|
|
Cylchgrawn
yr Wythnos
'Angen help ar ddynion
sy'n taro
merched'
Dydd
Iau, Gorffennaf 13, 2000 |
Nid
mewn cylchgrawn merched y byddai rhywun yn disgwyl darllen y geiriau,
"Does dim rhaid ichi adael dyn, dim ond oherwydd ei fod yn ei taro."
Ond dyna farn un o gyfranwyr Aura, "a new magazine
for grown up women."
Anne Atkins ydi鈥檙 ferch sy鈥檔 dweud nad yw cael swaden gan y gwr y
peth gwaethaf a all ddigwydd i ferch.
Yn wir, yn 么l Anne, "y mae llawer o wyr treisgar yn caru eu gwragedd,
yn cas谩u colli rheolaeth ac eisiau rhoi鈥檙 gorau iddi."
Hyd yn oed yn ddyn yr ydw i鈥檔 ei chael yn anodd llyncu鈥檙 agwedd hon
ond mae hi鈥檔 mynnu nad anghenfilod ac ysgymun bethau yw dynion gwyllt
(violent) ond pobol gyffredin sydd, fel rheol, yn caru eu partneriaid.
Mae鈥檔 anodd peidio ag ychwanegu fod gan y partneriaid hynny gleisiau
cyffredin i brofi鈥檔 wahanol ond yn 么l Anne ein cydymdeimlad nid ein
beirniadaeth mae鈥檙 dynion hyn ei angen.
Rhywbeth arall sy鈥檔 bygwth merched yw disgyrchiant - gravity.
Mae ei effaith mor andwyol ar fronnau merched y mae Aura yn
rhoi dalen o鈥檙 neilltu i drafod "Keeping the oomph im your bosom".
Y dewis olaf er mwyn atal cwymp bronnau tua鈥檙 deheudir yw mynd dan
y gyllell ond gall ymarfer gyda phwysau sicrhau fod gwell si芒p ar
ferch trwy gryfhau鈥檙 cyhyrau pectoral.
Cyn bwysiced i fab a merch yw cyflwr y meddwl ac i鈥檙 perwyl hwnnw
y mae Aura, gynghorion fel:
Rhaid
ymarfer yn rheolaidd i gadw dementia
draw
osgoi stres gan fod pryderon yn arafu
llif y gwaed i鈥檙 ymennydd
cadw鈥檙 meddwl i fynd gyda gemau a physls
gweddio neu synfyfyrio
byw, bwyta ac yfed yn dda a rhoi鈥檙 gorau
i smocio.
Un sydd wedi bod drwy鈥檙 felin iechyd ydi Vanessa Feltz sydd ddim hanner
y ddynes oedd hi鈥檔 arfer bod.
"Five stone that was once me floats somewhere in the ether, hovering
above a town near you," meddai鈥檙 feinwen newydd mewn erthygl yn sôn
amdani yn dewis dillad nofio.
Mae鈥檔 ddigon gwir, ei bod yn amhosib cael gwared a rhai pobol.
Cylchgrawn ar gyfer y merched syber hynny yn ein plith ydi Aura
o gymharu 芒鈥檙 menywod beiddgar hynny sy鈥檔 darllen am organics ac orgasmau
mewn pethau fel Company a Cosmo.
At rywun o鈥檙 enw Paula sy鈥檔 rhyw led-orweddian yn ei dillad i gyd
ar draws gwely go gysurus mewn llofft go grand y maen nhw鈥檔 sgwennu
am gyngor ynglyn 芒鈥檜 byw bob dydd.
Gwraig o Lanelli yn cwyno mai鈥檙 cyfan a wnaeth ei gwr pan oedd hi鈥檔
ail harddu鈥檙 ty oedd gorwedd ar y soffa gyda chopi o鈥檙 Spectator
dros ei hwyneb.
Yn awr, medda hi, mae o eisiau gosod y bidet lle mae hi wedi rhoi鈥檙
sinc yn y bathrwm.
"Pam?" medda hi.
Cyngor Paula yw iddi synfyfyrio, tra鈥檔 defnyddio鈥檙 bidet, bethau pa
mor ryfedd yw dynion.
Yn wir - yn taro鈥檜 gwragedd ac yn darllen y Spectator!
Aura. Gorffennaf. £2.50
|
|
|