|
|
Edmygwyr
Edward Llwyd
ar dramp!
Cymdeithas
Edward Llwyd yn cyhoeddi llyfr
o deithiau cerdded
Dydd Iau, Gorffennaf 13, 2000 |
Byddai’n
hawdd i rywun gael ei gamarwain gan deitl y llyfr, Teithiau
Edward Llwyd, i feddwl mai son y mae am deithiau gan
y naturiaethwr hynod hwn o’r ail ganrif ar bymtheg.
Yr hyn sydd yma, fodd bynnag, yw 13 o deithiau cerdded yng nghanolbarth
a deheubarth Cymru a brofwyd gan aelodau y gymdeithas gyfoes a sefydlwyd
er cof amdano.
Y mae’r gyfrol hon yn chwaer i un arall o deithiau yng ngogledd Cymru.
Er bod yna 11 o wahanol gerddwyr yn cyflwyno’r teithiau yr un yw’r
patrwm ar gyfer pob un:
Map
Dalen gyntaf yn rhoi manylion
am hyd y daith, sut i gyrraedd y man cychwyn, lleoedd parcio, cyfleusterau
ac ati
Disgrifiad yr awdur neu gyd-awduron
o’r daith a'i hynodion
Mae pawb yn wybodus iawn am ei fro ac wedi ffureta pob math o wybodaeth
ddifyr sy’n mynd i annog mwy nag un teithiwr talog i ddilyn yn ôl
eu traed.
Y mae cysylltiad uniongyrchol ag Edward Llwyd ei hun yn ystod taith
Llanfihangel Genau’r Glyn yng nghwmni Eddie a Bethan Jones. Meddent:
"Roedd Glanfrêd yn gartref Bridget Pryse, mam Edward Lhuyd. Pan
aned Edward Lhuyd roedd ei dad, Edward Lloyd, eisoes yn briod ac fe
ddiarddelwyd Bridget gan ei thad a’i hanfon ymaith. Maged Edward Lhuyd
gan ei fam faeth, Catherine Bowen, yn Llanforda, cartref ei dad ger
Croesoswallt. Nid oedd gan ei fam na’i dad lawer i’w ddweud wrtho
pan oedd yn ifanc."
Dyfynnir ei dad yn ei ddisgrifio fel bachgen anufudd a thrahaus.
"Yn ei ewyllys gadawodd Edward Lloyd £10 i Mrs Bridget Pryse a’i ‘fine
linen to Edward, son of Mrs Bridget Pryse’," meddir.
Wedi’r cychwyn hwn daeth Edward Lhuyd yn naturiaethwr mwyaf blaenllaw
ei ddydd ac yr oedd hefyd yn hynafiaethydd ac yn ieithydd o fri.
Gan gychwyn ym Mai 1697 bu’n teithio Cymru, Iwerddon, yr Alban, Cernyw
a Llydaw am bedair blynedd.
Bu yn y coleg yn Rhydychen a’i benodi yn Geidwad Amgueddfa Ashmole
yno yn 1691. Bu farw yn 1708, flwyddyn wedi ei ethol yn Gymrawd y
Gymdeithas Frenhinol.
Y mae holl rychwant ei ddiddordebau yn cael eu hadlewyrchu yn y
gyfrol hwylus hon o deithiau.
Y mae gemau lawer i’w darganfod yma gyda’r teithiau yn amrywio o un
o amgylch cynefin Hen Dy Fferm D. J. Williams yn Rhyd
cymerau i un arall yng nghwmni Dafydd Islwyn i fyny Cwm Rhymni.
Mae o’n gwadu’r sylw mai "twll o le" yw’r cwm diwydiannol hwn. Mae’n
gyfoethog ei gysylltiadau llenyddol: bu’r Prifardd Trefin yn deiliwr
yn y Bargoed ac y mae cysylltiadau amlwg a’r bardd Eingl-Gymreig,
Idris Davies. Ac y mae Dafydd Islwyn yn holi lle tybed yn y cwm y
gwelodd Crwys yr hen wr yn ysgubo’r dail.
Yn ardal Llambed y mae Ieuan H. Roberts yn adrodd hanes trist CaeSion
Phillip a sut y twyllodd tirfeddiannwr oedd eisiau prynu’r cae y llysoedd
i grogi Sion er mwyn cael y tir.
Teithiau Edward Llwyd. Cyfrol 2, Canolbarth a Deheubarth Cymru.
Gwasg Carreg Gwalch. £4.50
|
|
|