|
|
Mae'r
wlad
mewn rhyfel!
Cylchgrawn
am waed
Tony Blair a'i Lywodraeth
Dydd Iau, Gorffennaf 27, 2000
|
Cylchgrawn
yr wythnos: The Field
Mae’n rhyfel.
"Yr oeddem ni i gyd yn gwybod ein bod yn ymladd yr anfad a’r ysgeler
ac yr oedd hynny’n sbardun."
Er mai "Ychydig" y Battle of Britain ²â·É’r ni
yn y dyfyniad hwn; y mae’r geiriau’n berthnasol i’r hyn y mae The
Field yn ei weld yng nghefn gwlad gwledydd Prydain heddiw.
Ac i’r Field ²¹â€™i Ychydig o ddarllenwyr, Tony
Blair ²¹â€™i Lywodraeth ²â·É’r Hitler a’r Drydedd Reich newydd.
"Pe byddwn i’n cyfarfod Blair byddwn yn dweud wrtho; ‘Dos ac edrych
yn iawn ar dy hun, was. Iti gael gweld beth wyt ti’n ei wneud.’
"Dydw i ddim yn recno fod Blair yn Brydeiniwr a phe byddwn yn
ei weld byddwn yn gofyn iddo pa waed arall sydd ganddo achos mae o’n
gwerthu popeth. Pe gallai, byddai’n gwerthu hyd yn oed yr awyr yr
ydym yn ei hanadlu i’r blydi fforinars’, meddai Robert Staley sy’n
ffermio Bannau Brycheiniog ger y Gelli Gandryll.
Bygwth torri'r gyfraith
Yn y gwraidd, yr hyn sydd wedi gwylltio Mr Staley ac eraill yng nghefn
gwlad yw agwedd Mr Blair ²¹â€™i Lywodraeth tuag at hela.
Mae’r gwladwyr hyn mor gacwn maent yn bygwth torri’r gyfraith mewn
protest ac yn cymharu eu hunain a’r hen syffrajets.
"Os caf i fy arestio am farchogaeth o gwmpas yn dilyn haid o gwn yna
rwy’n credu fod hynny’n wiriondeb llwyr. I be ydan ni’n dod," meddai
gwrthwynebydd arall gan adlewyrchu barn y Field yn gyffredinol.
Fel mae ei enw’n awgrymu, cylchgrawn i drigolion cefn gwlad yw The
Field.
Ond nid yr hen yd y wlad y cefais i fy magu yn eu plith oedd yn anelu'r
ganan at ambell i gwningen neu ffesant ac yn meddwl fod poeri sug
baco dros freichiau noeth yr hogia yn hen hwyl iawn ond yr yd heibrid
hwnnw sy’n byw mewn palasau y mae eu lluniau yn atgoffa rhywun o bostcards
gwyliau yn hysbysebion yr amryfal werthwyr ystadau sy’n cefnogi’r
cylchgrawn.
Disgwyl miliwn o brotestwyr
Ac mae nhw yn gandryll wrth weld eu ffordd o fyw yn
newid.
"Will Prisons be filled with Country Folk?" holir ym
mhennawd un erthygl.
"We are ready to mobilise," meddai pennawd llith y golygydd,
Jonathan Young, sy’n gobeithio y bydd y 300,000 a fynychodd orymdaith
ddiwethaf y Countryside Alliance trwy Lundain wedi tyfu’n filiwn
erbyn y tro nesaf.
"Y tro hwn rhaid iddo fod yn filiwn a rhaid iddynt gael eu cyfrif
gan dri arolygwr annibynnol fel na all y ´óÏó´«Ã½ chwarae’r nifer i lawr,"
meddai.
Dywed ef nad oes gan y Llywodraeth barch o gwbl tuag at y lleiafrif
gwledig sydd eisiau hela’r llwynog a mwynhau yr hyn sy’n cael eu galw’n
chwaraeon cefn gwlad.
A rhag bod unrhyw gamargraff nid gwneud campiau efo genethod del yng
nghlydwch peraroglus teisi gwair ar eu hanner yw chwaraeon cefn gwlad
i’r rhain ond hela gyda meirch, cwn a gynnau cain unrhyw beth o lwynog
i eog o ffesant i garw.
Sbas a vegans
Eu gelynion, ar wahân i Mr Blair, yw giwed trefol y cyfeirir atynt
fel Sabs (saboteurs) a "bunch of vegans"
sy’n dangos mwy o barch at anifeiliaid nag at feistri tir a'u ffordd
o fyw a hela.
Dim rhyfedd eu bod yn chwilio am ysbrydoliaeth ymhlith Bechgyn Brylcream
llu awyr yr ail Ryfel Byd a’r rhai hynny sy’n dal i ymladd brwydrau
y cavaliers a’r pengryniaid gan ailfyw'r gorffennol yn nillad
yr ail ganriar bymtheg.
Yr Hen Gant
Yn sbardun hefyd y mae’r Hen Gant ei hun, y Fam Frenhines gydag erthygl
arbennig yn dartgleu pysgotwraig mor ddeheuig oedd hi yng nglesni'i
dyddiau a llun ohoni gyda slaff o eog ar fachyn.
"HM The Queen Mother, a true Country Lady,"
meddan nhw.
Ei "leg problem" a phall ar ei golwg, meddai'r Field,
a'i gorfododd i hongian ei wedars a rhoi’r gorau iddi.
Yr ofn yw y bydd yr hen goes arall, Tony Blair, yn eu gorfodi i gyd
i wneud felly yr un modd. . .
The Field. Awst 2000. £3.10.
Cliciwch yma
er mwyn mynd yn syth i'n rhestr o lyfrau sydd newydd eu cyhoeddi.
|
|
|