu Draco Malfoy.

Hen, hen, dric o ddynodi cymeriad a ddefnyddiwyd gan Charles Dickens wrth greu pobol fel, Uriah Heep.

Mae Rowling yn ymwybodol o beth sy’n apelio at blant: pethau sy'n codi ofn
pethau cyfarwydd ond mewn sefyllfaoedd anghyfarwydd - fel ysgol yn llawn dewiniaid;
sefyllfaoedd anodd ond yn gallu cael eu datrys.

Y da yn erbyn y drwg

Dyw hi ychwaith ddim ofn trafod marwolaeth a’r "wyddor ddu". Mae’r hen themau o dda yn erbyn y drwg yn rhedeg drwy'r gyfres

Wedi’r cyfan, beth mae plant yn ei hoffi? Maen nhw’n hoffi rheolau pendant, clir; gwybod y gwahaniwaeth rhwng da a drwg, a ffrindiau da i’w helpu pan fo pethau’n dywyll.

Mae’r rhain yn y gyfres hon - a mwy.

Rwy’n siwr i'r llyfrau hyn beri i filoedd o blant droi eu cefn ar eu cyfrifiaduron sawl noson - a darfganfod y byd gorfoleddus `na, Y Dychymyg.

Fe fwynheais i’r llyfrau, felly? Do, wrth gwrs - mewn byd mawr drwg mae’n dda gweld fod y dyn bach yn gallu ennill - o hud!

Hir ac anturus oes i Harri Potter!

Am farn arall, cliciwch yma

 
Wythnosau Blaenorol:


Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2



About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy